Canlyniadau 81–100 o 800 ar gyfer speaker:Vikki Howells

4. 3. Datganiadau 90 Eiliad ( 1 Maw 2017)

Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae mynd allan i’r awyr agored mor dda i ni, nid yn unig yn gorfforol, ond hefyd yn feddyliol. Mae’n mynd â ni o straen y byd technolegol yr ydym yn byw ynddo ac yn ôl at symlrwydd a natur i roi seibiant mawr ei angen i’n hymennydd. Dyna eiriau un o fy etholwyr, Tracy Purnell o’r Drenewydd, Aberpennar, a gurodd bron i 500 o ymgeiswyr i ddod yn hyrwyddwr yr...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ( 1 Maw 2017)

Vikki Howells: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog preswylwyr Cwm Cynon i wneud y dewisiadau cywir o ran cael gafael ar ofal iechyd?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Recriwtio Meddygon Teulu
( 7 Maw 2017)

Vikki Howells: Brif Weinidog, ceir sylfaen dystiolaeth gref sy'n awgrymu bod myfyrwyr meddygol yn fwy tebygol o fod eisiau ymarfer yn yr hirdymor yn y lle maen nhw wedi hyfforddi ynddo. Felly, rwy’n croesawu menter bwrdd iechyd Cwm Taf, lle, mewn partneriaeth ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, mae 60 o fyfyrwyr meddygol bob blwyddyn wedi cael cyflawni rhan gynnar eu hyfforddiant mewn meddygfeydd...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Y Sector Ynni Adnewyddadwy
( 8 Maw 2017)

Vikki Howells: 9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru? OAQ(5)0109(ERA)

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Y Sector Ynni Adnewyddadwy
( 8 Maw 2017)

Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym yn gwybod bod gan y sector ynni adnewyddadwy botensial aruthrol i hybu’r economi a thrwy rwydweithiau cyflenwi effeithlon, gellir lledaenu unrhyw fanteision ledled Cymru. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyllid ar gael i fwrw ymlaen â’r prosiectau hyn? Rwy’n meddwl yma ynglŷn â chymorth uniongyrchol ar gyfer cynhyrchu cymunedol,...

5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Economi Sylfaenol ( 8 Maw 2017)

Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw. Ar gyfer fy sylwadau cloi, rwyf am ddechrau drwy amlinellu ychydig o resymau pam y mae’r economi sylfaenol mor wahanol. Yn wahanol i’r hyn a ddisgrifiwyd fel ‘ungnwd o economeg prif ffrwd’, lle y cafodd twf ac arloesedd eu gwthio i mewn i un polisi ar gyfer pawb, bydd ffocws newydd ar yr...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ( 8 Maw 2017)

Vikki Howells: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod hŷn yng Nghwm Cynon?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Ailbrisio Ardrethi Busnes
(14 Maw 2017)

Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, o ganlyniad i ailbrisio, mae’r gwerth ardrethol cyfartalog yn Rhondda Cynon Taf wedi gostwng gan 6.1 y cant. Gan fod hwn yn batrwm eithaf cyffredin ar draws yr ardal, pa effaith allai hyn ei chael ar bolisïau Llywodraeth Cymru tuag at hybu ffyniant economaidd ar draws Cymoedd y De?

7. 3. Datganiad: Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) (14 Maw 2017)

Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad yma heddiw. Mae hwn yn gyhoeddiad pwysig ac, ar ben hynny, yn un gafodd ei gymeradwyo gan bleidleiswyr yng Nghymru yn ystod etholiad y Cynulliad y llynedd. Fel yr ydych wedi nodi, ar gyfer pob 20 o dai cymdeithasol oedd yn bodoli ym 1981, mae naw bellach wedi'u gwerthu, ac er bod yr hawl i brynu wedi helpu llawer o deuluoedd i gamu ar...

