David Melding: Weinidog, mae hwn yn waith pwysig iawn. Efallai eich bod yn gwybod bod y gwasanaeth tân wedi cyhoeddi hysbysiadau gorfodi yng Celestia Homes, lle y ceir diffygion yn ymwneud â blociau a chladin allanol. Mae'r ffordd y caiff yr adeiladau hyn eu hadrannu'n annigonol, ac o ganlyniad, mae lesddeiliaid bellach yn wynebu symiau sylweddol o arian i unioni'r pethau hyn. Adeiladwyd y rhain yn 2006,...
David Melding: Mae'n rhaid i mi ddweud, Prif Weinidog, fy mod yn teimlo ymlyniad emosiynol dwfn iawn wrth Brydeindod ac at Gymreictod, ac rwyf yn credu bod yr undeb yn llawer mwy na threfniant cyfansoddiadol. Felly, dyna'r sylw cyntaf y byddwn yn ei wneud am eich safbwynt bod angen diwygio cyfansoddiadol yn ddi-os. Rwyf yn croesawu diwygio ein hundeb. Rwy'n meddwl ei bod yn ddogfen ddiddorol ac rwy'n...
David Melding: Nodaf fod yr Arglwydd Bird, sylfaenydd The Big Issue, yn cyflwyno Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn Nhŷ'r Arglwyddi, sydd wedi'i hysbrydoli'n fawr gan waith Llywodraeth Cymru. Felly, da iawn ar hynny. Credaf fod hon yn broses wirioneddol dda, ond mae'n rhaid i mi ddweud, yn y gwaith craffu ariannol y bûm yn rhan ohono mewn pwyllgorau, pan ofynnwch i'r uwch swyddogion pa hyfforddiant y maent...
David Melding: Ddirprwy Weinidog, mae ardaloedd fel Caerffili, fel y dywedwch, yn gyfoethog iawn o ran eu treftadaeth ddiwydiannol, a chredaf, yn yr holl rannau diwydiannol hynny o Gymru, fod treftadaeth ddiwydiannol yn aml yn nwylo grwpiau lleol, a chynghorau lleol, yn amlwg. Sylwais yn ddiweddar ar Grŵp Treftadaeth Cwm Aber a'r hyn y maent wedi'i wneud yn y gorffennol i godi ymwybyddiaeth o drychineb...
David Melding: Prif Weinidog, a ydych chi'n ymuno â mi i groesawu penderfyniad Persimmon Homes i setlo y tu allan i'r llys yn ystod yr haf a rhoi eu prydles i 55 o ddeiliaid tai ar ystâd yng Nghaerdydd—Saint Edeyrn—yn rhad ac am ddim? Roedden nhw ar yr ystâd honno er gwaethaf y ffaith fod y 1,100 o dai eraill wedi eu gwerthu fel rhydd-ddaliadau, ac mae wir yn bryd i ddatblygwyr roi'r gorau i...
David Melding: Er fy mod i'n cytuno â llawer o ddull gweithredu'r Gweinidog, rwy'n credu ei bod yn bryd symud yn gynt, ond rwy'n croesawu'r ffaith ein bod yn cael datganiadau rheolaidd ar y mater pwysig iawn hwn. Er enghraifft, rwy'n sylwi y byddwch yn cyhoeddi Papur Gwyn ar ddiogelwch adeiladau. Rwy'n credu bod hynny'n briodol. Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae angen inni ei wybod hefyd yw a ydych chi'n...
David Melding: A gaf i ddechrau drwy groesawu'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn ein gwahodd i wneud ein cyfraniadau ein hunain o ran sut yr ydym ni'n bwrw iddi ar hyn o bryd i ehangu'r sector twristiaeth a'i fod yn agored i syniadau? Credaf y bydd llawer o unfrydedd ynghylch yr uchelgeisiau sydd wedi'u hamlinellu. Felly, beth bynnag, dyma fy nghyfle i ddweud wrth y Cynulliad, a'r Gweinidog yn arbennig, am...
