David Melding: Diolch am alw arnaf i siarad yn y ddadl wirioneddol bwysig hon. Rydym ni wedi bod yn trafod hyn ers y Cynulliad cyntaf, ac fe wnaeth ychydig ohonom ni, rwy'n credu, gymryd rhan mewn sawl dadl a gawsom yn y Cynulliad cyntaf, rwy'n credu, ac rwy'n dal i fod o'r farn bod gwaharddiad yn briodol. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus o ran sut y caiff ei weithredu. Yn wahanol i'r Cynulliad cyntaf, rwy'n...
David Melding: Os nad yw'r eiddo yn talu ardrethi busnes, dylent fod yn talu'r dreth gyngor. Ymddengys mai dyna sydd wrth wraidd hyn, ac mae angen i ni fynd i'r afael â'r mater.
David Melding: Weinidog, mae chwe blynedd wedi bod bellach ers i'r Llywodraeth gyflwyno ei strategaeth dwristiaeth ar gyfer Cymru, y bartneriaeth ar gyfer twf, a bydd cylch gwaith y strategaeth yn dod i ben y flwyddyn nesaf. Y prif uchelgais oedd cynyddu enillion twristiaeth o leiaf 10 y cant erbyn hynny. Sylwaf fod yr Alban, sydd wedi bod â strategaeth ar waith am yr un cyfnod o amser yn union, bellach yn...
David Melding: Wel, diolch i'r Gweinidog am ei ymateb defnyddiol ar y cyfan, yn enwedig y syniad y dylai pob un ohonom ymgymryd â'r gwaith o adolygu'r strategaeth a llunio un newydd, ac yn arbennig ar gyfer y sector. Ni ddywedoch a yw'r targed o 10 y cant yn mynd i gael ei gyflawni. Yn amlwg, mae blwyddyn i fynd eto, ond credaf ei bod yn allweddol ein bod o leiaf yn onest ynglŷn ag a ydym wedi cyflawni...
David Melding: A gaf fi ddweud fy mod yn rhannu ei hoffter o Glawdd Offa? Rwyf wedi cwblhau'r daith gerdded, er bod hynny, mae arnaf ofn, dros 40 mlynedd yn ôl bellach. Eleni, bûm yn cerdded yn y Gŵyr, a oedd yr un mor brydferth. Weinidog, un ffordd y gallwn harneisio apêl twristiaeth ryngwladol, yn sicr, yw gwneud Cymru'n brifddinas twristiaeth gynaliadwy yn y DU, ac yn wir yn Ewrop. Er enghraifft, mae...
David Melding: Boris Johnson o'r Telegraph. [Chwerthin.]
David Melding: Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl hon. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, am resymau cywir iawn, mae newid hinsawdd wedi dod i ddominyddu ein hagenda wleidyddol. Ond i lawer o bobl, oherwydd nad ydynt yn gweld effaith uniongyrchol yn yr hyn y maent yn ei wneud, ni chânt eu darbwyllo i wneud rhai o'r dewisiadau a fyddai o fudd mawr i ni yn hirdymor. Ond o ran ansawdd aer, mae'n faes sy'n...
David Melding: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru?
David Melding: Pa gamau sydd wedi'u cymryd i sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu darparu ar gyfer tîm gwrth-dwyll Llywodraeth Cymru?
David Melding: Rydym ni'n amlwg wedi cyrraedd trobwynt ac mae gennym ni ddyfarniad o 11-0—efallai fod 'eithafol' yn ffordd deg o ddisgrifio hynny. Ond, yn amlwg, yr hyn sydd wedi digwydd yw na ystyrir bellach bod pwerau uchelfreiniol y tu hwnt i reolaeth y gyfraith ac maen nhw'n destun adolygiad barnwrol. O gofio bod pwerau uchelfreiniol mor enfawr, o bosibl, ac nad ydynt yn addas, neu o leiaf yn...
David Melding: Ers dechrau'r rhaglen hon, dair blynedd yn ôl, rwyf wedi bod yn awyddus i'w chymeradwyo; mae hwn yn ddull da o weithredu, yn fy marn i. Rwy'n credu ein bod ni'n nesáu at yr amser pan fydd eisiau inni asesu rhywfaint ar y prosiectau hynny sydd wedi cael cymorth hyd yn hyn, yn benodol i ystyried ymhle mae'r datblygiadau arloesol wedi cael eu normaleiddio, neu eu dwyn i'r farchnad, neu eu...
