Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Jest rhowch eiliad i fi ffeindio fe.
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau i uno elfennau o Amgueddfa Cenedlaethol Cymru â Cadw? EAQ(5)0053(EI)
Suzy Davies: Diolch am yr ymateb yna, Weinidog y Cabinet, ac am eich datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf. Diolch i chi, Lywydd, hefyd, am ganiatáu’r cwestiwn brys fel y gellid craffu ar y datganiad yn gynnar. Fel Ceidwadwyr Cymreig, ni fyddai gennym unrhyw wrthwynebiad i gyrff a noddir neu gyrff o fewn y Llywodraeth yn manteisio i’r eithaf ar eu cyfleoedd i wella’r holl weithgareddau...
Suzy Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, mae adolygiadau diweddar o’r llenyddiaeth wedi cadarnhau bod teleseiciatreg yr un mor effeithiol ag ymgynghoriadau seiciatrig wyneb yn wyneb ar gyfer gwneud asesiad diagnostig, a’i fod cystal, o leiaf, ar gyfer trin anhwylderau megis iselder ac anhwylder straen wedi trawma, a gall fod yn well na thriniaeth wyneb yn wyneb i rai grwpiau o gleifion, yn enwedig plant,...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am gymryd yr ymyriad. Ar eich pwynt olaf yn unig fod gostyngiad o 50 y cant yn golygu bod y tŷ ond yn werth hanner ei werth gwreiddiol. Yn anochel, mae gwerth tŷ sydd ar werth yn mynd i fod yn uwch na’i gostau adeiladu, felly, er bod gennych bwynt cyffredinol efallai nad oes angen i ddisgownt fod yn rhy hael, mae’n ddrwg gennyf ond mae cymharu cost adeiladu â chost...
Suzy Davies: Rwy’n ddiolchgar iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Mae’r ddadl hon yn ymwneud â chyflenwad—cyflenwad o dai fforddiadwy mawr eu hangen. Rwy’n cydnabod, ac wrth gwrs, yn derbyn bod yna safbwyntiau gwahanol ar hyn, gyda rhai ohonynt yn seiliedig ar ideoleg a rhai’n seiliedig ar brofiad, ond nid oes yr un o’r cyfraniadau a...
Suzy Davies: Rwy’n brin o amser braidd, felly os gallwch fod yn gyflym. Diolch.
Suzy Davies: Yr hyn y mae’n ei ddangos i mi yw nad yw Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud yn hawdd i unrhyw un adeiladu tai cymdeithasol yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae datblygwyr yn hoffi adeiladu ystadau tai mawr, heblaw pan fo dirywiad yn yr economi pan fyddant yn wynebu llawer o risg. Yr hyn y maent yn ei hoffi, yn enwedig y math o ddatblygwyr llai o faint sydd gennym yma yng Nghymru, yw’r gwaith...
Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Huw, am gyflwyno’r ddadl fer hon heddiw. Yn amlwg, rydym wedi bod yn cael trafodaethau cyfochrog â’r cyrff unigol a grybwyllwyd gennych, felly nid ailadroddaf unrhyw beth rydych wedi’i ddweud ar wahân i annog Ysgrifennydd y Cabinet i ystyried rhai o’r awgrymiadau a gyflwynodd Huw Irranca-Davies. Un o’r pwyntiau a nodwyd wrthyf oedd y gellid...
Suzy Davies: Mae adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016’ yn datgan bod rheoli tir yn ffactor pwysig ym maes cadwraeth, gan fod dros 70 y cant o Gymru yn dir fferm. Mae rheoli, wrth gwrs, yn cynnwys rheoli diogelwch. Mae awduron yr adroddiad wedi galw ar Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i wneud nifer o bethau, gan gynnwys cefnogi rheoli tir sy’n helpu i gynnal a gwella natur a gwydnwch ecosystemau,...
Suzy Davies: Ar ôl siarad â thrigolion yn yr ardal a Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod y sefyllfa sy’n mynd rhagddi, credaf ei bod yn amlwg fod angen newid, a diolch am eich ymateb i’r ddadl fer yr wythnos diwethaf. Yn y cyfamser, fodd bynnag, a ydych wedi ystyried defnyddio eich pwerau o dan adran 61 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010 i roi cyfarwyddyd i Cyfoeth Naturiol Cymru...
