Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud cynnig grŵp Plaid Brexit i groesawu Bil Marchnad Fewnol y DU, y pasiwyd ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin nos Lun gyda mwyafrif o 77. Rwy'n llongyfarch yr Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr am fod eu Llywodraeth wedi cyflwyno'r Bil hwn a mynd i'r afael yn hwyr yn y dydd â rhai o'r diffygion yn y cytundeb ymadael y mae fy mhlaid wedi cwyno amdanynt. Nodaf ddwy...
Mark Reckless: Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniad y cyn Brif Weinidog yn ddiweddarach. A yw'n cael ymyrryd, Lywydd, neu a yw hynny'n anseneddol ar hyn o bryd? Iawn. Pam y dylem rannu—[Torri ar draws.] Arhoswch nes y clywch chi hyn. Pam y dylem rannu marchnad sengl ac undeb y tollau y DU ar hyd môr Iwerddon pan allai'r UE osgoi ffin yng Ngogledd Iwerddon drwy wneud archwiliadau ar draws y môr Celtaidd...
Mark Reckless: Cawn weld. Edrychaf ymlaen at wrando ar yr Aelodau o bob rhan o'r Siambr a thu hwnt yn trafod rhinweddau neu fel arall canlyniadau'r Bil hwn mewn perthynas â datganoli, ac rwy'n gobeithio ymateb iddynt mewn manylder priodol wrth gloi'r ddadl. Fodd bynnag, ni fyddwn yn synnu pe bawn yn clywed rhai o'r Aelodau'n dadlau bod y Bil hwn yn cipio pŵer yn erbyn datganoli tra bod eraill yn honni ei...
Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Ac a gaf i ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu cyfraniadau, a oedd, yn fy marn i, yn gymedrol at ei gilydd o ran eu cywair? Credaf fod y ddadl, yma ac yn San Steffan, yn well heddiw efallai na'r hyn ydoedd ychydig ddyddiau'n ôl. Agorodd Neil Hamilton y ddadl, heb gymeradwyaeth unfrydol y Siambr, rhaid imi ddweud, ond diolch, Neil. Fe gyfeirioch chi at yr ymgyrchu a wnaethoch...
Mark Reckless: Yna cawsom Carwyn Jones, y cyn Brif Weinidog, yn ein hatgoffa eto am Gytundeb Gwener y Groglith 1988, mater y mae wedi sôn amdano droeon yn y Siambr hon, fe gofiaf. Fe'm synnwyd braidd gan ei sylwadau yn syth ar ôl hynny, oherwydd eglurodd ei bod yn arfer eang gan wladwriaethau i dorri cyfraith ryngwladol, ond yr hyn a wrthwynebai oedd gonestrwydd Brandon Lewis yn cyfaddef hynny, rhywbeth y...
Mark Reckless: Prif Weinidog, mae'r ateb yna yn ymwneud â'ch Gweinidog iechyd yn dweud ddoe bod gennych chi'r grym i orfodi brechiadau, gan awgrymu y gallai pobl yng Nghymru gael eu chwistrellu dan orfod gyda brechlyn COVID, yn fy syfrdanu. Ai dyna y mae datganoli wedi arwain ato? Oni fyddai rhaglen o'r fath o chwistrelliadau gorfodol yn torri cyfraith ryngwladol, neu a yw hynny'n bryder dim ond pan...
Mark Reckless: Prif Weinidog, gallwn ddweud yr un peth yn rhwydd wrthych chi ynglŷn â'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud am Fil y farchnad fewnol a'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud a fyddai'n torri'r gyfraith a chyfraith ryngwladol gan Brif Weinidog y DU. Dywedodd eich Gweinidog iechyd ddoe y dylai gadw'r dewis yn agored o frechu pobl â brechlyn COVID yng Nghymru dan orfodaeth. Dywedasoch nawr ei fod yn...
Mark Reckless: Gweinidog, fe wnaethoch chi ddiolch i ddarparwyr gofal plant a'u staff am bopeth y buon nhw yn ei wneud. A gaf i hefyd ddiolch i chi a Llywodraeth Cymru am yr hyn y buoch chi yn ei wneud yn y maes hwn? Mae'r cynnig gofal plant wedi creu argraff arnaf yn y ffordd y cafodd ei ddarparu. Mae'n elfen yn eich maniffesto, ond rydych chi wedi bwrw iddi a'i weithredu, gwnaed hynny cyn yr amserlen, ac...
Mark Reckless: Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd am hurtrwydd cynyddol trafod pethau dros fis ar ôl iddyn nhw ddigwydd, tra yn y byd go iawn, mae pethau newydd yn mynd rhagddynt, yn aml yn mynd i gyfeiriad gwahanol, ar yr un pryd ag yr ydym ni'n siarad am yr hen bethau. Rwy'n ddiolchgar, serch hynny, i'r Gweinidog iechyd am gynnwys yn ei gyfraniad, yr hyn yr oeddwn i'n credu oedd rhai cyfeiriadau at y...
