Neil McEvoy: Mae gwrth-ddweud enfawr rhwng yr hyn a ddywedwch am y dull rhanbarthol a’r realiti, gan fod awdurdodau lleol yn bwrw iddi i gynllunio datblygiadau ymlaen llaw fel pe na bai’r prosiect dinas-ranbarth yn digwydd. Felly, pam rydych yn caniatáu i Gyngor Dinas Caerdydd, sy’n cael ei arwain gan y Blaid Lafur, ddinistrio’r safleoedd maes glas yn eich etholaeth, yn hytrach na’u dosbarthu o...
Neil McEvoy: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n cynnig y cynnig ac yn gofyn am gefnogaeth i’r cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Ar adeg o galedi, pan fo gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu torri at yr asgwrn, canolfannau ieuenctid a chanolfannau chwarae yn cael eu cau, a chanolfannau hamdden yn cael eu preifateiddio yng Nghaerdydd, nid yw’n syndod fod y cyhoedd wedi’u cythruddo gan y cyflogau...
Neil McEvoy: Rydym hefyd wedi rhoi camau ar waith i ddarparu proses graffu well ar gyflogau uwch reolwyr drwy sicrhau bod Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 yn ystod y pedwerydd Cynulliad wedi gwella tryloywder o ran sut y pennir cyflogau uwch swyddogion drwy sefydlu paneli taliadau annibynnol. Sicrhaodd Rhodri Glyn Thomas AC fod rhaid craffu a phleidleisio ar bob dyfarniad cyflog i uwch...
Neil McEvoy: Rwy’n barod i ildio i’r Gweinidog, a oedd â thair swydd ar un adeg—
Neil McEvoy: [Yn parhau.]—tra oedd yn Aelod o’r Cynulliad. A hoffech siarad, Weinidog? Mae gennych ddigon i’w ddweud wrth weiddi. Na? O’r gorau, iawn.
Neil McEvoy: Byddai’n wirioneddol wych gweld cyflogau’r uwch—[Torri ar draws.]
Neil McEvoy: Rwy’n meddwl, gyd-Aelodau, fod y ffordd y mae Gweinidogion y Llywodraeth yn ymddwyn weithiau’n gywilyddus—[Torri ar draws.]
Neil McEvoy: [Yn parhau.]—ac yn diraddio’r sefydliad hwn. [Torri ar draws.]
Neil McEvoy: Fe wnaf barhau, gan fy mod yn credu y byddai’n wych pe bai’r rhai sy’n ennill y cyflogau uchaf a’r cyflogau isaf yn y sector cyhoeddus—pe bai eu cyflogau wedi’u cysylltu. Yn y ffordd honno, byddai Nick Bennett ac eraill sy’n rhoi codiadau cyflog i’w hunain yn gweld cyflogau’r bobl ar y cyflogau isaf yn y sefydliad yn cynyddu hefyd. Pe bai toriad cyflog ar y gwaelod, byddai...
Neil McEvoy: Gadeirydd, gwnaed datganiad amdanaf a oedd yn ffeithiol anghywir. Gofynnaf i’r Aelod gael ei alw i drefn, os gwelwch yn dda.
Neil McEvoy: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, yng Nghaerffili, ni chefnogodd cynghorydd Plaid Cymru y cytundeb cyflog, cynghorwyr Llafur a wnaeth hynny. O ran fy sefyllfa fy hun, rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda fy nghymuned a buddsoddi’r lwfans cynghorydd ar ôl yr etholiadau, os caf fy ail-ethol, yn fy nghymuned. Ni allaf aros. [Torri ar draws.] Rwy’n meddwl bod yna anferth o—. Rwy’n...
Neil McEvoy: Yr hyn sydd gennym yma yw sawl agwedd ar wladwriaeth un blaid, sydd wedi cael ei rhedeg gan y Blaid Lafur ers 1999. A wyddoch chi beth, y newyddion yw: mae eich amser yn dod i ben. Diolch yn fawr.
Neil McEvoy: Pwynt o drefn.
Neil McEvoy: Pwynt o drefn.
Neil McEvoy: Diolch. Roedd yr hyn a ddywedodd yr Aelod dros Ferthyr yn ffeithiol anghywir, a gofynnaf iddi ei dynnu’n ôl.
Neil McEvoy: Fel y Gweinidogion, ie?
Neil McEvoy: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu ail nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
Neil McEvoy: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i reoli llygredd aer?
Neil McEvoy: Brif Weinidog, rwyf wedi cael etholwyr di-ri yn ysgrifennu ataf am ardrethi busnes—perchnogion busnesau bach, pobl sy’n rhedeg siopau annibynnol—ac maen nhw i gyd yn dweud wrthyf fod ardrethi busnes eich Llywodraeth yn bygwth eu busnesau, y gallent olygu y bydd yn rhaid iddyn nhw gau neu, yn sicr, diswyddo pobl. Pam ydych chi’n niweidio busnesau bach yn fy rhanbarth i?
Neil McEvoy: Brif Weinidog, swyddogaeth eich Llywodraeth yn CDLl Caerdydd yw’r bwriad i daflu miloedd o anheddau ar ein cefn gwlad. Bydd Plaid Cymru Caerdydd yn sicrhau bod cyngor Caerdydd yn pasio cynnig i fynnu bod y Cynulliad yn diddymu cynllun difa lleol Caerdydd. A wnewch chi gefnogi'r cynnig hwnnw i achub meysydd glas Caerdydd?