Alun Davies: Rwy'n cytuno i raddau helaeth â'r ysbryd o gonsensws sydd wedi nodweddu'r ddadl os nad y cynnig mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen ar sail hyn. Rwyf wedi ymgyrchu dros ddatganoli ar hyd fy oes. Rwy'n dod at oedran ymddeol yn awr, a gallai pobl Blaenau Gwent fynnu fy mod yn ymddeol ymhen blwyddyn neu ddwy, ond rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu datrys rhai o'r cwestiynau...
Alun Davies: Gwnaf.
Alun Davies: Nid wyf yn credu bod y system ddeuol yn system dda. Rwyf wedi gwasanaethu fel AC rhanbarthol—
Alun Davies: —fel y cofiwch—rwy'n gwneud y pwynt—fel y byddwch yn gwybod. A gwn fod y profiad o fod yn Aelod etholaeth ac yn Aelod rhanbarthol yn wahanol, ac ni chredaf fod cynrychiolaeth ranbarthol yn gynrychiolaeth effeithiol. Nid wyf yn credu bod pobl Blaenau Gwent—
Alun Davies: Nid oeddwn wedi dweud hynny mewn gwirionedd, ond roeddwn ar fin gwneud hynny. [Chwerthin.] Nid wyf yn credu—. Rwy'n cydnabod yr hyn rydych yn ei ddweud, Joyce, ac rwy'n cydnabod, wrth gwrs, pam rydych chi'n ei ddweud, ond nid wyf yn credu bod cynrychiolaeth ranbarthol yn gynrychiolaeth go iawn, fe fyddaf yn gwbl glir ynglŷn â hynny. Nid wyf yn credu—[Torri ar draws.] Nid wyf yn ei...
Alun Davies: Nid oes gennyf amser. Ni fydd pobl Cymru yn diolch i wleidyddion—[Torri ar draws.] Ni fydd pobl Cymru—[Torri ar draws.] Rwy'n siŵr y gwnaiff y Dirprwy Lywydd adael i mi barhau hyd nes y caniatewch i mi orffen fy mrawddeg.
Alun Davies: Ni fydd pobl Cymru'n diolch i Gynulliad, Senedd, sy'n edrych tuag i mewn ac yn anghofio'r hyn y maent ei eisiau ac yn anghofio'r bobl y maent yn eu cynrychioli. Rwyf am i bobl Blaenau Gwent gael eu cynrychioli gan Senedd sy'n gweithio dros Gymru, ond mae angen iddynt gael cyfle hefyd i roi eu cydsyniad i hynny. Ac mae hynny'n golygu consensws ar draws y Siambr, ledled y wlad, a'n bod yn symud...
Alun Davies: Rydych chi'n garedig iawn, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd, ac rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am y datganiad y prynhawn yma, ac rwyf eisiau croesawu'r datganiad hwnnw, yn enwedig y pwyslais ar gydraddoldeb, sydd wedi bod yn rhan o hynny i gyd. Mae'n bwysig, rwy'n credu, pan fydd San Steffan yn penderfynu a all hyd yn oed eistedd neu beidio yn yr hydref, pa un a ganiateir i...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rhaid imi ddweud, mae hwn wedi bod yn ddatganiad siomedig, braidd, Gweinidog. Gwyddom i gyd fod polisi cyni Llywodraeth y DU wedi bod yn drychinebus i Gymru—mae wedi bod yn drychineb i wariant cyhoeddus—ac rydym ni i gyd yn gwybod ei fod wedi cael effaith ar bobl ledled y wlad hon hefyd, a phobl y mae'r Gweinidog a minnau'n eu cynrychioli. Fodd bynnag,...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd am gyflwyno'r datganiad hwn y prynhawn yma. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iddo am y ffordd y mae'n cadeirio'r pwyllgor, ac i'r ysgrifenyddiaeth, sy'n rhoi cymorth i'r pwyllgor. Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r amrywiaeth eang o faterion y mae'r pwyllgor yn ceisio eu cynnwys yn ei amser, ac rwy'n ystyried bod fy amser ar y pwyllgor wedi rhoi cipolwg i mi ar y...
Alun Davies: Gwelwyd byrbwylltra, diofalwch a diffyg gofal nad yw'n Brydeinig am bobl y wlad hon yn y ddadl a gawsom dros Brexit heb gytundeb. Rwy'n poeni'n fawr am bobl ym mhob un o gymunedau'r wlad hon, nid y gymuned a gynrychiolaf yn unig. Ac nid yw'n ddigon da i bobl ddweud yn syml, 'Fe gawn adael heb gytundeb ac i'r diawl â'r costau, i'r diawl â'r canlyniadau, ac i'r diawl â bywydau'r bobl yr ydym...
Alun Davies: Gofynnais i aelodau grŵp y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol ym Mlaenau Gwent drafod y ddadl hon y prynhawn yma, a gofyn iddynt beth oedd eu barn am rai o'r gwasanaethau yr oeddent yn eu cael. Rhaid imi ddweud y dylai eu sgwrs, a glywais dros amser cinio, wneud i bawb ohonom oedi a meddwl am realiti'r gwasanaethau y mae gormod o bobl yn eu cael. Treuliwn gryn dipyn o amser yn sôn am y...
Alun Davies: Ni wnaf dderbyn ymyriad am fod amser yn fy erbyn ar hyn, ond rwy'n gobeithio y caiff yr holl Aelodau eraill gyfle i siarad. Yr hyn y gobeithiaf y gallwn ei wneud y prynhawn yma, Weinidog, yw taflu goleuni ar realiti'r straeon hyn. Pleidleisiais gyda'r Llywodraeth ym mis Ionawr ar fater Bil awtistiaeth, ac yn ddeallusol nid wyf wedi fy argyhoeddi gan y ddadl o'i blaid. Ond mae'n rhaid i mi...
Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Alun Davies: Rwy'n credu, wrth ddarllen drwy'r ddogfen y gorfodwyd Llywodraeth y DU i'w chyhoeddi gan y llysoedd, eich bod chi'n deall pam nad oedd Llywodraeth y DU eisiau i'r cyhoedd weld hyn. Rwy'n cael fy atgoffa o Aneurin Bevan pan ddywedodd wrthym: Sut gall cyfoeth berswadio tlodi i ddefnyddio ei ryddid gwleidyddol i gadw cyfoeth mewn grym? Dogfen yw hon sy'n disgrifio effaith Brexit ar bobl dlotaf y...
Alun Davies: Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon y prynhawn yma, doeddwn i ddim yn siŵr fy mod wedi cael y cyfle i groesawu'r Gweinidog i'w swydd yn arwain tasglu'r Cymoedd, felly hoffwn gofnodi fy mod yn croesawu ei benodiad, ond rwyf hefyd yn croesawu'r meddylfryd newydd a ffres y mae'n ei gyflwyno i'r swydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, o bryd i'w gilydd, bod angen adnewyddu holl swyddogaethau...
Alun Davies: Derbyniaf ymyriad.
Alun Davies: Yn eich gwelliant 5, rydych yn gofyn am y gyllideb honno.
Alun Davies: Hoffwn ofyn ichi dynnu'r gwelliant hwnnw yn ei ôl, a dweud y gwir—
Alun Davies: —oherwydd yn fy marn i, dylai pob un o'r Gweinidogion sydd yma fod yn Weinidog y Cymoedd a dylai pob un o'r Gweinidogion—