Mark Reckless: Ie, yr Wyddfa yw'r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, yn sicr—[Torri ar draws.] Y mynydd uchaf yng Nghymru hefyd. Mae hynny'n wir hefyd. Nid wyf yn meddwl mai dyna'r mynydd uchaf yn Lloegr, beth bynnag a ddywedodd Dafydd Elis-Thomas yn flaenorol. Rwyf wedi rhoi sylw difrifol i'r dadleuon. Mae gan lawer o wledydd yn y byd systemau ffederal, ac un o atyniadau posibl system ffederal yw bod...
Mark Reckless: Ildiaf i David, a fydd yn fy addysgu ymhellach ar y pwynt hwn.
Mark Reckless: Rwy'n cytuno y bu rhywfaint o lanw a thrai yng ngrym a dylanwad y taleithiau ac yn arbennig, lle bydd talaith yn cyflwyno syniad polisi da ac yn gwneud pethau'n well na thaleithiau eraill, yn aml bydd y taleithiau eraill hynny'n eu mabwysiadu, neu o bosibl bydd y Llywodraeth ffederal yn ceisio ei roi ar waith. Ac oes, mae yna densiynau mewn ffederaliaeth, ac mae'n rhoi grym i oruchaf lys, ond...
Mark Reckless: Gwnaf.
Mark Reckless: Rhun, rwy'n ymwybodol o'ch barn; nid wyf yn credu bod llawer yn ei rhannu dyna i gyd. Pe na bai Lloegr yn cefnogi parhad y system ddatganoledig bresennol, nid oes gennyf fawr o amheuaeth y byddai Cymru, mewn pleidlais dan orfodaeth, yn dewis y status quo blaenorol neu Lywodraeth bron yn unedig rhwng Cymru a Lloegr, yn hytrach nag annibyniaeth. Credaf, fodd bynnag, fod yna anfanteision...
Mark Reckless: A yw'n cofio'r geiriad ar y papur pleidleisio lle dywedai, 'ni all y Cynulliad ddeddfu ar drethiant, beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais hon', ac onid yw'n credu y dylid parchu hynny?
Mark Reckless: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau? Rwy'n gresynu braidd at gywair y ddau gyfraniad diweddaraf oddi ar feinciau Llafur, oherwydd roeddwn yn meddwl bod llawer o'r cyfraniadau cyn hynny yn feddylgar iawn ac roeddem yn cael dadl dda. Ac a gaf fi atgoffa'r Gweinidog, yn arbennig, pan fydd yn siarad am danseilio democratiaeth, fod Cymru wedi pleidleisio i adael yr...
Mark Reckless: Pan gawsoch chi eich penodi'n Brif Weinidog, dywedodd 60 y cant o bobl a holwyd gan YouGov nad oedden nhw'n gwybod pwy oeddech chi. Pan ofynnodd YouGov eto ar ôl i chi fod yn Brif Weinidog am flwyddyn, nid oedd hanner y bobl yng Nghymru yn gwybod pwy oeddech chi o hyd, nac ag unrhyw farn amdanoch chi. Pan gawsant eu holi yng Nghymru fis yn ôl ynghylch pwy fyddai'n gwneud y Prif Weinidog...
Mark Reckless: Diolch am eich ateb cryno, Prif Weinidog. Yn y refferendwm lai na 10 mlynedd yn ôl, gofynnwyd i bobl Cymru a oedden nhw'n cytuno i bwerau deddfu gael eu datganoli mewn 20 maes penodedig. Felly, sut ydych chi'n cyfiawnhau nawr bod yr holl bwerau wedi'u datganoli, ac eithrio'r rhai a gedwir yn San Steffan? Y prynhawn yma, rydym ni'n pleidleisio ar gyfraddau treth incwm Cymru; ac eto, yn y...
Mark Reckless: Fe gyfeiriodd y Gweinidog at y cyfraddau hyn fel rhai sy'n berthnasol i drigolion Cymru. Dim ond cywiriad bach iawn: rwy'n credu bod hynny'n golygu trigolion Cymru a Neil Hamilton. Y dewrder y cyfeiriwyd ato gynnau—. Byddai wedi bod yn ddewr pe byddai Aelodau, yn arbennig ar feinciau'r Ceidwadwyr a'r Blaid Lafur, wedi sefyll i gael eu hethol ar sail datganiad clir yn y maniffesto—'Os...