Suzy Davies: Mae’r YMCA, wrth gwrs, yn cynnwys pobl ifanc o bob math o gefndir economaidd-gymdeithasol ac mae ganddo hanes da iawn o weithio gyda grwpiau eraill. Gobeithiaf y byddant yn edrych ar enghraifft Matt’s Cafe yn Abertawe, sy’n gweithio gyda nifer o archfarchnadoedd i fynd â bwyd heb ei werthu i’w ddefnyddio mewn caffi cymunedol. O ystyried y cyhoeddiad ddoe fod Bwrdd Iechyd Lleol...
Suzy Davies: Weinidog, Hefin David a Julie Morgan, y rhesymau pam rydym yn gofyn am Ddeddf awtistiaeth a’r rheswm pam roedd hyn ym maniffestos y pleidiau eraill, a’r rheswm pam y mae pleidiau eraill y lle hwn o’r un farn yw nad yw’r cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau’r sbectrwm awtistig wedi gweithio. Nid yw’r cynllun ar ei newydd wedd yn edrych fel pe bai’n mynd i weithio....
Suzy Davies: Wel, un o ddibenion Deddf awtistiaeth fyddai gwneud yn siŵr ei bod yn cynnwys pob oedran, fel bod oedran pontio o 16, 18, neu hyd yn oed 21 neu 25 mewn rhai achosion, yn amherthnasol. Mae hyn yn ymwneud ag unigolion, waeth pa mor hen ydynt, eu hawliau a’r hyn y dylent allu ei hawlio gan y gwasanaethau cyhoeddus a gweddill y gymdeithas. Saith mlynedd yn ôl, ac mae hyn yn ôl yn 2009, ar...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad. Pan ddywedwch ‘yn y blynyddoedd i ddod’, pa mor hir yw hynny?
Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ychwanegu fy llongyfarchiadau i Joyce hefyd? Rwy’n credu ei fod yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch ohono, ond chi yn bennaf oll. Mae trosglwyddo ieithoedd o un genhedlaeth i’r llall yn tueddu i fod yn gyfrifoldeb menywod—nid yn llwyr, wrth gwrs—ond rwy’n meddwl tybed a oes rhywbeth yma a allai fod yn fantais i’r DU ar ôl gadael yr UE o ran...
Suzy Davies: Mae cadw pobl allan o'r ysbyty yn cyflwyno galw am wasanaethau gofal sylfaenol sydd eisoes o dan bwysau. Mae pobl sydd angen gofal cymdeithasol yn fwy tebygol o alw ar ofal sylfaenol ac, yn ôl pob tebyg, gofal ailalluogi, na'r boblogaeth gyffredinol. Nid yw gofal cymdeithasol yn ymwneud â'r meddyg teulu yn gyfan gwbl, fodd bynnag, ac rwy’n meddwl tybed sut mae Llywodraeth Cymru yn...
Suzy Davies: Hoffwn ddweud diolch hefyd i’r comisiynydd am ei hadroddiad, a dechrau drwy ei llongyfarch am gadw o fewn ei chyllideb, yn arbed arian ar bron bob llinell ynddi. Roedd setliad ei swyddfa y llynedd yn arbennig o anodd ac mae wedi bod rhywbeth yn debyg eto eleni. Rwy’n edrych ymlaen at y manylion yn y gyllideb ddrafft. Rydym yn croesawu effeithlonrwydd, wrth gwrs, ond mae’r ffaith bod y...
Suzy Davies: Diolch am eich datganiad, John. Rwyf wedi cael fy nrysu ychydig gan ffigurau Mark Isherwood yn gynharach, ond yn eich araith fe sonioch fod 112 o ffoaduriaid o Syria wedi’u hadsefydlu yng Nghymru, sy’n golygu nad ymddengys fod y ffigur hwnnw wedi newid ers mis Awst, os yw hynny’n dal yn wir, ac mae’n dal i olygu nad yw 13 o’r cynghorau wedi adsefydlu unrhyw ffoaduriaid o Syria o...