Suzy Davies: Rwy'n wirionedddol—. Mewn chwe munud, nid oes unrhyw ffordd y gallaf wneud cyfiawnder â phawb ar hyn. Ond rwy'n falch iawn fod hyn wedi'i dderbyn ar gyfer dadl heddiw. Ni allaf feddwl am y tro diwethaf i mi fwynhau dadl cymaint, yn ogystal â dysgu oddi wrthi. Mae'n debyg mai'r cwestiwn yw pam ein bod yn ei chael o gwbl, ac mewn gwirionedd, fe'm trawodd, ar ôl dilyn rhywfaint o...
Suzy Davies: Iawn. Wel, mae'r ymchwil ar gyfer hynny wedi dod o waith Dr Elin Jones, a wnaeth y gwaith rhagarweiniol ar gyfer y Cwricwlwm Cymreig yn ôl yn 2013 a 2015, ac mae tystiolaeth lawer mwy diweddar wedi dod gan Martin Johnes, rwy'n credu, o Brifysgol Abertawe, sy'n dangos, er bod hynny ar gael i athrawon ei addysgu, nid yw'r mwyafrif helaeth ohonynt yn gwneud defnydd o'r modiwlau hynny. A'r...
Suzy Davies: Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Suzy Davies: Diolch, Weinidog. A galwaf ar Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw dadl Plaid Brexit: gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwy'n galw ar—pwy sy'n dechrau gyda ni? Mark Reckless. Mae'n ddrwg gyda fi. Galwaf ar Mark Reckless i wneud y cynnig.
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i ffermwyr yng Ngorllewin De Cymru?
Suzy Davies: Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy gefnogi cais Dai Lloyd am ddatganiad ar fargen y ddinas? Mae'n ddwy flynedd a chwarter ers cyhoeddi hwnnw ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe, a'r teimlad cyffredinol yw nad ydym wedi mynd fawr pellach ac rydym yn dal i fod yn y cyfnod siarad. Hoffwn, os caf, ofyn am ddau ddatganiad yn amser y Llywodraeth—cyn diwedd y sesiwn hwn, os oes modd. Bydd yr...
Suzy Davies: Rwy'n hapus i ddweud y byddwn ni'n cefnogi gwelliant 13, fel y gwnaethom gyda gwelliant tebyg iawn yng Nghyfnod 2, pan aeth i bleidlais gyfartal. Un o'r anghysonderau gyda'r Bil drafft, yn fy marn i, oedd methiant i ddiffinio cysyniadau allweddol, a oedd yn fy nharo fel ychydig yn anffodus pan oeddem ni'n sôn am Fil sy'n ymwneud â gwneud cyfraith Cymru, yn y ddwy iaith, yn haws dod o hyd...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf welliant 1. Rwy'n gobeithio—i ryw raddau, beth bynnag—y byddaf yn gallu ateb sylwadau Mark Reckless yn ystod y grŵp hwn. Cyflwynwyd y gwelliant hwn ar ôl trafod gwelliant tebyg yng Nghyfnod 2. Roedd y Bil gwreiddiol yn caniatáu i'r rhaglen wella hygyrchedd cyfraith Cymru i gael ei diwygio o bryd i'w gilydd. Roedd gwelliant y Llywodraeth yng Nghyfnod 2,...
Suzy Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol? Roeddwn i'n credu bod ei lythyr at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ddefnyddiol iawn mewn gwirionedd. Mae bob amser yn galonogol cael ymrwymiadau gweinidogol i unrhyw weithgaredd a hyrwyddir yn y fan yma gan Aelodau'r Cynulliad eu hunain, ond, unwaith eto, mae'n rhaid i mi ofyn, fel y byddwn bob amser yn...
Suzy Davies: Ie os gwelwch yn dda.
Suzy Davies: Yn seiliedig ar y ffigurau a ddyfynnwyd i ni yn awr, nid wyf 100 y cant yn sicr sut y gall bwrdd newydd sbon ddangos hanes o dair blynedd, ond yn ôl pob golwg, mae'r bwrdd newydd yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Ond a ydych yn gwybod faint o'r gostyngiad hwnnw yn y diffyg sy'n deillio o gael gwared ar unrhyw ddyled yn sgil y gweithrediadau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr—gan fod y gweithrediadau...
Suzy Davies: Nid Dirprwy Weinidog yr economi yn unig sy'n credu nad yw'r Llywodraeth hon yn gwybod yn iawn beth mae'n ei wneud ar yr economi. Fe ddywedoch y llynedd, er bod y Blaid Lafur yn dda am ddosbarthu arian, nad oedd—dyfynnaf— mor gyfarwydd â gwybod sut i gynhyrchu cyfoeth y gellir ei drethu a'i rannu wedyn er budd yr economi ehangach. Nawr, strategaeth ai peidio, byddwch yn ymdrin â...
Suzy Davies: Diolch yn fawr i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon, Lywydd. Cynigiaf ein gwelliannau. Er nad ydym yn cytuno â phopeth yn y cynnig, mae yna gryn dipyn yr ydym yn cytuno ag ef, a dyna pam y gallwch weld sut rai yw ein gwelliannau. Ni allwn dderbyn yr hunanfodlonrwydd sy'n gynhenid yng ngwelliant Llywodraeth Cymru chwaith, oherwydd mewn gwirionedd, maent yn iawn i gydnabod bod prifysgolion yn...
Suzy Davies: Prif Weinidog, pa un a ydych chi'n ei hoffi ai peidio, mae'r canlyniadau PISA yn fesur a gydnabyddir yn eang o berfformiad Cymru o ran addysg—fe'u cydnabyddir ledled y byd. Yng Nghymru, rydym ni'n dal yn ansicr ynghylch pa mor ddadlennol fydd y fframwaith newydd ar gyfer mesur perfformiad ysgolion a sut y bydd yn cael ei ddarllen yng nghyd-destun y cymaryddion rhyngwladol. Pa waith ymchwil...
Suzy Davies: Wel, mae disgwyliadau'n un peth, Weinidog, ond ym mis Ionawr eleni, dywedodd pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd y byddai unrhyw leihad pellach yn y gyllideb yn golygu na fyddai'n bosibl cael athrawon arbenigol, yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Nawr, rydym i gyd yn ymwybodol o bryderon cyffredinol ysgolion ynghylch toriadau i gyllid craidd, ond beth yw ein hymateb i'r honiad penodol hwn...
Suzy Davies: Rwy'n cytuno'n llwyr â chwestiwn Alun. A yw'n hawl, mewn gwirionedd, pan fo gallu awdurdod lleol i ddweud 'na' i gludiant yn ei rhwystro mor hawdd? Ac nid wyf yn sôn am gludiant ôl-16 yn unig, er, yn amlwg, mae honno'n broblem ar hyn o bryd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn fy rhanbarth i. Rydych chi wedi cyfeirio at hyn—roeddwn eisiau gofyn i chi: a ydych yn credu bod yr amser wedi dod...
Suzy Davies: Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr hyn a oedd gennych i'w ddweud am asedau cymunedol, Weinidog. Mae eich cynllun gweithredu ar ddementia ar gyfer 2018-22 yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cael awdurdodau lleol a byrddau iechyd i weithio gyda chymunedau lleol a'r cyrff trydydd sector ynddynt i'w hannog i wneud gwasanaethau'n hygyrch i bobl â dementia, yn ogystal â'u teuluoedd a'u gofalwyr....