Canlyniadau 961–980 o 1000 ar gyfer speaker:Mark Reckless

7. Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (25 Tach 2020)

Mark Reckless: Wrth edrych drwy'r fframwaith hwn, rwy'n mwynhau ansawdd y ddogfen a rhai o'r mapiau; mae'n eithaf diddorol i'w ddarllen. Ond fe wnaeth ambell beth fy nharo. Un peth yr hoffwn ei ddyfynnu. Mae'n dweud: 'Dylid gwneud penderfyniadau clir ynghylch maint a lleoliad twf drwy lunio Cynllun Datblygu Strategol'. Mae'n ddatganiad gwladoliaethol iawn. Mae'n tybio mai'r hyn a wnawn, drwy'r cynllun hwn,...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Addysg (25 Tach 2020)

Mark Reckless: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynghylch i ba raddau y gallai myfyrwyr fod wedi syrthio ar ei hôl hi yn ystod cyfyngiadau symud sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws?

7. Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru ( 1 Rha 2020)

Mark Reckless: Yn gyntaf, a gaf i ddweud diolch yn fawr iawn i Syr Wyn Williams fel llywydd Tribiwnlysoedd Cymru am ei adroddiad blynyddol ond hefyd am bopeth y mae ef a'i farnwyr wedi eu gwneud? Mae'r heriau wedi bod yn fwy oherwydd y coronafeirws, ond hyd yn oed mewn adegau arferol, anaml iawn y mae'r gwaith beunyddiol yn waith hyfryd, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn diolch ar goedd am yr hyn a...

8. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws — Cyfyngiadau Mis Rhagfyr ( 1 Rha 2020)

Mark Reckless: Prif Weinidog, daethoch i'r Siambr ar gyfer cwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach. Mae'n ddrwg gen i nad yw'n gyfleus i chi fod yn bresennol nawr. [Torri ar draws.]

8. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws — Cyfyngiadau Mis Rhagfyr ( 1 Rha 2020)

Mark Reckless: A brawddeg gyntaf fy nghyfraniad yw, byddai'n well gennyf weld y Prif Weinidog yma yn y cnawd. Dyna fy marn i fy hun—[Torri ar draws.] Rwy'n derbyn yn llwyr—[Torri ar draws.] Mae gennyf i fy marn fy hun.

8. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws — Cyfyngiadau Mis Rhagfyr ( 1 Rha 2020)

Mark Reckless: Iawn. Nawr, Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud, 'Os gallwn ni wneud hyn, fe allwn ni gyrraedd y Nadolig', ond dyna a ddywedoch chi am y cyfnod atal byr, ac ni weithiodd, oni wnaeth? A bu ychydig gormod o hunan-glod am y cyfnod atal byr hwnnw: gwnewch hynny, achub y blaen ar y sefyllfa, gan gymharu Cymru â Lloegr ynghylch gweithredu hynny, ond nid yw'n edrych fel hynny'n awr, onid yw?...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trafodaethau Rhynglywodraethol ( 2 Rha 2020)

Mark Reckless: 4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd trafodaethau rhynglywodraethol ynghylch yr ymateb i COVID-19? OQ55979

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trafodaethau Rhynglywodraethol ( 2 Rha 2020)

Mark Reckless: Mae'n dda clywed am ddechrau cynnar y Gweinidog heddiw. A gaf fi nodi wrtho fod nifer o fy etholwyr wedi bod mewn cysylltiad i ddweud pa mor falch ydynt fod y pedair Llywodraeth ledled y DU wedi rhannu’r un dull o fynd ati ar gyfer cyfnod y Nadolig mewn perthynas â’r cyfyngiadau COVID, a’u bod yn meddwl tybed pam na ellir cael ymateb o'r fath ar sail y DU gyfan yn fwy cyffredinol?