David Melding: Hoffwn ddechrau drwy groesawu'r datganiad hwn, mewn ffordd ryfedd iawn, mewn gwirionedd, oherwydd rwy'n nodi bod yr holl argymhellion wedi cael eu derbyn mewn egwyddor ac, fel arfer, mae hyn yn fy ngwneud yn eithaf blin, oherwydd rwy'n credu y dylech ddweud 'ie' neu 'na' os oes modd. Ond rwy'n credu, o gofio'r persbectif tymor hir y mae angen i ni ei fabwysiadu, a'r trylwyredd sydd ei angen...
David Melding: Lywydd, rwy'n atgoffa'r Siambr fy mod ar gorff llywodraethu dwy ysgol arbennig. Rydym yn nhir neb ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu'r symudiad oddi wrth ddatganiadau, yn enwedig o ran yr hyblygrwydd sydd ei angen arnom. Mae gan blant amrywiaeth o broblemau weithiau, ac efallai na fydd rhai ohonynt yn cyrraedd trothwy'r datganiad. I ble y gallant fynd? Mae angen ymyriadau go iawn arnynt o hyd. Ond...
David Melding: Rwy'n hapus iawn ar yr achlysuron pan fydd hyd yn oed Aelodau'r gwrthbleidiau'n cymeradwyo gweithred gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n credu bod hwn yn gynllun da. Sylwaf yn rhifyn mis Awst o 'Clinical Pharmacist' fod y cynllun yn cael ei werthuso a'i ganmol ac mae'n enghraifft o arloesedd a gwellhad go iawn. Ers blynyddoedd lawer, rydym wedi bod yn ceisio cael pobl â mân anhwylderau i geisio...
David Melding: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr achosion o glefyd y llengfilwyr yn y Barri dros y 12 mis diwethaf? OAQ54496
David Melding: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Ceir tua 30 o achosion o glefyd y llengfilwyr yng Nghymru bob blwyddyn, ar gyfartaledd, ond bu 11 yn y Barri yn ystod y 12 mis diwethaf. Rydych chi yn llygad eich lle nad yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llwyddo i ddod o hyd i achos hyd yn hyn ac nad yw'n ei ystyried yn argyfwng clefyd y llengfilwyr swyddogol, hyd yn hyn, ond mae'n sicr yn bryder mawr i...
David Melding: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n eithaf syml beth sydd angen i ni ei wybod: pryd ydych chi'n disgwyl y bydd gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf yn ddiogel—ddim yn dda, ddim yn rhagorol, ddim yn arwain y sector—pryd fyddan nhw'n ddiogel? Mae'r adroddiad hwn yn dweud bod ffordd bell iawn i fynd. Ac a dweud y gwir, rwy'n cael eich ymagwedd yn hynod oddefol. Nid ydych chi wedi gweithredu, ni...
David Melding: Rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Bydd yn Ddiwrnod Digartrefedd y Byd ddydd Iau. Rwy'n cytuno hefyd yn fras â'r dull gweithredu, y cyfeiriadau at Dai yn Gyntaf, gan ddileu cysgu ar y stryd o'n cymdeithas a chael diwedd ar bob math o ddigartrefedd a symud oddi wrth lety argyfwng a'r dull grisiau o ennill gwobrau, a symud tuag at ddull sy'n seiliedig ar drawma. Rwy'n credu'n wirioneddol fod hwn...
David Melding: Weinidog, rwy'n credu y bydd y bobl sy'n defnyddio neu'n byw ger yr A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd eisiau gwybod pryd y byddwn yn symud ymlaen o'r gwaith monitro, gwaith rwy'n ei groesawu, i orfodi cyfarwyddeb yr UE ar nitrogen deuocsid mewn gwirionedd. Pryd y cawn sicrwydd ein bod yn cyflawni'r gostyngiad gwirioneddol bwysig hwn mewn llygredd aer?
David Melding: 5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau diogelwch tân ar gyfadeiladau preswyl yng Nghanol De Cymru? OAQ54490