Mark Reckless: Diolch i arweinydd fy ngrŵp a llefarydd amaethyddol y blaid am ei gyfraniad. Mae’n llygad ei le wrth nodi bod y polisi amaethyddol cyffredin wedi dominyddu gwariant yr UE ers ymuno yn 1973, a chyn hynny’n wir. Bydd hefyd yn ymwybodol fod cyfran y gwariant wedi disgyn dros y cyfnod hwnnw o yn agos at 90 y cant i tua hanner yn fwy diweddar. Rydym yn siarad am fod eisiau cadw pob ceiniog o...
Mark Reckless: Diolch i’r Aelod am ei chyfraniad. Mae hi’n cynrychioli ei hetholwyr trefol yn fedrus, ac mae’n dod â’r safbwynt hwnnw i drafodaethau’r pwyllgor. O ran garddwriaeth, nid yw’n faes sydd wedi bod o fewn y PAC yn draddodiadol, er bod y fframwaith masnach rydd o fewn yr UE yn golygu bod gennym fewnforion sylweddol iawn, yn enwedig, rwy’n credu, o Ddenmarc a’r Iseldiroedd yn...
Mark Reckless: O ran y cyd-destun ehangach, rwy’n meddwl y cawn gyfle i fabwysiadu ymagwedd fwy trawsbynciol tuag at amaethyddiaeth mewn datblygu gwledig oherwydd y rhyddid polisi a fyddai’n gennym ar ôl gadael yr UE. Rwy’n pwysleisio, unwaith eto, fodd bynnag, ei fod yn mynd i gymryd llawer o amser a gwaith trwm i aelodau ein pwyllgor, ond hefyd o bosibl i’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd, wrth...
Mark Reckless: Rwy’n llongyfarch Simon Thomas ac Aelodau eraill am gael y ddadl hon, ac rwy’n cytuno â’r cynnig a gynigir. Rydym yn croesawu’r adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’, ac rydym yn cymeradwyo’r mudiadau sy’n ymwneud â datblygu’r adroddiad hwnnw. Fodd bynnag, yn ogystal â’r adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’ gan nifer o sefydliadau, yn bennaf yn y trydydd...
Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Mae’n bleser cael cyflwyno’r cynnig i argymell bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cefnogi diddymu tollau ar bontydd Hafren ar ôl eu dychwelyd i’r sector cyhoeddus. Mae tollau’r Hafren yn dal economi Cymru yn ôl, yn cadw twristiaid draw ac yn rhannu Cymru oddi wrth Loegr yn ddiangen. Mae’r tollau’n cymryd £90 miliwn o gost uniongyrchol fan lleiaf bob blwyddyn,...
Mark Reckless: Mae hynny’n wir, ac ydw, rwy’n cytuno â’r sylw hwnnw. Mae’r bont, wrth gwrs, i gyd yn Lloegr, yn wahanol i’r bont ddeheuol fwy newydd, gyda’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ar ei phwynt canol. Cafodd Deddf Pontydd Hafren 1992 wared ar rai o’r diffygion gweddilliol a allai fod wedi bod yn y bont honno a materion yn ymwneud â hwy o’r consesiwn, a oedd yn golygu nad oedd y...
Mark Reckless: Gan droi yn awr at y gwelliannau eraill, roeddwn yn teimlo bod cynnig y Ceidwadwyr ychydig yn niwlog a braidd yn llawn o amodau. Roeddwn yn meddwl mai’r ffordd orau o’i ddisgrifio oedd fel safbwynt dros dro a oedd yn aros am gyfarwyddyd o San Steffan, ond o bosibl yn welliant ar ble roeddent o’r blaen. A chynnig Plaid Cymru—rwy’n gweld ei fod yn galw am ddatganoli’r cyfrifoldeb am...
Mark Reckless: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i fy nghyd-Aelod yn fy mhlaid, Gareth Bennett, am ei gyfraniad. Diolch i Lee Waters a Jenny Rathbone am ddod i’r Siambr i ganolbwyntio ar y safbwynt amgylcheddol. Diolch i Russell George am ei gyfraniad cytbwys, ac rwy’n meddwl bod y cyd-Aelodau’n edrych ymlaen at weld ffynhonnell y 25 y cant hwn, ac yn sicr, byddem yn cefnogi astudiaeth bellach o’r...
