Alun Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â digartrefedd yng nghymoedd de Cymru?
Alun Davies: Gweinidog, mae dwy flynedd a hanner wedi mynd heibio ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi'r buddsoddiad o £100 miliwn mewn parc technoleg, ar y pryd, yng Nglynebwy. Mae llawer o bobl yng Nglynebwy a'r rhan ehangach o Flaenau Gwent eisiau gweld beth sy'n digwydd i'r buddsoddiad hwnnw o £100 miliwn ac eisiau gweld tystiolaeth o'r buddsoddiad hwnnw yn cael ei wneud. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r...
Alun Davies: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru ar Flaenau Gwent? OAQ54725
Alun Davies: Efallai y gallaf helpu Darren Millar yma drwy barhau â'r ddadl ar y strategaeth ryngwladol—nid wyf yn gwybod. Ond yn sicr, rhaid i ddiben unrhyw strategaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi ar waith gael effaith ar leoedd fel Blaenau Gwent, p'un a yw'n digwydd bod yn strategaeth ryngwladol neu fel arall. A chredaf ei bod yn bwysig fod gan Lywodraeth Cymru weledigaeth, syniad clir iawn,...
Alun Davies: Eich cwestiwn chi ydyw. Chi a'i hysgrifennodd.
Alun Davies: A ydych chi'n credu bod y £100 miliwn a wariodd Llywodraeth y DU ym mis Hydref ar baratoi ar gyfer Brexit yn arian a wariwyd yn dda?
Alun Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth addysg ym Mlaenau Gwent?
Alun Davies: Rheolwr Busnes, cyfeiriodd y Prif Weinidog yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, at yr ysbyty newydd sy'n cael ei adeiladu, sef Ysbyty Athrofaol Grange, sy'n cael ei adeiladu yn Llanfrechfa. Roedd croeso i hyn gan y bobl yr wyf yn eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent, sy'n edrych ymlaen at gael yr ysbyty a'r cyfleusterau, a'r ehangu a'r gwelliant ym maes gofal iechyd y mae hyn yn ei gynnig. Ond...
Alun Davies: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am waith Tasglu'r Cymoedd ym Mlaenau Gwent? OAQ54832
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Prif Weinidog, am yr ymateb yna, a hefyd i Ddirprwy Weinidog yr economi, sydd wedi bod yn arwain ar lawer o'r mentrau hynny. Rwyf i hefyd yn ddiolchgar i Weinidog yr economi am ei eiriau a'i gyfarfodydd yn ystod yr wythnos ddiwethaf am y datblygiadau gyda Thales ac chyda TVR. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo adnoddau sylweddol ac wedi gwneud nifer o ddatganiadau ar...
Alun Davies: A gymerwch chi ymyriad?
Alun Davies: Fe wrandewais i ar yr hyn a ddywedwyd gennych—rwy'n gwrando bob amser ar eich cyfraniadau chi â diddordeb mawr, fel y gwyddoch. Beth yw eich dewis amgen chi o ran y maes awyr?
Alun Davies: Fel eraill yn y ddadl hon y prynhawn yma, rwyf i'n dymuno croesawu'r gyllideb a'r ymrwymiad sy'n rhedeg drwy'r gyllideb i ddarparu'r cyllid sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus. Hoffwn i'n arbennig groesawu'r £8 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n rhywbeth yr wyf i wedi sôn amdano ar sawl achlysur. Nid yw'r £20 miliwn y gwnaethom ei ddyrannu i anghenion...
Alun Davies: Rwyf i wedi clywed Aelodau Ceidwadol yma dros y blynyddoedd yn gwneud y pwynt hwn a chynghorwyr Ceidwadol yn dweud wrthym ni am beidio â'i gyffwrdd—[Torri ar draws.] Mae'r pwynt sylfaenol—[Torri ar draws.] Mae'r pwynt sylfaenol yr wyf i'n ei wneud, fodd bynnag, yn un gwahanol—hynny yw, y ffordd ddinistriol y lluniwyd y ddadl. Mae'n fater o ogledd yn erbyn de, dwyrain yn erbyn...
Alun Davies: A gwnaf i hynny, Llywydd. Yr ydych chi'n garedig iawn ac yn cydymdeimlo'n fawr â mi, yr wyf i'n cytuno.
Alun Davies: Gofynnaf i fod y Llywodraeth, wrth gloi, nid yn unig yn cyflawni'r lefelau cyllido, ond yn cyflwyno'r diwygiad radical y dylai Llywodraeth Lafur fod yn ei wneud i sicrhau bod gennym ni wasanaethau cyhoeddus sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Alun Davies: Hoffwn godi dau fater gyda chi'r prynhawn yma, Gweinidog, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am y datganiad. Yn gyntaf oll, i bwysleisio eto pwysigrwydd trefniadau rhynglywodraethol a pheirianwaith Llywodraeth. Mae gennym ni rywfaint o brofiad o weithio mewn negodiadau rhyngwladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae gennym ni sawl templed wrth law y...
Alun Davies: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21? OAQ54878
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ateb cynharach hwnnw, Weinidog. O ran y gyllideb gyffredinol, yn ystod ein sgwrs yn y Pwyllgor Cyllid cyn y Nadolig, gwnaethoch gadarnhau y byddai toriad mewn termau real i'r arian sydd ar gael i gefnogi ac i gynnal gwasanaethau bysiau ledled y wlad. Credaf y bydd hyn yn anodd iawn i lawer ohonom, gan fod Llywodraeth sydd wedi ymrwymo i achos newid hinsawdd—a...
Alun Davies: A gaf fi bwysleisio'r angen am gyflymder wrth ddadlau a dod i gasgliad ar y materion hyn? Yn yr 20 mlynedd ers cyflwyno llywodraeth ddemocrataidd yng Nghymru rydym wedi cael yr hyn sy'n ymddangos i mi yn gasgliad toreithiog o gomisiynau a phwyllgorau, ac o ran archwiliadau gan rai o feddyliau mwyaf y wlad hon—meddwl mwy nag sydd gen i yn sicr. Ac os yw pawb—[Chwerthin.] Rwy'n derbyn nad...