Mark Reckless: Roeddwn i'n cytuno, gynnau, â'r disgrifiad o hyn yn gyfle wedi'i golli. Rydym wedi gweld diwedd ar gyni a'r cyfle i gael cynnydd yn y gyllideb o swm sylweddol, ac yn hytrach na blaenoriaethu ac anfon neges allweddol o ran lle y mae'n mynd gyda hynny, y duedd, rwy'n credu yn y gyllideb hon yw rhoi cynnydd cymharol debyg ledled nifer fawr o feysydd er bod rhai meysydd bach wedi'u blaenoriaethu...
Mark Reckless: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rannu cyfrifoldebau ar gyfer archwilio tomenni glo a'u cadw'n ddiogel? OAQ55161
Mark Reckless: Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Mae'n ymddangos—. Yr hyn sy'n peri pryder i mi yw, pan ddywedodd y Prif Weinidog fod gan yr holl sefydliadau hyn gyfrifoldebau i arolygu'r tomenni glo—rwy'n poeni a oes unrhyw orgyffwrdd cyfrifoldeb lle mae'n bosibl na fydd un sefydliad yn glir pwy sy'n gwneud beth. Mewn perthynas â thir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru, ai mater i CNC yn unig yw rhoi sicrwydd...
Mark Reckless: Diolch. Rwy'n falch iawn o glywed gan Angela eto. Cofiaf iddi gyflwyno dadl argyhoeddiadol iawn yn y Siambr o'r blaen ar hyn a gwn am yr achos penodol a gafodd a'r gwaith anhygoel y mae wedi'i wneud fel AC i gefnogi'r teulu hwnnw. Fe'm trawyd hefyd gan raglen ddogfen ar y teledu yn ddiweddar yn yr un maes. Wrth edrych ar y cyfleuster hwnnw, roedd yn llawer tebycach i garchar nag y dychmygais....
Mark Reckless: Ceir anawsterau o ran monitro, a dylem ystyried y rheini, ond nid wyf yn credu mai'r ffordd o fynd i'r afael â hynny yw ymestyn trefn reoleiddio Cymru i gynnwys cyfleusterau yn Lloegr, neu feddwl bod honno'n ffordd realistig o ymdrin â hynny. Credaf fod angen inni sicrhau cydnabyddiaeth ar y ddwy ochr neu rywbeth tebyg i hynny, a chael perthynas y gellir ymddiried ynddi gyda'r cyrff...
Mark Reckless: Seicosis postpartum, ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—. Pan edrychasom ar hyn, buom yn siarad ag un ddynes a oedd wedi dod i lawr i Gaerdydd pan oedd y cyfleuster yno, a byddai'n well ganddi fod wedi mynd i Fanceinion. I lawer yng ngogledd Cymru, mae'n gweithio i fynd i uned mam a'i baban ac ysbyty ym Manceinion, a bydd hynny'n well na chael eu gorfodi i ddod i lawr i Gaerdydd,...
Mark Reckless: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, os caf i droi at lifogydd, mae'r gymdeithas diwydiant ar gyfer busnesau coedwigaeth, Confor, yn dweud bod dehongliad Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn atal newidiadau i unrhyw dirwedd lle nad yw'r cynefin neu'r dynodiad ar gyfer coetir. O gofio manteision plannu coed ar ucheldir i liniaru rhag llifogydd, a'r...
Mark Reckless: Croesawaf y ffaith fod y Gweinidog yn ailystyried yn y modd hwnnw. Fodd bynnag, cyfeiriodd Confor hefyd at y mater o ble mae tirwedd wedi'i dynodi mewn rhyw ffordd arall, math o rostir ucheldirol dywedwch, eu bod nhw'n canfod bod rhagdybiaeth yn erbyn plannu coed yn yr ardaloedd hynny. A gallan nhw fod yn ardaloedd llawer rhatach, £1,000 yr hectar dywedwch, yn hytrach na sawl mil, gan wneud...
Mark Reckless: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog cyllid egluro sut y mae ei strategaeth mewn perthynas â rhyddhad ardrethi busnes yng Nghymru yn wahanol i strategaeth Llywodraeth y DU? Cyhoeddasant heddiw fod y gostyngiad manwerthu o 50 y cant sydd ganddynt y flwyddyn nesaf yn codi i 100 y cant ac yn cael ei ymestyn i gynnwys meysydd hamdden a lletygarwch. A yw'r dull hwnnw o weithredu...
Mark Reckless: Wrth gwrs, efallai fod dadl dros wneud hynny ychydig yn wahanol yng Nghymru, ond mae gennym swm canlyniadol o £360 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'i gyhoeddi, ac mae'r busnesau manwerthu, yn ogystal â'r busnesau lletygarwch a hamdden, yn fusnesau sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r cyhoedd a byddem yn disgwyl iddynt gael eu heffeithio'n arbennig gan y coronafeirws a holl oblygiadau...