David Melding: Rwy'n falch iawn o siarad yng ngham olaf y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth heddiw. Fel y dywedais ar y dechrau, yng Ngham 1, un cam yn unig yw'r Bil hwn yn yr ymdrech i adeiladu marchnad dai sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Yn wir, mae’n annheg fod tenantiaid ledled y wlad yn wynebu costau annisgwyl ac afresymol, a dyna pam fy mod yn hapus y byddwn yn gwahardd y ffioedd hynny, ynghyd â...
David Melding: Prif Weinidog, byddai'n anghwrtais i ofyn yn y fan yma beth yw eich graddfa gyflog bresennol, ond credaf ei bod yn deg dweud pe byddech chi'n is-ganghellor chi fyddai'r un â'r cyflog isaf yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hyn yn fesuriad o ryw fath. Pan fo cyflog uwch swyddogion mewn prifysgolion yn sylweddol uwch na'r hyn yr ydych chi'n ei gael, yna maen nhw angen cyfiawnhad eglur dros hynny,...
David Melding: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn heddiw? Ac a gaf i hefyd, Dirprwy Lywydd, gydnabod y cyfraniad rhagorol yr ydych chi wedi ei wneud yn y maes hwn, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol? Credaf fod cyhoeddi'r cyngor hwn gan y grŵp arbenigol yn garreg filltir i bawb sy'n gysylltiedig ar gyfer sicrhau bod pobl sy'n byw mewn blociau adeiladau yn ddiogel ac yn teimlo'n...
David Melding: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth y diwydiant e-chwaraeon yng Nghymru?
David Melding: Weinidog, a gaf fi eich cymeradwyo am geisio cael cymaint o'r casgliad cenedlaethol allan yno ag sy'n bosibl er mwyn iddo gael ei weld? Mae gormod ohono wedi'i gadw mewn storfeydd a dylem gofio bod yr eitemau hyn yno i'w gweld a dyna pam y maent yn y casgliad yn y lle cyntaf. A wnewch chi ymuno â mi i ganmol gwaith Dawn Bowden yn hybu gwybodaeth am gymuned Iddewig Merthyr Tudful, a sefydlwyd...
David Melding: Weinidog, credaf y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi ymdrin ag achosion sy'n peri gofid yn aml mewn perthynas â'r agwedd benodol hon ar ofal ac rydym yn sôn am rai o'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Rwyf wedi cael profiad o achosion lle nad yw'r cynllun triniaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn, mewn gwirionedd, ar ôl i unigolion gael eu derbyn fel cleifion mewnol...
David Melding: Nid byd Benny Hill yw hwn, wyddoch chi.
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddweud bod Darren Millar wedi dechrau'r ddadl hon drwy ddweud bod dadleuon iechyd meddwl ymhlith y dadleuon gorau a gawn yn y Cynulliad? A bu'r Gweinidog yn hael wrth gydnabod naws adeiladol y ddadl hon, a chredaf y byddem oll yn cytuno iddi fod yn ddadl ystyrlon a phriodol iawn. Aeth Darren ymlaen i siarad hefyd am y straeon personol a roddwyd gan nifer o...
David Melding: Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r sefyllfa yng nghlwb nofio dinas Caerdydd lle, yn gynharach eleni, ar ôl trosglwyddo pwll nofio rhyngwladol Caerdydd i Legacy Leisure, a gostyngiad dilynol i gymhorthdal y Cyngor o £100,000, canfu'r clwb bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i £53,000 y flwyddyn a cholli amser yn y pwll. Mae'r clwb hwn wedi bod yn weithredol am dros 40...
David Melding: Trefnydd, fe fyddwch yn ymwybodol bod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi yng nghynhadledd eich plaid ddechrau mis Ebrill y bydd adran 21 ar droi pobl allan o'u cartrefi yn cael ei dileu. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cyhoeddiad tebyg y bydd y rhain yn dod i ben, a'u bod yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn un o brif achosion digartrefedd ymhlith teuluoedd. Gwnaeth Llywodraeth y DU ddatganiad...
