Suzy Davies: Diolch ichi, Lynne, am gadeirio'r hyn a oedd, yn fy marn i, yn un o'r ymchwiliadau mwyaf pleserus a gawsom gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—yn y cyfnod y bûm i yno, beth bynnag—yn bennaf am ei fod wedi rhoi cyfle inni gasglu tystiolaeth yn uniongyrchol gan bobl ifanc gyda phrofiad, yn y gorffennol a'r presennol, ac wrth gwrs mae gwahanol fersiynau o'r fagloriaeth wedi bod ar...
Suzy Davies: O'r gorau—os byddwch yn hael.
Suzy Davies: Gallai hyn gymryd amser. Mae gennych athrawon yno sy'n gefnogol iawn i'r egwyddor. Maent wedi gwneud eu datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn gwneud yn siŵr eu bod mewn sefyllfa i ddatblygu a chyflwyno bagloriaeth mewn ffordd sy'n berthnasol i'r disgyblion hefyd, ac maent wedi edrych ar y gymuned lle maent yn gweithio i weld sut y gallant ddefnyddio'r rhyddid i gymhwyso'r fagloriaeth er...
Suzy Davies: A fyddech yn derbyn—? Diolch yn fawr iawn am hynny. Rwy'n meddwl tybed a allwch ddweud wrthyf a yw gwaith y grŵp hwnnw—ac roedd yn dda clywed ei fod yn edrych ar symleiddio hyn mewn rhyw fodd—yn ystyried y cwricwlwm newydd a'r cymwysterau ar gyfer hynny maes o law, a beth yn ychwanegol y bydd y dystysgrif her sgiliau'n ei roi i fyfyrwyr, 10 mlynedd o nawr, dyweder?
Suzy Davies: A fyddech yn derbyn ateb i hynny?
Suzy Davies: Rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro hynny yn fy sylwadau agoriadol, sef y bydd y Llywodraeth yn ei lle am oddeutu dwy flynedd arall, ac wrth gwrs, rydym yn disgwyl gweld y Llywodraeth yn gweithredu ar yr argymhellion hynny, ond nid yw'n golygu eu bod yn mynd i lwyddo.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Jest gaf i ddiolch i Aelodau ymlaen llaw am eu cyfraniadau yn y ddadl flasu—taster session—heddiw ar un maes bach o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? Fel y gwelwch o'r cynnig, doeddwn i ddim am sgubo’n eang dros y strategaeth na deifio'n ddwfn. Mae'n gyfle inni drafod sut i wella'r broses o graffu ar y strategaeth a...
Suzy Davies: Gwnaf i ddelio â'r gwelliannau wrth grynhoi, os gallaf i, ond gaf i ddechrau gan symud y cynnig a dechrau ystyried sut y gallem helpu ein busnesau bach i dderbyn manteision dwyieithrwydd, gan edrych ar bwyntiau 2 a 5? Rydym dair blynedd i mewn i strategaeth y Llywodraeth erbyn hyn, a dywed y Llywodraeth ei bod ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged addysg blynyddoedd cynnar erbyn 2021, ond...
Suzy Davies: Rwy jest wedi esbonio does dim rheswm o gwbl i feddwl mai ein pwrpas ni yw i danseilio hawliau'r Gymraeg a phwrpas y comisiynydd. Beth rwy am wneud yw ehangu hynny er mwyn bod yn siŵr does dim bygythiad i hawliau'r Gymraeg mewn ffordd anwybyddus.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Does dim lot o amser gen i, yn anffodus, felly a allaf i jest ddechrau gan ddiolch i Blaid am eu cefnogaeth i rai o'n pwyntiau? Edrychaf ymlaen atoch yn cyflwyno dadl eich hunain yn nhermau eich gwelliannau. Hoffwn gymryd rhan mewn dadl fwy eang nag un heddiw. Mae'n siomedig eich bod wedi dileu'r pwynt olaf yn hytrach nag ychwanegu pwynt newydd. Mae'n amhosib...
Suzy Davies: Prynhawn da, Prif Weinidog. Yn y crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y gwisgoedd ysgol—gwelsom y crynodeb o ymatebion y mis diwethaf—un o'r cwestiynau oedd a oedd pobl yn cytuno y dylai cyrff llywodraethu ysgolion roi ystyriaeth i fforddiadwyedd pennu polisi gwisg ysgol. Cwestiwn synhwyrol iawn. Ond nid yw gwerth am arian a fforddiadwyedd yr un peth bob amser. Efallai fod dillad sy'n...
