David Melding: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad yn fy rhanbarth i yng Nghaerdydd, sy'n datblygu i fod yn arloeswr teithio llesol mewn ysgolion, nid yn unig yng Nghymru ond yng ngweddill y DU? Mae eu syniadau arloesol yn anhygoel: cynlluniau teithio personol ar gyfer y disgyblion a'r rhieni; parcio a cherdded, felly, pan fo'n rhaid...
David Melding: Credaf fod Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud y gallai ymwrthedd i wrthfiotigau fod yn un o'r prif heriau iechyd sy'n ein hwynebu, gan y bydd heintiau cyffredin yn dod yn lladdwyr cyffredin unwaith eto os na fyddwn yn gwneud pethau'n iawn a bod llai o gyffuriau newydd yn cael eu cyflwyno. Un peth y gallem ei wneud yw annog pobl, yn hytrach na mynd at y meddyg i ofyn am wrthfiotig ar gyfer...
David Melding: Rwy'n croesawu'r ysbryd, yn enwedig tua'r diwedd, o ran yr angen i weithio gyda'n gilydd a chynyddu cyflymder a graddfa adeiladu cartrefi cymdeithasol. Ond hefyd, yn gyffredinol, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar ein targedau a gosod uchelgais gwirioneddol ddifrifol ar gyfer y 2020au. Mae angen inni wneud hynny nawr er mwyn inni allu sicrhau bod yr holl ddulliau angenrheidiol ar waith er...
David Melding: Nodaf, ar yr adeg hon yn y broses o ddatblygu fframweithiau cyffredin y DU, mai'r nod yw ehangu ymgysylltiad ac ymgynghoriad, ac yn wir, datganodd Llywodraeth y DU ar 3 Gorffennaf eu bod wedi datblygu cynllun ymgysylltu manylach i fandadu mwy o ymgysylltiad ac i wella tryloywder. Nawr, mae'n ymddangos i mi mai dyma'n union sut y dylai'r system weithredu. Sylwaf fod gennych rai pryderon, ond...
David Melding: Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon, er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor pan roedd yr adroddiad yn cael ei lunio. Rwyf wedi bod yn falch iawn o ddilyn y gwaith wrth iddo gael ei gyhoeddi a'i lansio wedyn, fel y nododd y Cadeirydd. Credaf ei fod wedi bod yn faes gwaith pwysig iawn, ac mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ffyrdd ymarferol iawn y gallwn wella’r diwydiant cynhyrchu ffilm a...
David Melding: Ddirprwy Lywydd, gobeithio y maddeuwch i mi am ddechrau mewn hwyliau ychydig yn fwy dathliadol gan mai pwrpas canolog y Bil hwn o'm rhan i yw ymestyn yr etholfraint i grŵp pwysig iawn o bobl ac i mi, roedd y profiad o weld sut oedd pobl ifanc 16 a 17 oed wedi cyfrannu at refferendwm yr Alban yn 2014 yn gadarnhad go iawn fod hwn yn gam cadarnhaol. Yn hytrach na bod yn ddifater, fe wnaethant...
David Melding: Rwy'n gwybod bod fy amser ar ben, ond a gaf fi gofnodi fy niolch, fel cyn Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y bydd yr argymhellion ar anghymhwyso yn mynd ati'n eithaf llawn yn awr i ddatblygu gwaith y pwyllgor yn y pedwerydd Cynulliad? Rwy'n falch o weld hynny.
David Melding: A wnaiff yr Aelod gymryd pwynt?
David Melding: Wel, mae'r Saesneg am ddeddfwrfa yn defnyddio'r gair benthyg 'parliament' o'r Ffrangeg, ac yn y Gymraeg, rydym yn defnyddio gair benthyg o'r Lladin, 'senedd'.
David Melding: Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diogelu twristiaeth o'r UE ar ôl Brexit?
David Melding: Prif Weinidog, mae gan bolisi tai ran allweddol i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddoe y bydd yn diwygio rheoliadau adeiladu fel y bydd gosod pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydanol yn ofynnol ym mhob datblygiad tai newydd. Efallai y byddwch chi wedi sylweddoli, pan gyhoeddodd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig ei strategaeth dai, mai hwn oedd...
David Melding: Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Comisiwn y Cynulliad ar y camau y mae wedi'u cymryd? Euthum i lawr uchaf adeilad y Pierhead ychydig wythnosau yn ôl, gyda'n staff ardderchog yno, gyda rhai ohonynt bellach yn wenynwyr arbenigol, ac yn wir, credaf fod rhai o staff cymorth Aelodau'r Cynulliad hefyd wedi ymuno â'r rhaglen. Gwelais ein dau gwch gwenyn, ac roeddent yn weithgar...
David Melding: Efallai y gallaf ddod ag ychydig o gonsensws tawel i'r mater hwn. Mae'n bwysig ein bod yn taro'r cydbwysedd cywir yma—nad ydym yn gwneud i landlordiaid posibl a landlordiaid presennol beidio â darparu tai i'w rhentu. Ond mae angen ail-gydbwyso hefyd, ac mae Llywodraeth y DU wedi bod yn rhan o ddull gweithredu tebyg. Rwy'n eich annog i gofio'r hyn a ddywedodd Richard Lambert—sef prif...
David Melding: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i David Rees am y ffordd y mae'n cadeirio'r pwyllgor? Credaf ei bod yn dasg anferthol mewn cyfnod hynod ryfeddol o'n hanes gwleidyddol, ac mae gennym ni ran angenrheidiol iawn i'w chwarae yma yng Nghymru, ac mae arweinyddiaeth David wedi bod yn allweddol i sicrhau bod y pwyllgor hwnnw'n gweithio'n anhygoel o effeithiol a chyda chytundeb dwfn iawn ar lawer o...
David Melding: Rwy'n ofni na allaf ar ddatganiad.
David Melding: Ond y Senedd yw fforwm cenedlaethol y wladwriaeth Brydeinig. Nawr, rwy'n gwybod nad yw rhai ohonoch yn cytuno'n llwyr â hynny, ond yn yr un modd â'n bod yn fforwm cenedlaethol Cymru, y Senedd yw fforwm cenedlaethol y wladwriaeth Brydeinig, ac ar yr adeg hon o argyfwng domestig mawr, mae hyd yn oed goddef i eraill gynnig gohirio’r Senedd fel opsiwn i fynd â chi dros linell Brexit heb...
David Melding: Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwneud y cyfraniad hwn yn bennaf fel unoliaethwr—nid fel un o'r unoliaethwyr olaf gobeithio. Ond mae'n bryd, rwy'n credu, i bob unoliaethwr gydnabod y perygl rydym ynddo. Dyma'r argyfwng mwyaf mewn cyfnod o heddwch ers argyfwng Iwerddon. Yr her yw sicrhau Brexit ystyrlon nad yw'n peri chwerwder i'r Alban, a'r rhai sydd eisiau aros yn yr UE yng Nghymru a Lloegr. Dim...
David Melding: A wnaiff yr Aelod ildio?
David Melding: Rwy'n ei chael hi'n rhyfedd fod Plaid Brexit bellach yn dadlau mai'r un peth na ddylai'r Cynulliad hwn ei wneud yw trafod Brexit.
David Melding: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ar y maes polisi cyhoeddus pwysig hwn? Dim ond eisiau gofyn wyf i, oherwydd i'r Gweinidog ddweud fod yr ymatebion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, pa mor gadarn yw eich polisi, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n ymddangos eich bod yn bendant iawn yr hoffech chi fynd ati yn y ffordd yr ydych chi newydd ei hamlinellu. Felly, hoffwn wybod pa mor...