David Melding: Gobeithio y bydd y Cynulliad yn caniatáu imi fynd â ni i gyd yn ôl i 1984 a'r ymgyrch etholiad arlywyddol a defnydd Walter Mondale o slogan cwmni bwyd cyflym Wendy's, 'Where's the beef?' Rydym ni wedi symud mewn cylchoedd sawl gwaith erbyn hyn, mor bell yn ôl â mis Gorffennaf 2016. Ac o ran Cymru Greadigol, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth hon yn ymwneud â'r paratoi'r heb wneud...
David Melding: Efallai y caf ddweud wrthych, Ddirprwy Lywydd, imi dreulio rhan o doriad y Pasg yn darlithio yng Ngholeg William a Mary ar y pwnc, 'Prydain ar ôl Brexit'. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y teitl wedi'i ddewis ym mis Rhagfyr, pan nad oedd yn ymddangos mor eithafol o annhebygol. Ymwelais â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gynharach yn y flwyddyn, ac roeddent yn gwybod am fy nghysylltiad â'r...
David Melding: 7. Beth yw barn Llywodraeth Cymru am y defnydd o barthau 20 mya yng Nghymru? OAQ53821
David Melding: A gaf i longyfarch y Prif Weinidog am wneud fy nghwestiwn atodol yn gwbl ddiangen? [Chwerthin.] Oherwydd roeddwn i'n mynd i alw am yr union safbwynt rhagosodedig hwnnw. Mae'n rhesymegol ein bod ni'n gosod y terfyn safonol mewn ardaloedd adeiledig yn 20 mya ac yna mae gan gynghorau'r grym i'w osod yn 30 mya ar gyfer y llwybrau mwy uniongyrchol hynny drwy eu hardaloedd trefol.
David Melding: 8. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda swyddogion maes awyr Caerdydd ynghylch ehangu ei wasanaethau cludo nwyddau a'r ardal fusnes? OAQ53820
David Melding: Weinidog, mae'r maes awyr wedi wynebu ychydig o anawsterau yn ddiweddar—a chyhoeddiad Flybe yw'r gwaethaf. Nid wyf yn siŵr a fyddech wedi clywed bod Peter Phillips, cyn-uwch reolwr ym Maes Awyr Caerdydd a chyn-gynghorydd i feysydd awyr Brisbane ac Amsterdam, wedi dweud bod angen i Faes Awyr Caerdydd ddatblygu ei wasanaethau cludo nwyddau a'i barth busnes mewn ymateb i gyhoeddiad Flybe. O...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig ar bwnc sydd—credaf ei bod yn deg dweud—yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'n bwnc sy'n ffres ac yn gyffrous iawn yn fy marn i, ac mae iddo botensial ar gyfer twf sylweddol yng Nghymru os yw'n cael y gydnabyddiaeth a'r sylw haeddiannol yn sgil ei lwyddiant hyd yma. Ledled...
David Melding: Nawr, mae e-chwaraeon wedi bod o gwmpas ers cyhyd â'r diwydiant gemau fideo ei hun, ac maent yn cyfeirio'n gyfunol at chwarae gemau fideo cystadleuol gan chwaraewyr proffesiynol ac amatur. Yn ôl yn y 1990au cynnar, roedd yn bodoli'n syml drwy fod grŵp o ffrindiau yn eistedd o amgylch consol Sega Mega Drive neu Nintendo 64. Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cynnydd yn y nifer sy'n...
David Melding: Mae'r potensial, Ddirprwy Lywydd, yn amlwg yn eang, ond eto, nid yw Cymru wedi chwarae ei rôl lawn na'r rôl y gall ei chyflawni, er gwaethaf rhywfaint o weithgarwch clodwiw, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cyfeirio at hynny yn nes ymlaen. Ond dyma ddiwydiant sydd eto i gyflawni ei botensial llawn mewn gwirionedd, ac os gallwn fynd ati yn awr i fanteisio ar y tueddiadau hyn, gallwn fod...
David Melding: Wel, rhaid imi ddilyn sylw ysbrydoledig y Gweinidog sef, wyddoch chi, efallai mai dyma'r byd a fydd bellach yn nodi 20 mlynedd nesaf datganoli, lle byddwn yn trafod pynciau y byddwn yn cytuno'n fras arnynt, ond pynciau sy'n dal yn hanfodol i'n cymdeithas—ac yn yr achos hwn yr economi a'r diwydiannau creadigol. Ond a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon? Mae wedi bod yn...