Suzy Davies: Am ateb gwresog. Nid oeddwn yn awgrymu am eiliad y dylem fod yn dilyn arweiniad Lloegr yn hyn o beth. Meddwl yr oeddwn tybed beth fyddai effaith, neu beth gredwch chi fyddai effaith yr adolygiad penodol hwn ar brifysgolion Cymru, ac nid wyf yn credu fy mod wedi dysgu mwy o hyn. Un peth y mae Augar yn ei ddweud yn ei adolygiad, fodd bynnag, yw bod gwahaniaethau i'w cael eisoes rhwng systemau...
Suzy Davies: Iawn, wel, Weinidog, dyna ddau gwestiwn nad ydych wedi'u hateb bellach. Rwyf wedi darllen briff Prifysgol Caerdydd, fel rydych chithau wedi'i wneud, yn amlwg. Roeddwn yn awyddus i wybod beth oeddech chi'n ei feddwl, ac rwy'n awyddus i wybod beth ydych chi'n ei feddwl am y sefyllfa hon yn gyffredinol ynghylch benthyciadau heb eu talu, sy'n dod yn grantiau gan y Llywodraeth i bob pwrpas, a'r...
Suzy Davies: Wel, credaf fod ein dysgwyr Cymraeg yn adnodd nad oes digon o ddefnydd arno yng Nghymru. Ac fel y gwyddom, ni fydd pob oedolyn sy'n byw yng Nghymru wedi bod drwy system ysgolion Cymru. I lawer ohonynt, bydd gwefan Dysgu Cymraeg yn fan cychwyn iddynt allu dysgu rhywfaint o Gymraeg, a chefais fy synnu o weld bod y gwahaniaeth rhwng argaeledd sesiynau blas—sesiynau blas yn benodol—i oedolion...
Suzy Davies: Diolch am y cwestiwn heddiw, Carwyn Jones, a'ch ymateb, Gweinidog. A gaf i ddechrau, fodd bynnag, trwy ddweud fy mod i o'r farn os byddwn yn rhoi gormod o bwyslais ar Brexit mewn unrhyw sgyrsiau o'r math hwn, y byddwn yn cyrraedd pwynt pan fyddwn yn beio popeth ar Brexit ac yn methu â gwerthuso effaith Brexit mewn gwirionedd? Felly, er fy mod i'n fodlon derbyn y gall fod elfen o hyn, rwy'n...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Rwy'n siŵr, fel pawb yn y Siambr hon, mewn gwirionedd, ein bod ni'n gweld athrawon sy'n parhau i ddweud wrthym ni mai'r llwyth gwaith yw un o'r materion pwysicaf iddyn nhw a bydd y diweddariad a gawsom ni heddiw yn ein helpu i ddeall ac efallai'n gofyn iddyn nhw pa un a ydyn nhw wedi cael y math o gymorth yr ydych chi wedi bod yn sôn amdano yn yr ysgolion lle...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn ichi—diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd hwnnw'n ddatganiad llawn iawn, a gwerthfawrogaf eich atebion heddiw. Ond, mewn ymateb i'r hyn yr oeddech yn ei ddweud wrth John Griffiths, fy nealltwriaeth i yw bod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros hawliau dynol a chydraddoldeb yn berthnasol i holl adrannau'r Llywodraeth. Nid mater i'r Cynulliad yn unig yw hyn, ac un o'r pethau yr...
Suzy Davies: Diolch i chi am y sylwadau hynny, roeddwn yn meddwl eu bod yn ddefnyddiol iawn, ac rwy'n edrych ymlaen at y Papur Gwyn hefyd. Yn y cyfamser, fodd bynnag, yn 2016, fe gyhoeddoch chi gynllun pum pwynt i gefnogi llwybrau bysiau, gan gynnig cymorth i bob cwmni bysiau yng Nghymru drwy Busnes Cymru a Cyllid Cymru, ac ar yr un pryd, fe alwoch—fel rydych wedi'i wneud eto heddiw—ar awdurdodau...
Suzy Davies: 3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch rôl porthladdoedd Cymru ar ôl Brexit? OAQ54001
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am hynny. Fel y gwyddoch, mae cryn dipyn o borthladdoedd yn fy rhanbarth i, ac un o'r cyfleoedd i Gymru os gadawn yr UE fyddai datblygu porthladdoedd rhydd, gan y byddent yn caniatáu i nwyddau gael eu mewnforio i rannau o Gymru, eu storio neu eu cynhyrchu'n gynnyrch gorffenedig cyn eu hallforio heb drethi a thariffau. Wrth gwrs, mae gennym borthladdoedd rhydd yn y DU yn...
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl yr M4 o ran datblygu economi Gorllewin De Cymru?
Suzy Davies: 1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru? OAQ54081
Suzy Davies: Diolch am hynna, ac rwy'n croesawu'r gwaith yr ydym ni'n dechrau ei weld ar hyn nawr. Gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r newyddion mai Castell-nedd Port Talbot, yn fy rhanbarth i, yw'r awdurdod lleol cyntaf i ymrwymo i gynllun cyflogwyr FairPlay i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Ond mae gennym ni fylchau cyflog eraill hefyd, gan gynnwys gyda'r gymuned pobl...
Suzy Davies: Diolch, Trefnydd. Tybed a gaf i ofyn am ddwy eitem, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yw llythyr at bob Aelod Cynulliad, efallai gennych chi, a dweud y gwir, ond nid wyf i 100 y cant yn siŵr gan bwy, ynghylch pam nad yw'r ddogfen ymgynghori—y ddogfen hon—ar ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllideb a Chyrff Dynodedig) 2018—gwn nad yw'n swnio'n gyffrous iawn—ar wefan y...
Suzy Davies: Ac yn olaf, Joyce Watson.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Weinidog ac Aelodau.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar aer glan. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Suzy Davies: Diolch am eich ateb i David Rees yn y fan honno. Rwy'n meddwl sut y gallwch weithio gyda CNC gyda phortffolios eraill o fewn y Llywodraeth yn ogystal â thwristiaeth a lle gall y posibiliadau hyn gydblethu â'i gilydd. Ym mis Ionawr, gofynnais a oeddech yn meddwl bod cyfle i Cyfoeth Naturiol Cymru weithio gydag ysgolion fel y gallai plant a phobl ifanc chwarae rhan yn ailblannu coed yn eu...
Suzy Davies: Cytunaf â Bethan Sayed fod sefydliad, boed yn gorff ymreolaethol ai peidio, pan fo'n derbyn arian cyhoeddus, yn atebol i'r lle hwn, naill ai drwoch chi neu drwom ni yn uniongyrchol. Rwyf am eich holi ynglŷn â'r sylwadau a wnaethoch am y trafodaethau a gawsoch gyda CCAUC, oherwydd, mewn gwirionedd, credaf mai yma, fel Cynulliad, yw'r man lle gallwn fod yn gofyn rhai cwestiynau. Dywedoch nad...
Suzy Davies: Byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn i ddirymu'r rheoliadau hyn, nid ar sail eu cynnwys, ond oherwydd eu bod yn anwybyddu rôl graffu'r Senedd hon. Yn bersonol, rwy'n credu ei bod yn hawdd i ymarferwyr fodloni gofynion y rheoliadau—mae rhywun arall yn talu amdanyn nhw a dydyn nhw ddim yn heriol. Dwi ddim am osod safonau ar fusnesau bach, hyd yn oed yn uniongyrchol, ond camau syml yw'r rhain sy'n...
Suzy Davies: Diolch, Llywydd, a diolch, pawb, hefyd.