Mark Reckless: Brif Weinidog, fe ddywedodd Andrew R.T. Davies, yn hael iawn yn fy marn i, ei fod yn gresynu'n arw nad oeddech mewn sefyllfa i wneud y cyhoeddiad i'r Senedd ddoe. Onid y realiti, fel y'i disgrifiwyd gan Adam Price, oedd ei bod yn well gennych beidio â gwneud hynny? Yn hytrach, roedd yn well gennych roi'r cyfweliad a recordiwyd ymlaen llaw, gan ddweud yr hyn rydych newydd ei ddweud yn awr,...
Mark Reckless: Gofynnwyd i'r Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl rwy'n credu, ynglŷn â'r posibilrwydd o godi treth incwm y flwyddyn nesaf, a chredaf iddo ymateb drwy ddweud bod yr economi mor wan yn sgil COVID fel y byddai'n anghywir inni ystyried unrhyw godiadau treth incwm. A yw hynny'n golygu mai dim ond pan fydd yr economi'n gryf y dylid ystyried codiadau treth incwm?
Mark Reckless: O ystyried effaith sylweddol iawn yr argyfwng COVID ar gyllid Llywodraeth Cymru, ac yn benodol, y gostyngiad tebygol mewn arenillion treth oherwydd y mesurau llymach yng Nghymru o gymharu â’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud yn Lloegr, sut y mae’r Gweinidog yn y pen draw yn disgwyl rhoi cyllid cyhoeddus yn ôl ar sylfaen gynaliadwy unwaith eto? A fydd yn torri gwariant? A fydd...
Mark Reckless: 3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gynigion Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid i gwblhau ffordd liniaru'r M4? OQ55554
Mark Reckless: Nid dyna y mae pawb yn Llywodraeth y DU yn ei ddweud, nage? Fe gyfeirioch chi'n gynharach, Weinidog, at yr hyn a alwoch yn ddau gymal na allent fod yn fwy niweidiol i Gymru. Os wyf wedi deall yn iawn, dau gymal oedd y rheini a oedd yn galluogi, neu o leiaf yn cadarnhau gallu Llywodraeth y DU i wario arian mewn meysydd datganoledig yn ychwanegol at arian a ymrwymwyd eisoes gan Lywodraeth...
Mark Reckless: Prif Weinidog, pan wnaed Caerdydd yn destun cyfyngiadau symud lleol gennych chi, a thrwy rym y gyfraith ei gwneud yn ofynnol i bobl weithio gartref os oedd yn rhesymol ymarferol, a wnaethoch chi ystyried effaith bosibl hynny ar ein trafodion yn y Senedd? Nawr, os ydych chi'n gywir pan fyddwch chi'n dweud bod gan Aelodau yr un gallu i gymryd rhan, boed o bell neu'n bersonol, onid yw hynny'n...
Mark Reckless: Prif Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod chi'n gweithio o'ch swyddfa gan ei bod yn rhesymol ymarferol gwneud hynny, ond onid yw'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i chi weithio gartref os yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny? Ac o ystyried ei bod hi yr un mor bosibl cymryd rhan o bell ac yn gorfforol, onid yw hynny'n wir? Ac eto rydych chi'n dewis peidio â dod i'r Siambr, yn union fel y...
Mark Reckless: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwy'n rhannu siom Andrew R.T. ei fod wedi penderfynu mentro i'w swyddfa ym Mharc Cathays; mae wedi mynd ychydig ymhellach o'i gartref i gyrraedd yno nag y byddai i ddod i'r Senedd. Er hynny, rwy'n gwerthfawrogi ein bod ychydig yn llai ar ei hol hi wrth wneud y rheoliadau hyn na rhai o'r lleill yr ydym ni wedi'u gwneud o'r blaen. Ein bwriad ni yw...
Mark Reckless: Prif Weinidog, a gaf i eich rhybuddio rhag dweud bod pobl yn warthus dim ond oherwydd bod ganddyn nhw—Aelodau Ceidwadol yn y gogledd yn yr achos hwn—wahanol safbwynt ar gyfyngiadau coronafeirws i'r un sydd gennych chi ac sy'n gofyn cwestiynau am hynny? Mae gan eich Llywodraeth uchelgais hirdymor penodol o 30 y cant yn gweithio gartref yng Nghymru, hyd yn oed ar ôl y pandemig. Rydych...
Mark Reckless: Felly, ar gyfer y busnesau annibynnol hynny sy'n gwasanaethu cymudwyr, 'Anlwcus.' Prif Weinidog, pan fydd Llywodraeth y DU yn awgrymu y gallai dalu am ffordd liniaru'r M4, prosiect a addawyd gennych chi ond a ddywedasoch yn ddiweddarach na allech chi ei fforddio, rydych chi a'ch cyd-Aelodau yn ymateb fel pe byddai'n ymosodiad ar ddatganoli, ond prin yw'r arwyddion yr ydych chi'n eu dangos...
Mark Reckless: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Fe'm calonogwyd pan welais y teitl, 'Diweddariad ar effeithiau cyllidol COVID-19'. Rwyf wedi bod yn pwyso arni am rywbeth tebyg i hynny ers cryn amser. Rhaid imi ddweud fy mod braidd yn siomedig yn y cynnwys. Roeddwn wedi gobeithio y gallem roi amcangyfrifon neu ddiweddariadau am yr effaith, er enghraifft, ar dreth trafodion tir yn sgil y cyfyngiadau ar y...