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Y Diwydiant Twristiaeth ( 2 Rha 2020)

Mark Reckless: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ynghylch rheoliadau COVID-19? OQ55978

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Y Diwydiant Twristiaeth ( 2 Rha 2020)

Mark Reckless: A oes perygl y gallai rhai o'n mesurau—tafarndai nad ydynt yn cael gweini alcohol—ac yn arbennig, gorfodi ffin i atal pobl o Loegr rhag dod i Gymru, hyd yn oed ar adegau pan oedd gennym lefelau uwch o achosion o bosibl, gael effaith dros flynyddoedd i ddod ar bobl a allai fod yn llai parod neu â llai o ddiddordeb mewn ymweld â Chymru yng ngoleuni hynny? A beth y gallwn ei wneud i geisio...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Argymhellion Burns — Y Camau Nesaf ( 8 Rha 2020)

Mark Reckless: Hoffwn weld adeiladau ffordd liniaru'r M4 fel yr addawyd, ond canolbwyntiaf yn fy sylwadau ar yr adroddiad. Mae gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru gyfrifoldebau gwahanol yma drwy'r gyfraith, ond tybed a yw'n ddull gwell i gael tîm prosiect ar y cyd, lle mae'r ddwy ochr yn ariannu hynny ac yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu ateb y cytunwyd arno, fel gyda Crossrail, lle gwelsom yr Adran...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 8 Rha 2020)

Mark Reckless: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cynnal ynghylch cytundeb ar y berthynas rhwng yr UE a'r DU yn y dyfodol?

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig: Parhad ( 9 Rha 2020)

Mark Reckless: Diolch i Joyce Watson am ei haraith; cyfeiriodd yn ôl at refferendwm 2011 a deddfu yn yr 20 maes hyn. Wrth gwrs, roedd hynny'n ddarostyngedig i brif gyfraith yr Undeb Ewropeaidd—nid oedd yn gwrthwynebu hynny, ond mae'n gwrthwynebu cyfyngiadau llai ar lefel y DU. Hefyd, ni wnaeth ein hatgoffa bod y papur pleidleisio yn y refferendwm hwnnw'n nodi, 'Ni all y Cynulliad hwn ddeddfu ar...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ariannu Trafnidiaeth Cymru ( 9 Rha 2020)

Mark Reckless: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu Trafnidiaeth Cymru gan ei bod bellach wedi cymryd rheolaeth dros fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau? OQ56015

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ariannu Trafnidiaeth Cymru ( 9 Rha 2020)

Mark Reckless: A yw'r Gweinidog yn credu ei bod yn iawn i Lywodraeth Cymru, drwy Trafnidiaeth Cymru, fod yn berchen ar orsafoedd Henffordd, Amwythig a Chaer a'u gweithredu, ac os felly, faint o arian y bydd trethdalwyr Cymru yn ei fuddsoddi ynddynt dros y blynyddoedd nesaf?

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Y Gronfa Ffyniant Gyffredin ( 9 Rha 2020)

Mark Reckless: 6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith cronfa ffyniant gyffredin y DU ar y setliad datganoli? OQ55988

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Brechlynnau COVID-19 ( 9 Rha 2020)

Mark Reckless: 7. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch effaith proses Brexit ar pa mor gyflym y caiff brechlynnau COVID-19 gymeradwyaethau rheoleiddiol? OQ56016

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd): Brechlynnau COVID-19 ( 9 Rha 2020)

Mark Reckless: Yr wythnos diwethaf, roedd erthygl ar dudalen flaen y Financial Times yn pwysleisio i ba raddau roedd yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, pan oedd wedi'i lleoli yn Canary Wharf, yn pwyso ar ein Hasiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd am gymorth gyda llawer o'i gwaith. Mae hefyd wedi wynebu heriau gwirioneddol, o dystiolaeth y FT o leiaf, ers adleoli i...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfyngiadau Coronafeirws (15 Rha 2020)

Mark Reckless: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lefel y gefnogaeth ar gyfer ei chyfyngiadau coronafeirws? OQ56070

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfyngiadau Coronafeirws (15 Rha 2020)

Mark Reckless: Wel, Prif Weinidog, dangosodd arolwg barn YouGov a gyhoeddwyd y bore yma bod y gefnogaeth wedi gostwng o 66 y cant i 45 y cant, gyda 47 y cant bellach yn gwrthwynebu. Ac rwy'n meddwl tybed a allech chi ddod o hyd i fwy o gefnogaeth i'ch polisi pe byddech chi'n gweithio gyda'r wrthblaid yn hytrach na'u galw yn warthus, ac yn croesawu ymweliad brenhinol i ddiolch i weithwyr allweddol yn hytrach...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.