5. 5. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (15 Maw 2017)

Vikki Howells: Rwy’n falch o allu siarad o blaid y cynnig hwn heddiw, ac fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, y tîm clercio, Aelodau eraill a thystion am ymchwiliad diddorol iawn. Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar argymhelliad cyntaf yr adroddiad. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw cynnwys tai a seilwaith...

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol:
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
(22 Maw 2017)

Vikki Howells: 2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael â swyddogion eraill y gyfraith ynghylch cosbau troseddol am droseddau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? OAQ(5)0029(CG)

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol:
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
(22 Maw 2017)

Vikki Howells: Diolch. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol fod materion fel tipio anghyfreithlon, baw cŵn a sbwriel yn bryder go iawn i lawer o bobl. A fyddai’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y dylai’r cosbau a roddir mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn gymesur â’r pwyslais y mae’r cyhoedd yn ei roi ar yr angen i atal ymddygiad o’r fath?

5. 4. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Economi Las (22 Maw 2017)

Vikki Howells: Rwyf wrth fy modd yn siarad o blaid y cynnig hwn heddiw. Yn wir, gallaf wneud hynny o safbwynt unigryw, sef yr unig Aelod Cynulliad sy’n aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Gyda’i gilydd, mae gwaith y pwyllgorau hyn yn rhoi trosolwg trawsbynciol o arwyddocâd economi las Cymru i mi. Yn ystod y Cynulliad diwethaf,...

5. 4. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Economi Las (22 Maw 2017)

Vikki Howells: Ie, rwy’n cytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedodd yr Aelod. Ac rwy’n meddwl mai dyna beth sydd angen i’r cynllun morol ei gwmpasu mewn gwirionedd. Ac mae fy ngalwad am ddulliau gwell o gasglu data yn gysylltiedig â hynny hefyd. Credaf fod angen i’r holl bethau hynny weithio gyda’i gilydd. I fynd yn ôl at y gadwyn gyflenwi, felly, mae Tidal Lagoon Power wedi cyfeirio at graidd...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Trafnidiaeth Gyhoeddus
(28 Maw 2017)

Vikki Howells: Bore dydd Iau diwethaf, rhoddodd arweinyddion rhagorol cynghorau RhCT a Phen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorwyr Andrew Morgan a Huw David, dystiolaeth ar fetro de Cymru i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Roeddent yn dadlau bod angen i'r metro gysylltu ar draws y Cymoedd gogleddol ac nid cryfhau cysylltiadau i Gaerdydd ac oddi yno’n unig. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno ac ymrwymo i...

3. Cwestiwn Brys: Tanau Glaswellt (28 Maw 2017)

Vikki Howells: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i’r nifer fawr o danau glaswellt dros y penwythnos? EAQ(5)0126(CC)

3. Cwestiwn Brys: Tanau Glaswellt (28 Maw 2017)

Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi rhoi sylw i 62 o danau glaswellt ers dydd Gwener, gyda llawer ohonynt yn Rhondda Cynon Taf, a'r awgrym yw fod llawer wedi eu cychwyn yn fwriadol. Her arall i’r gwasanaethau tân hefyd oedd ffyrnigrwydd y tanau, a oedd yn achos perygl i ddiogelwch personél y gwasanaeth, ac i'n cymunedau. Mae ffigurau...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Trafnidiaeth Cymru
(29 Maw 2017)

Vikki Howells: 1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o fanteision lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn Rhondda Cynon Taf OAQ(5)0144(EI)

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Trafnidiaeth Cymru
(29 Maw 2017)

Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r newyddion y bydd canolfan Trafnidiaeth Cymru ynghyd â swyddfeydd rhaglen bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn dod i Rondda Cynon Taf yn newyddion ardderchog i fy awdurdod lleol. Gyda’i gilydd, gallent olygu cannoedd o swyddi o safon ar gyfer y Cymoedd, ac atgyfnerthu’r adfywiad economaidd. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar hyn...

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.