Mark Reckless: 7. Pryd y gwnaeth y Prif Weinidog ei alwad gyntaf am ddileu tollau ar bontydd Hafren? OAQ(5)0282(FM)
Mark Reckless: Rwyf wedi darllen y maniffesto—
Mark Reckless: Fy nyfyniad blaenorol oedd: Ni fyddem yn gallu diddymu'r tollau, gadewch i ni fod yn gwbl onest am hynny. Ond, wrth gwrs, gallai unrhyw arian a godir gael ei neilltuo i’r M4. Ond roedd hynny yn 2012, ac rwy’n cymeradwyo’r Prif Weinidog ar y safbwynt y mae’n ei fabwysiadu nawr. Rwyf wedi codi gydag ef y mater bod pwerau Llywodraeth y DU ei hun i godi tollau o dan Ddeddf Pontydd...
Mark Reckless: Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad. Mae hi'n dweud ei bod hi'n gobeithio gweithio gyda phartïon ar draws y Siambr, o leiaf y rhai y mae hi yn barnu bod ganddynt wybodaeth fanwl o'r sector. Dywedodd hefyd ei bod yn croesawu'r consensws i egwyddorion adroddiad yr Athro Diamond. Hoffwn i ddechrau gyda dau faes yr oeddwn i’n falch iawn o’i chlywed yn sôn...
Mark Reckless: Fe wnaf i barhau. Tybed a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried bod—y £1,000 a ddywedwyd yn flaenorol a fyddai’n cael ei roi i bob teulu sy'n ennill hyd yn oed mwy na £59,200 yn awr, neu £80,000 neu £81,000 fel ag yr oedd o'r blaen, a yw hwnnw’n dal i fod wedi’i gynnwys yn y system arfaethedig? Ni chafodd ei grybwyll yn ei datganiad yma. Ac yn ail, a gaf i ofyn iddi...
Mark Reckless: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Nodaf ei fod yn dweud y bydd y dreth newydd yn gyson yn fras â'r dreth dirlenwi bresennol, a fydd yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i fusnesau ac yn lleihau'r risg o dwristiaeth gwastraff. Nid oeddwn yn gyfarwydd â'r cysyniad terfynol hwnnw cyn heddiw, ond rwy’n croesawu'r agwedd gyffredinol. Mae'n agwedd debyg i'r un y mae wedi'i dangos...
Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y ‘Sunday Times’ eu tablau ‘parent power’, gan gynnwys y 400 ysgol uwchradd wladol uchaf ledled y DU wedi eu pwysoli yn ôl canlyniadau TGAU a Safon Uwch. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn hapus mai’r ysgol uchaf yng Nghymru ar y rhestr honno oedd rhif cant wyth deg a dau?
Mark Reckless: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb, ac wrth gwrs y flwyddyn nesaf ac wedi hynny mae’n bosibl na chawn gyfle i wneud cymariaethau o’r fath ar draws y ffin gan fod y system raddio TGAU yn newid yn Lloegr o A i G i 9 i 1, ac ni fydd Cymru yn dilyn y llwybr hwnnw. Fel rhiant sy’n ceisio cymharu ysgolion cynradd, a safonau ar draws ysgolion gwahanol, rwyf wedi gweld hynny’n llawer...
Mark Reckless: Nodaf ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, ond nid yw’r cofnod cyflawn ar gael. Fel llawer o rieni eraill, hoffwn edrych ar ganlyniadau cyfnod allweddol 2 gwahanol ysgolion ledled Cymru, a chymharu’r duedd yn hynny o beth a pha welliannau a wnaed, a gwneud cymariaethau, wedi eu haddasu’n briodol, rhwng ysgolion. Mae’r system wedi ei sefydlu ar ei chyfer hi ac ar gyfer y proffesiwn, ac eto,...
Mark Reckless: Mae saith mlynedd wedi bod ers dechrau’r cyfnod o adfer economaidd, er bod yr adferiad hwnnw o ddirwasgiad hollol ofnadwy. Bu twf sylweddol yn economïau cyffredinol Cymru a’r DU. Mae diweithdra yn wirioneddol isel iawn yn ôl cymariaethau hanesyddol, o leiaf yn ystod y 30 mlynedd diwethaf, a hynny yng Nghymru a’r DU. Mae'r diffyg yn y gyllideb ar lefel y DU yn dal i fod yn agos at...
Mark Reckless: Gwnaf, rwy’n hapus iawn i wneud hynny.
Mark Reckless: Ie, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac eraill ar hynny. Rwy'n credu y dylai’r cynnig bod unrhyw newid i linell wariant a fyddai’n cael ei gyflwyno fel cynnig, ar yr un pryd gael gwelliant o ran naill ai cynnydd mewn trethi neu leihad mewn gwariant, a fyddai'n atal hynny. Ond, yn amodol ar hynny, rwy’n meddwl y byddem yn elwa o gael y broses...