David Melding: Fe'ch cymeradwyaf am ddarllen yr adroddiad. Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn aml yn gyffredin yn y maes hwn, a chredaf fod gwersi i'w dysgu, a bod pwyllgor Tŷ'r Cyffredin wedi gwneud gwasanaeth gwych yma. Mae ffioedd rheoli ystadau yn ogystal â ffioedd gwasanaeth wedi cael eu beirniadu am eu maint, eu diffyg tryloywder a pha mor anodd yw eu herio. Mae'r rheini'n sicr yn broblemau sydd gennym...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i groesawu'r adroddiad ardderchog a lansiwyd ddoe gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Shelter Cymru ar yr hawl i dai digonol yng Nghymru. A chymeradwyaf yr adroddiad i'r holl Aelodau nad ydynt wedi cael cyfle i'w weld eto. Mae'r adroddiad yn gwneud achos cryf dros ymgorffori'r hawl i dai digonol yng nghyfraith...
David Melding: Diolch, Weinidog, am yr ateb calonogol iawn hwnnw, os caf ddweud. Ac rydych yn llygad eich lle pan ddywedwch fod angen strategaeth arnoch i allu sicrhau bod hawl yn bodoli yn ymarferol. Ac yn wir, mae'r adroddiad yn amlinellu'r hyn y mae angen ei wneud o ran strategaeth dai genedlaethol sy'n seiliedig ar hawliau. Ac yn wir, mae'n rhywbeth rwyf wedi galw amdano eisoes—a chredaf fod eraill yn...
David Melding: Credaf mai'r strategaeth fyddai'r ffordd o edrych ar yr holl bethau hyn mewn ffordd gynhwysfawr. Rydych yn llygad eich lle—nid oes a wnelo hyn â thai fforddiadwy yn unig, mae'n ymwneud â'r maes tai yn ei gyfanrwydd. Ond mae meysydd allweddol eraill y gallem sôn amdanynt yma a ddylai fod yn rhan o strategaeth dai genedlaethol: dileu digartrefedd; cynyddu diogelwch deiliadaeth ar gyfer y...
David Melding: Yn rhyfedd ddigon, dyma'r union bwynt a wneuthum i'ch swyddogion. Os gallwn osod safonau sy'n uwch ar gyfer y gwasanaethau gofal sylfaenol hynny a ddarparwn yn uniongyrchol drwy'r gwahanol fyrddau iechyd lleol, pam na edrychwyd ar y safonau uwch hynny'n fanwl mewn ymgynghoriad llawn â chleifion a grwpiau fel Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a gerbron y pwyllgor neu'r pwyllgorau...
David Melding: Wel, atebwch y cwestiwn canolog.
David Melding: Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn mwynhau'r areithiau yn y ddadl gyfareddol a phwysig hon. Pan oedd Alun yn sôn am brofiadau Gwyn Alf yn Normandi—mae 75 mlynedd ers hynny; roedd yn briodol iawn ein bod wedi clywed hynny—roeddwn yn meddwl efallai y byddech yn symud ymlaen at Wynford Vaughan-Thomas a'i hunangofiant bendigedig lle mae'n disgrifio sut y glaniodd yntau gyda'r cynghreiriaid yn...
David Melding: Rwy'n gyndyn i dynnu sylw at hyn, ond rwy'n credu ei bod yn ddadleuol iawn mai ni oedd pobl gynhenid ynysoedd Prydain. Roedd pobl wedi ymsefydlu ar ynysoedd Prydain yn union wedi'r oes iâ ddiwethaf. Er mor wych yw ein hetifeddiaeth Geltaidd, roedd pobl yma cyn hynny.
David Melding: A wnaiff y Gweinidog ildio?
David Melding: Rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn, ac fe wnaeth fy nharo, wrth deithio o amgylch America, ac yn enwedig y de, faint o Americanwyr o dras Affricanaidd sydd â chyfenwau Cymreig—Williams, Evans, Jones, Davies. Mae'n wirioneddol frawychus meddwl am oblygiadau hynny.