Suzy Davies: Trefnydd, gobeithio y gallwch chi fy helpu i â hyn. Ar ôl sawl mis—yn ystod y profiad Pinewood, os caf i ei roi felly—yn aros am atebion i gwestiynau ysgrifenedig y Cynulliad a heb gael dim, mae'n ddrwg gennyf ddweud fod y sefyllfa wedi codi eto. Ar 24 Mai, cyflwynodd fy swyddfa gwestiwn yn gofyn i'r Prif Weinidog am absenoldeb straen a gymerir gan staff Llywodraeth Cymru, ac ar 3...
Suzy Davies: Mae David Rees yn llygad ei le. Ac mae'r cyfle, nid yn unig yng nghwm Afan, ond yng nghymoedd Castell-nedd hefyd, i ddatblygu twristiaeth, yn anhygoel. Ac rwy'n dal i'w ystyried yn gyfle a gollwyd. Mae'r hyn sydd ar gael ym mwrdeistref Castell-nedd Port Talbot yn anhygoel. Mae'n amlwg ein bod wedi cael ein taro gan newyddion drwg yn ddiweddar, nid yn unig mewn perthynas â'r erthyglau papur...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n gwneud y cynnig. Cyflwynais y cynnig hwn heddiw am ddau reswm penodol. Y cyntaf yw bod y rhain yn newidiadau go bwysig i'r system bresennol o asesu perfformiad ysgol, a'r ail, nad yw'n fater i'r Gweinidog hwn yn arbennig, ond i'r Llywodraeth yn gyffredinol, gobeithio—gobeithio, Weinidog, y byddwch yn maddau i mi am ddefnyddio'r enghraifft arbennig...
Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ac rwy'n falch, Jenny Rathbone, eich bod yn meddwl bod hyn yn ddigon pwysig i'w drafod. Efallai y gallaf ddechrau gyda phwyntiau'r Gweinidog. Mae hyn wedi'i gyflwyno ar lefel uwch i'r Siambr o'r blaen; nid yw'n newyddion llwyr i ni. Ond o ran y manylion penodol ynghylch Saesneg,...
Suzy Davies: Gwnaf, wrth gwrs.
Suzy Davies: Mae'n ateb cwbl deg, Siân. 'ACau ydym ni, nid ditectifs,' a fyddai fy ymateb i hynny mae'n debyg, ond nid yw'n rheswm dros beidio â chael mwy o ACau, fel mae'n digwydd. Mark Reckless—perfformiad ysgol a sut i'w farnu. Mewn gwirionedd, credaf fod hyn yn deilwng, efallai, o ddadl lawn ar ryw adeg. Buaswn yn falch iawn pe bai arweinydd Plaid Brexit yn cyflwyno hynny. Ar hyn o bryd, credaf...
Suzy Davies: Efallai eich bod yn cofio, wrth gwrs, ymgyrch y Fonesig Rosemary Butler i geisio annog mwy o fenywod i fywyd cyhoeddus, felly, y Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd ac nid Llywodraeth Cymru yn unig sydd â stori dda i'w hadrodd am ddechrau cynnydd, o leiaf. Rwyf i newydd ddod yn ôl o sesiwn olaf rhaglen ymgysylltu pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru gyfan, sy'n cael ei rhedeg gan...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Iawn, fe ddewisaf yr un yma. [Chwerthin.] Fel y gwyddoch, Trefnydd, mae rhywfaint o ddiddordeb wedi ei adfywio ym morlyn llanw Bae Abertawe, yn enwedig yn y ffyrdd gwahanol i symud ymlaen ac i'r syniad gwych hwn fynd rhagddo mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Mae un ohonynt, wrth gwrs, yn seiliedig ar rag-werthiant, felly mae'r pris streic yn mynd yn llai perthnasol,...
Suzy Davies: Efallai y gallaf wahodd y Prif Weinidog, yn gyntaf oll, i gynnal dadl efallai ar ein rhaglen ddeddfwriaethol rywbryd, dim ond i brofi bod un mewn gwirionedd, ac wrth gwrs mae sawl cyhoeddiad polisi wedi bod ers hynny. Diolch ichi am eich datganiad, fodd bynnag. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy ddweud 'Fe fyddwn yn gyrru ymlaen gyda mesurau pwysig ym meysydd addysg...a thrafnidiaeth'. ...