Mark Reckless: Yn erbyn.
Mark Reckless: Ymatal.
Mark Reckless: Ymatal.
Mark Reckless: O blaid.
Mark Reckless: O blaid.
Mark Reckless: Ymatal.
Mark Reckless: O blaid.
Mark Reckless: Ymatal.
Mark Reckless: Brif Weinidog, a ydych yn fodlon mai dau gyfle yn unig y mae'r Senedd hon, sy'n gweithredu o dan arweiniad Llywodraeth Cymru, wedi eu cael i holi cwestiynu i chi wyneb yn wyneb dros gyfnod o chwe mis? A yw'n well gennych wynebu craffu drwy gynadleddau dyddiol i'r wasg, wedi eu darlledu'n fyw, heb unrhyw gyfle i’r gwrthbleidiau ateb? O gofio bod rhan helaeth o'r cyfryngau’n ddibynnol yn...
Mark Reckless: Felly, mae'r Prif Weinidog yn fodlon â'r craffu hwnnw—pedwar llais Llafur, dim un o leisiau'r gwrthbleidiau? Ac mae hynny ymhell o fod yr unig enghraifft. Os ydych yn dibynnu ar BBC Wales am eich newyddion, a llawer o’r sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu newyddion, byddai rhywun yn cael yr argraff, o dan ein harweinydd gwych, Mark Drakeford, y bu...
Mark Reckless: Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Weinidog. Rwy'n credu bod rhywfaint o amheuaeth ynglŷn â'r cwricwlwm newydd yn fy ngrŵp, ond rwy'n credu bod angerdd y Gweinidog wrth siarad—rydym am barhau i fod yn rhan o'r ddadl ac nid ydym, ar y cam hwn, wedi penderfynu ei wrthwynebu. Hoffem weld y Bil mewn mwy o fanylder a chael mwy o fudd o drafodaethau gyda'r Gweinidog. Mae hi'n dweud ei bod...
Mark Reckless: Prif Weinidog, rydych chi wedi goruchwylio cyfradd sylweddol uwch o haint COVID-19 yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn ogystal â sefyllfa economaidd waeth. Er gwaethaf hyn, rydych chi wedi dod o hyd i amser i ddwrdio Llywodraeth y DU ynghylch ei chyfrifoldebau Brexit, ddwywaith gan ddefnyddio'r argyfwng i fynnu eu bod nhw'n ymestyn y cyfnod pontio, wrth i chi geisio atal...
Mark Reckless: Mewn sawl maes, Prif Weinidog, rydych chi, yn ddealladwy, wedi gwneud ymrwymiadau fel Llywodraeth na fu'n bosibl eu cyflawni neu y bu'n rhaid eu hoedi oherwydd yr argyfwng COVID. Y cwbl yr wyf i'n ei awgrymu yw eich bod chi'n cydnabod ac yn derbyn bod pwysau tebyg yn effeithio ar Lywodraeth y DU. Pleidleisiodd Cymru o blaid Brexit. Fe wnaethoch chi gyflwyno eich cynigion ar y pwnc yn yr...
Mark Reckless: Diolch, syr—mae'n bleser siarad o dan eich cadeiryddiaeth, David Melding. Prif Weinidog, diolch am eich datganiad. Diolch yn fawr iawn am ddweud bod y ddadl Brexit ar ben, ond mae'n bwysig iawn dwyn yr hyn sydd ei angen i'r llyfr statud mewn ffordd drefnus ac effeithiol. Rwy'n cytuno'n gryf, ac rwy'n credu ei bod hi'n ymddangos y bu gwahoddiad i gefnogi neu o leiaf i ymgynghori ynglŷn â...
Mark Reckless: Brif Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad a hefyd am y gwaith parhaus eithriadol o galed rydych wedi bod yn ei wneud? Rydym wedi bod ar doriad—rwy’n amau na fyddwch yn cael cyfle i fynd ar eich gwyliau fel ambell un arall efallai—a gwn fod eich llwyth gwaith wedi bod yn eithriadol. Felly, diolch am hynny. Roeddech yn sôn am nod y rheoliadau. Ar y dechrau, roeddwn...
Mark Reckless: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac i Gadeirydd y pwyllgor am y cefndir gweithdrefnol y gallwn fod wedi disgwyl ei gael gan y Gweinidog. Nid ydym wedi cael eglurhad ynglŷn â pham, ers y set wreiddiol ar 26 Mawrth, y cafwyd cyfres o welliannau i'r rheoliadau hynny—. Bellach, mae'r dull hwnnw wedi'i newid a chaiff y set gyffredinol gyntaf o reoliadau a'r holl welliannau eu dirymu wedyn...
Mark Reckless: Diolch i chi am eich datganiad, Prif Weinidog. Fe ddywedasoch chi fod coronafeirws, yng Nghymru, wedi'i atal yn effeithiol. Aethoch ymlaen wedyn i gyferbynnu hynny â chyd-destun ehangach y DU, gan ddweud ei fod wedi dod yn fwy heriol, gyda niferoedd yn cynyddu a chyfyngiadau wedi'u hailosod ar draws ynys Iwerddon, a gynhwyswyd yng nghyd-destun y DU, ac yn yr Alban a Lloegr. A yw'n wir mai...
Mark Reckless: Prif Weinidog, o ystyried y gofyniad cyfreithiol i hysbysu'r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn 72 awr, a'i ganllawiau i hysbysu'r rhai yr effeithir arnynt heb oedi diangen, a wnaethoch chi a/neu Iechyd Cyhoeddus Cymru eistedd, rwy'n credu, am oddeutu pythefnos ar newyddion am y datgeliad data mawr hwn? A gaf i ofyn i chi hefyd egluro eich fersiwn chi o'r rheol chwech, yr ydych chi'n mynnu ei bod...
Mark Reckless: Yn Sweden, nid oedd unrhyw gyfyngiadau symud, fel yr ydym ni wedi ei drafod o'r blaen, Prif Weinidog, ac ni fu unrhyw atgyfodiad sylweddol yn y feirws hyd yma; yn wir, rydym ni newydd godi cyfyngiadau teithio ar Sweden. Ac eto, yn Sbaen, lle cafwyd cyfyngiadau symud difrifol iawn, rydym ni'n gweld atgyfodiad mawr o'r feirws. Beth felly yw'r rhesymeg sy'n sail i strategaeth Llywodraeth Cymru o...
Mark Reckless: Cwnsler Cyffredinol, unwaith eto, mae'n ymddangos eich bod eisiau rhwystro Brexit. Pleidleisiodd eich plaid yn erbyn pob cytundeb tynnu'n ôl, gan ddeddfu i'n hatal rhag gadael yr UE heb gytundeb, i geisio aros yn yr UE er bod Cymru a'r DU wedi pleidleisio i adael. Fel y dywedodd Darren Millar yn ei gyfraniad rhagorol, er nad oeddech chi'n gwrthwynebu bod yr UE yn arfer pwerau, wnewch chi...