David Melding: O, mae'n ddrwg gennyf. [Chwerthin.]
David Melding: 3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog a chefnogi tyddynwyr yng Nghymru? OAQ54136
David Melding: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae'n siŵr y bydd eisiau ymuno â mi i longyfarch Tyddynwyr Morgannwg, a gynhaliodd arddangosfa ardderchog yn y Senedd yr wythnos diwethaf, yn arddangos holl ystod eu gwaith a pha mor arloesol ydoedd, a hefyd, rwy'n credu, am y tro cyntaf, Llywydd—gyda'ch caniatâd chi rwy'n siŵr—daethant â rhai anifeiliaid i'r ystâd. Aeth llawer o...
David Melding: Rwy'n eich annog, Weinidog, i edrych ar y sefyllfa yn yr Alban, gan y bydd y cwmnïau sy'n prynu ar sail debyg i'r rhai yng Nghymru yn talu 4.5 y cant—mae hynny'n is na chyfradd Lloegr, ac yn amlwg, 1.5 y cant yn is na'n cyfradd ni. Yn y mis pan wnaethant y penderfyniad hwnnw, cawsant eu cynnydd refeniw uchaf erioed, ac mae eu cynnydd blynyddol hyd yn hyn yn fwy na £13 miliwn. Felly,...
David Melding: 3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf? OAQ54125
David Melding: Rwy'n ddiolchgar iawn, Weinidog, eich bod wedi cyfeirio at y ffaith y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â RhCT yn 2022; bydd yn gyfle allweddol i adeiladu ar y 28,000 o siaradwyr Cymraeg sydd eisoes yn Rhondda Cynon Taf. A chredaf ei fod yn gyfle pwysig i adfer iaith mewn rhan wirioneddol bwysig o Gymru, oherwydd, os ydym am fod yn genedl ddwyieithog, bydd angen i ni weld y cynnydd...
David Melding: A gaf fi gymeradwyo brwdfrydedd Dawn a'r ffordd glir y mae wedi cyflwyno'r ddadl dros gydnabod tai fel hawl ddynol sylfaenol, ac yn y cyd-destun hwn, yr hawl i weld tai digonol yn dod yn egwyddor ganolog ar gyfer trefnu polisi cyhoeddus? Pan fyddwn yn edrych ar yr angen mwyaf difrifol, byddai'n ffitio'n naturiol iawn i'n polisi tai yn gyntaf, er enghraifft, lle byddwn yn helpu pobl sydd â...
David Melding: Prif Weinidog, mae angen i ni fod yn ofalus iawn gyda'n hadeiladau mwyaf gwerthfawr. Efallai eich bod chi wedi clywed bod cynlluniau'n cael eu hystyried erbyn hyn—nid wyf i'n disgwyl i chi wneud sylwadau ar y rhain, ond mae cynlluniau'n cael eu hystyried ar gyfer datblygu siop Howells. Ac maen nhw'n ddiddorol iawn, a bod yn deg. Maen nhw'n haeddu cael eu harchwilio'n drylwyr. Ac, os trown...
David Melding: Mae'r Gweinidog wedi bod yn ddigon caredig i gyfeirio at fy ngwaith i yn cadeirio'r grŵp cynghori gweinidogol, ac rwy'n atgoffa'r Aelodau nawr am fy safle i yno. Dirprwy Weinidog, rwy'n credu ei bod yn bwysig—rydym wedi clywed cwestiynau a sylwadau craff iawn, ac mae'n anochel eu bod nhw wedi ystyried yr heriau. Ond dylem atgoffa pawb fod canlyniadau da yn digwydd pan fyddwn ni'n llwyddo...
David Melding: 6. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i addysgu disgyblion am fanteision teithio llesol drwy'r system addysg? OAQ54176