Alun Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru i wella proffil byd-eang Cymru?
Alun Davies: Hoffwn gyfrannu'n fyr at y ddadl hon. Fel eraill, rwy'n croesawu'n fawr y cynnig y mae'r Llywodraeth a'r gwrthbleidiau wedi'i roi ger ein bron y prynhawn yma, ac rwy'n falch iawn o gymeradwyo a chefnogi hynny. Credaf y dylem ni hefyd groesawu gwaith y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Nawr, rwy'n derbyn bod gennyf rywfaint o ddiddordeb yn y mater hwn, ond mae'n un o offerynnau...
Alun Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bysiau ym Mlaenau Gwent?
Alun Davies: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hawl i gael addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ54155
Alun Davies: Diolch yn fawr i chi, Weinidog, am yr ateb. Roeddwn i'n falch iawn o glywed yr ateb hefyd i Huw Irranca-Davies yn gynharach y prynhawn yma. Dwi’n gwybod bod gyda chi ymrwymiad personol i sicrhau bod addysg Gymraeg yn cynyddu ar draws y wlad a dwi’n gwybod eich bod chi wedi bod yn gwthio hynny drwy gydol eich amser yn y swydd fan hyn. Ond dwi wedi bod yn delio gydag etholwyr ac eraill, a...
Alun Davies: Gweinidog, hoffwn i ofyn am ddatganiad a dadl. A gaf i ofyn am ddatganiad ar wasanaethau bysiau? Mae pob un ohonom ni'n ymwybodol o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud o ran ymgynghori ar ddeddfwriaeth, a fydd, gobeithio, yn arwain at ail-reoleiddio gwasanaethau bysiau maes o law, ond rydym ni hefyd yn ymwybodol iawn, wrth gwrs, y bydd hyn yn cymryd peth amser. Ac mae...
Alun Davies: Mae'r datganiad wedi disgrifio llawer o'r heriau yr ydym yn eu hwynebu ym Mlaenau Gwent, o gyflogau isel, gwaith ansicr i anawsterau y mae'r stryd fawr a chyflogwyr ac eraill yn eu hwynebu. Gobeithiaf mai'r hyn y gallwch chi ei wneud i fynd â hyn yn ei flaen yw mynd i'r afael â'r materion hynny sy'n ymwneud â thlodi mewn gwaith sy'n effeithio ar Flaenau Gwent. Yn rhy aml o lawer gwelwn...
Alun Davies: Dim ond sylw byr yr hoffwn i ei wneud ar y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'r pwyllgor, yn ei adroddiad, yn datgan ei fod wedi synnu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pellach i wireddu ei datganiad o argyfwng hinsawdd. Mae'n ddigon posibl, y tro hwn, y byddai'n afresymol disgwyl i Lywodraeth Cymru fod wedi ad-drefnu ei holl flaenoriaethau cyllidebol yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond...
Alun Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafnidiaeth gyhoeddus ym Mlaenau Gwent?
Alun Davies: 1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ddatblygiad fframweithiau cyffredin y DU? OAQ54215
Alun Davies: Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol bod hwn yn fater a drafodwyd gyda'r Prif Weinidog yn y pwyllgor materion allanol ddydd Llun. Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb llawn iawn i'r cwestiwn hwnnw. Onid yw'n rhannu fy mhryder ein bod, wrth greu fframweithiau cyffredin, bron yn creu gwladwriaeth gudd o fewn y Deyrnas Unedig lle mae llawer o benderfyniadau'n cael eu gwneud heb...
Alun Davies: 1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am yr adolygiad o ddatganoli a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan Brif Weinidog y DU? 335
Alun Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn hollol warthus fod Prif Weinidog y DU wedi gwneud datganiad o'r fath heb hyd yn oed ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig. Dywedodd Prif Weinidog Cymru'n glir iawn wrth ateb cwestiwn yn y pwyllgor ddydd Llun mai'r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru glywed am hyn oedd pan oedd araith Prif Weinidog y DU yn cael...
Alun Davies: A gaf fi ddechrau drwy ddweud pa mor gyffrous ydw i i gael y sgwrs hon a'r ddadl hon yn y lle hwn y prynhawn yma? Ddirprwy Lywydd, credaf fod yna adegau, a dywedaf hyn gyda'r parch mwyaf at bawb sy'n cymryd rhan yn y ddadl hon, pan all gormes y broses seneddol sugno'r bywyd allan o unrhyw uchelgais a'r weledigaeth fwyaf argyhoeddiadol. I lawer ohonom, mae a wnelo hyn â chyflawni ymgyrch...
Alun Davies: A wnewch chi ildio?
Alun Davies: Dwi'n cydnabod y ffordd dŷch chi wedi ymateb i'r drafodaeth. Dwi'n gwerthfawrogi hynny. Mae yna newidiadau barn ar draws y Siambr, ond mae yna hefyd gytundeb ar draws y Siambr. A fuasai'n bosibl i chi fel Llywydd gynnal trafodaethau tu fas i'r broses ddeddfu rhwng Aelodau i weld lle mae yna ofod ar gael i ddod at gytundeb a chael cytundeb ehangach ar draws y Siambr cyn bod y Bil yma'n mynd...
Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Alun Davies: Adam, synhwyraf fod cefnogaeth i'r safbwynt yr ydych yn ei argymell, ond er mwyn i hynny ddigwydd, mae gofyn cael cymaint o undod â phosibl hefyd, cymaint o gytundeb â phosibl, ac oni fyddai'n ymagwedd fwy deallus pe baech chi ac eraill yn chwilio am y cytundeb hwnnw ac nid cyflwyno cynnig ar brynhawn dydd Mercher os ydych chi'n wirioneddol o ddifrif ynghylch cyflawni'r ymdeimlad hwnnw o...
Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Alun Davies: A gaf fi ddweud faint rwy’n croesawu cywair a chynnwys eich cyfraniad, brif chwip—bu bron i mi ddweud 'Gweinidog'? Os caf ddweud, mae’r Prif Weinidog newydd—mae yn ei sedd, felly mae'n rhaid i mi fod yn ofalus iawn beth rwy'n mynd i'w ddweud yn awr—[Chwerthin.]—wedi dangos arweinyddiaeth go iawn ar faterion yn ymwneud â chyfeiriad teithio'r lle hwn yn y dyfodol, y Senedd hon, o...