David Melding: Yr wyf wedi cerdded ar ei hyd.
David Melding: Yn ei gyfanrwydd. [Chwerthin.]
David Melding: Mae'r cyn-Brif Weinidog bob amser yn siarad ag angerdd mawr am y materion hyn drwy ei gysylltiadau teuluol ac rydym yn parchu hynny. Fodd bynnag, hoffwn ei atgoffa fod cytundeb Mrs May a'r cytundeb presennol yn cael cefnogaeth ac wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon, felly rwy'n gresynu at y rhethreg flodeuog a gawsom gennych chi ar adegau wrth ichi ei thaflu at ein meinciau...
David Melding: Ni ddywedais i unrhyw beth. Dim ond eistedd yma yn gwrando roeddwn i. Credaf mai'r hyn y mae'n rhaid inni ei sylweddoli mewn argyfwng fel hyn yw ein bod wedi cyrraedd yr adeg pan fydd yn rhaid inni benderfynu. Mae ein partneriaid yn yr UE wedi bod yn amyneddgar iawn. Mae angen iddyn nhw symud ymlaen, yn union fel y mae angen i ni symud ymlaen. Byddai'n llawer gwell gennyf i gytundeb Mrs...
David Melding: Ildiaf.
David Melding: Wel, wyddoch chi, efallai ein bod wedi cyrraedd adeg lle gallech chi argyhoeddi pobl o hynny, ond, a dweud y gwir, ni fyddai unrhyw beth wedi fy mhlesio yn y blynyddoedd diwethaf yn fwy na newid mawr yn y farn gyhoeddus a thystiolaeth amlwg bod y cyhoedd eisiau pleidlais arall. Y broblem yw, pe byddem ni'n cael pleidlais arall, mae'n ddigon posib mai'r un fyddai'r canlyniad. Ac mae'r dadleuon...
David Melding: O, a oes amser imi ildio eto?
David Melding: Ildiaf.
David Melding: Ni all neb ragweld yn sicr beth fydd yn digwydd mewn etholiad cyffredinol, ond ni allaf weld unrhyw ffordd arall heblaw adnewyddu'r Senedd bresennol a cheisio ffurfio Llywodraeth sydd â mandad i weithredu. Efallai mai Llywodraeth glymblaid fydd honno—pwy a ŵyr? Ond dyna'r sefyllfa bob amser, ar adegau peryglus, mewn etholiad cyffredinol. Rhaid ichi wynebu'r etholwyr ac ymdrin â'r...
David Melding: Pe baem ni dim ond yn sôn am yr unig fater o sut i drafod Bil mor fawr â hyn yn briodol, byddwn yn cytuno â chi; mae'n gofyn am amser ac mae'n amlwg na chaiff hynny. Fodd bynnag, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y prynhawn yma, yn y termau mwyaf pendant—ac mae'n angerddol drosto ac mae ganddo hawl i'w farn—nad oes arno eisiau unrhyw gytundeb; mae eisiau aros yn yr UE. A dyna'r...
David Melding: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hysbysu ac addysgu pobl ifanc am ddigartrefedd drwy'r system addysg? OAQ54595
David Melding: Diolch am eich ateb calonogol. Rwy'n siŵr y bydd y ffaith bod y Senedd Ieuenctid hefyd yn galw am fwy o ffocws ar sgiliau yn ein system addysgol yn eich calonogi. Mae'r sgil o fyw, y sgil o gynnal tenantiaeth, a'r sgil o wybod ble i ofyn am gymorth pan fydd pethau'n mynd o chwith yn un hanfodol, yn fy marn i. Yn y dosbarthiadau sy'n hyrwyddo dinasyddiaeth, ymwybyddiaeth gymdeithasol ac...
David Melding: 3. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Carers Wales, 'Dilyn y Ddeddf'? OAQ54593