David Rees: Brif Weinidog, ar 28 Mehefin, dim ond newydd benderfynu gadael yr UE oedd y wlad. O ganlyniad i hynny, mae’n bosibl y gallai fod goblygiadau deddfwriaethol yma yng Nghymru. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn gwirionedd i ystyried y goblygiadau i’r rhaglen ddeddfwriaethol yr ydych chi’n ei chyflwyno, yn seiliedig ar y ffaith y gallem ni weld llawer mwy o...
David Rees: Weinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru? A gaf i ddatganiad yn gyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig? Cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2016, cawsom ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ar foratoriwm ar ffracio. Byddai'n ddiddorol cael cadarnhad o’r ymrwymiad hwnnw gan Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau nad yw ffracio yn opsiwn i unrhyw...
David Rees: Brif Weinidog, mae’r diwydiant dur yn dal i fod mewn argyfwng. Nid yw wedi diflannu. Mae gennym ni lawer o broblemau a heriau yn ein hwynebu o hyd, er bod y gweithluoedd ar draws Cymru wedi dangos ymrwymiad i wella proffidioldeb. Beth mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei wneud o ran ardrethi busnes? Roedd hon yn broblem, yn sicr, yn gynnar yn y flwyddyn ac ystyriwyd eithriadau ar gyfer offer...
David Rees: Rwy’n sylweddoli’r cyfyngiadau amser felly byddaf i’n gyflym ac yn fyr. Brif Weinidog, diolch i chi am eich datganiad. Rwy’n gwerthfawrogi’n fawr y diweddariad a gawsom ac rwy'n edrych ymlaen at eich holi chi yr wythnos nesaf pan fyddwch chi’n dod i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar y mater penodol hwn. Credaf ei bod yn bwysig heddiw i dynnu sylw at y...
David Rees: A wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i longyfarch ardal Castell-nedd Port Talbot, lle rydym yn gweld twf yn nifer y plant sydd eisiau mynd i ysgolion addysg cyfrwng Cymraeg? A wnaiff groesawu’r ffaith hefyd fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod hyn ac yn adeiladu ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd ar hen safle Ysgol Gyfun Sandfields? A wnaiff weithio gyda’i gyd-Aelodau yn y...
David Rees: Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad ac rwy’n croesawu’n fawr y penderfyniad gan Google Digital Garage i ddod i Gymru am gyfnod o dri mis i sefydlu cynlluniau hyfforddi yma yng Nghymru—yn wir, roedd y ddau ddiwrnod cyntaf yn fy etholaeth i ym Mhort Talbot. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwneud llawer iawn â hwy er mwyn dod â hwy i Gymru mewn gwirionedd, er mwyn i ni gael yr...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad arall?
David Rees: Unwaith eto, diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych felly yn croesawu adolygiad Donaldson, sy’n gosod cymhwysedd digidol a’r fframwaith digidol yn ganolog i rywfaint o’i waith, ac felly bydd y cwricwlwm mewn gwirionedd yn cynnwys yr hyn rydych yn ei ddweud?
David Rees: Diolch. Dim ond i egluro pwynt, mae band eang yn broblem mewn rhai ardaloedd yn fy etholaeth i hefyd.
David Rees: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi addysg yn y cartref?
David Rees: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gefnogi addysg yn y cartref?
David Rees: Brif Weinidog, mae'n ddiddorol ac yn braf clywed y bydd y canllawiau yn cael eu cyhoeddi yn fuan iawn oherwydd, yn fy awdurdod fy hun, ceir 114 o blant hysbys sy'n cael eu haddysgu gartref, ond dim ond un swyddog rhan-amser sy’n gweithio gyda’r rheini. A allwch chi hefyd sicrhau bod y canllawiau’n mynd i orfodi a rhoi mwy o bwysau ar awdurdodau lleol i gael perthynas rhwng nifer y plant...
David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, a gaf i adleisio sylwadau Bethan Jenkins. 15 mlynedd yn ôl i heddiw digwyddodd y ddamwain erchyll yn ffwrnais chwyth Rhif 5 pryd y collodd tri gweithiwr eu bywydau, dau o fy etholaeth i ac un o Faesteg, a chafodd llawer eu hanafu? Roedd y sylwadau ddoe gan Brif Weinidog y DU, neu'r adlewyrchiad ar y Prif Weinidog oherwydd na wnaeth hi, mewn gwirionedd,...
David Rees: Weinidog, mae llawer o gwestiynau eisoes wedi eu gofyn, ac rwyf yn llwyr gefnogi pwyntiau Julie Morgan ynglŷn â thoiledau cyhoeddus. Rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod y strategaeth yn cael ei rhoi ar waith mewn gwirionedd, a bod pobl yn cael mynediad at yr holl gyfleusterau. Ac os nad oes rhai yno, nad ydyn nhw’n gallu dweud yn syml, ‘Ni allwn ei fforddio’, ond eu bod yn gwneud...
David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddoe roedd hi’n bymtheg mlynedd ers y ffrwydrad erchyll yn ffwrnais chwyth rhif 5 yng ngwaith dur Port Talbot. Digwyddodd y ffrwydrad am 5:15 yr hwyr ar 8 Tachwedd 2001, a daeth llawer o drigolion ym Mhort Talbot yn ymwybodol o’r digwyddiad yn gyflym ar ôl clywed bang uchel y ffrwydrad. Collodd tri o weithwyr dur eu bywydau y diwrnod hwnnw—Andrew Hutin, 20 oed,...
David Rees: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cymhwyso'r ardoll prentisiaethau yng Nghymru?
David Rees: Brif Weinidog, mae eich agenda ataliol yn bwysig i sicrhau iechyd y cyhoedd da i bobl yng Nghymru. Mae brechiadau yn rhan o'r agenda ataliol hwnnw, ac yn yr achos hwn yn benodol, brechiadau rhag y ffliw. Rydym ni wedi gweld gwelliannau o ran y nifer sy’n manteisio, ond ceir her i staff rheng flaen y GIG o hyd. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod staff rheng flaen y GIG yn...
David Rees: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Mae wedi bod yn bwysig iawn edrych ar ble’r ydym yn mynd i fynd i’r afael â rhai o'r problemau sy'n effeithio ar rai o'r cymunedau o amddifadedd mwyaf. Roeddwn yn mynd i ofyn i chi am yr ardoll, ond yr wyf yn credu eich bod wedi ateb hynny yn eithaf clir. [Torri ar draws]. Na, mae’n iawn. Ond y materion y buom yn siarad...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n cytuno â chi; rydym ni i gyd eisiau ymdrechu i sicrhau gofal diogel a thosturiol i'n holl etholwyr a phobl yng Nghymru, ac felly rwy’n croesawu'r datganiad yr ydych chi wedi’i roi heddiw, yn enwedig o ran yr ymdrechion i sicrhau ein bod ni’n gallu cyflawni hynny yn ystod misoedd prysuraf y gaeaf. A gaf i hefyd ymuno â chi i ganmol proffesiynoldeb ac...
David Rees: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, oherwydd credaf fod gennyf innau bryderon ynglŷn â dyfodol y rhaglen hon, a rhaglen Esgyn yn benodol, sy’n helpu pobl yn ôl i mewn i waith ac yn targedu ardaloedd difreintiedig? Credaf ei fod wedi rhoi sicrwydd y byddant yno yn y dyfodol. A all hefyd roi sicrwydd, wrth iddo ystyried a thrafod yr ymgynghoriad yn dilyn ei ystyriaeth i...