Canlyniadau 81–100 o 400 ar gyfer speaker:Michelle Brown

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 1 Chw 2017)

Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Yn ôl Cymdeithas Fawcett, bydd merched yn colli tua £300,000 dros eu bywydau gwaith oherwydd cyflog anghyfartal. Fel y gwyddoch, mae gorfodi deddfwriaeth cyflog cyfartal yn nwylo’r gweithiwr. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai sicrhau cyflog sy’n gyfartal rhwng y rhywiau fod yn ddyletswydd ar y cyflogwr, yn hytrach na’r cyflogai?

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 1 Chw 2017)

Michelle Brown: Mae gorfodi hawliau cyflog cyfartal yn cael ei wneud yn anodd iawn, os nad yn amhosibl, gan ddiffyg tryloywder ynglŷn â chyflogau ar ran cyflogwyr. Ni all gweithiwr wneud hawliad ynghylch cyflog cyfartal oni bai eu bod yn gwybod beth yw cyflog pawb arall a chael cymharydd. Rhaid cyfaddef, nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros yr hyn y mae cyflogwyr yn y sector preifat yn ei...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 1 Chw 2017)

Michelle Brown: Mae’n ddrwg gennyf, ni chlywais yn iawn a ydych yn barod i gyflwyno tryloywder cyflogau yn y sector cyhoeddus mewn gwirionedd, oherwydd os nad ydych, a allwch esbonio i fenywod yn y sector cyhoeddus sut y maent yn mynd i orfodi eu hawliau cyflog cyfartal os nad ydych yn mynd i ddweud wrthynt beth yw’r cyfraddau cyflog cymharol yng ngweddill eu sefydliad?

7. 5. Datganiad: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel ( 7 Chw 2017)

Michelle Brown: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf i’n croesawu'r swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yr ydych chi wedi eu cyhoeddi a sôn amdanyn nhw yn eich datganiad. Fodd bynnag, mae'n drueni, yn sicr yn y gogledd, bod gormod o orsafoedd heddlu yn anhygyrch erbyn hyn a’r safleoedd wedi’u gwerthu. Mae’r sicrwydd o gael gorsaf heddlu weladwy...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Chw 2017)

Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, cyhoeddwyd categorïau ysgolion Cymru gennych yn ddiweddar. Ni fydd categoreiddio’r ysgolion o ddefnydd oni bai bod y wybodaeth yn cael ei defnyddio’n brydlon ac yn effeithiol er mwyn helpu ysgolion i wella; fel arall, bydd plant yn parhau i ddihoeni mewn ysgolion nad ydynt yn perfformio cystal â’r safon. A ydych yn barod i roi sicrwydd...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Chw 2017)

Michelle Brown: Diolch i chi am hynny. O ran y categorïau coch, oren a gwyrdd, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym faint o blant sy’n byw mewn dalgylchoedd lle y bernir bod yr ysgolion cynradd ac uwchradd naill ai yn y categori oren neu’r categori coch? Rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod gorfodi plentyn i fynd i ysgol sydd angen ei gwella yn annerbyniol a buasai’n...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 8 Chw 2017)

Michelle Brown: Iawn. Diolch. Ar ôl gofyn am faint y broblem, mae’n anghywir i drin unrhyw un, wrth gwrs, yn enwedig plant, fel ystadegau. Felly, hoffwn glywed peth sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd unrhyw ysgol sydd angen cymorth yn cael ei thrin yn gyfartal o gymharu ag ysgolion eraill sydd angen help, waeth beth yw maint yr ysgol.

6. 5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei Ymchwiliad i Waith Ieuenctid ( 8 Chw 2017)

Michelle Brown: Hoffwn longyfarch a diolch i’r sefydliadau a’r arbenigwyr a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad am eu parodrwydd i ddweud sut y maent yn gweld pethau. Mae rhanddeiliaid yn y sectorau statudol a gwirfoddol yn siarad am ddiffyg arweiniad a chyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol—CWVYS—yn nodi nad yw 30 y...

6. 5. Datganiad: Sefydlu'r Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Cerddoriaeth (14 Chw 2017)

Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad a wnaethoch heddiw ar y gronfa waddol ar gyfer cerddoriaeth. Dwi'n gefnogol iawn i unrhyw ffyrdd adeiladol o wella hyfforddiant cerddoriaeth mewn ysgolion a chael mwy o blant a phobl ifanc i fwynhau, caru, chwarae a chymryd rhan mewn cerddoriaeth. Hoffwn ofyn i chi am rywfaint o fanylion, serch hynny....

4. 4. Datganiad: Adolygiad Addysg ac Argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (28 Chw 2017)

Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi codi pwynt y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ynglŷn ag arweinyddiaeth, ac rwy’n cytuno â hi bod arweinyddiaeth yn faes y mae angen ei ddatblygu’n sylweddol, a hynny ar frys. Fodd bynnag, nid yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi crybwyll yn ei datganiad yr...

7. 6. Dadl UKIP Cymru: Contractau Dim Oriau ( 1 Maw 2017)

Michelle Brown: Mae contractau dim oriau wedi bod o gwmpas ers amser hir, ac wedi bod o fudd i gyflogwyr a gweithwyr gyda’u hyblygrwydd. Fodd bynnag, ers 2004, gwelwyd cynnydd enfawr yn nifer y contractau dim oriau. Felly, pam y cynnydd? Mae cyflogwr sy’n ymateb i ddeddfwriaeth newydd yn debygol o ofyn, ‘A yw’n berthnasol i mi ac os felly, sut y gallaf ei hosgoi a sut y gallaf leihau ei chost?’ Mae...

7. 6. Dadl UKIP Cymru: Contractau Dim Oriau ( 1 Maw 2017)

Michelle Brown: Na wnaf. Mae arnom angen deddfau cyflogaeth sy’n syml ac yn hygyrch—deddfau nad oes angen gradd yn y gyfraith i lywio drwyddynt. Mae arnom angen system dribiwnlysoedd sy’n hygyrch, yn syml ac yn rhad. Mae’r Ddeddf Dorïaidd gan y Llywodraeth ddiwethaf i gyflwyno ffioedd tribiwnlys gryn dipyn yn uwch, lle y mae rhywun sydd am wneud hawliad am ddiswyddiad annheg bellach yn gorfod talu...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Lles Anifeiliaid
( 7 Maw 2017)

Michelle Brown: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau gorfodi a gymerwyd o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014? OAQ(5)0487(FM)

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Lles Anifeiliaid
( 7 Maw 2017)

Michelle Brown: Iawn, diolch am yr ateb yna, Brif Weinidog. Mae gwybodaeth a dderbyniwyd gan ymgyrchwyr yn erbyn ffermio cŵn bach yn dweud nad oes gan awdurdodau lleol yr adnoddau i orfodi'r ddeddfwriaeth. Yn ei adroddiad, ‘Animal Welfare in England: Domestic Pets’, argymhellodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y dylai Llywodraeth y DU wahardd gwerthu cŵn ar sail trydydd parti ac y dylai...

2. Cwestiwn Brys: Gwaith Vauxhall yn Ellesmere Port ( 7 Maw 2017)

Michelle Brown: Nodaf o’r cyfryngau fod llawer o ofn ac ansicrwydd yn cael ei greu ynglŷn â’r mater hwn ar hyn o bryd. Nid yw Peugeot wedi dweud ei fod yn bwriadu cau'r gwaith. Yn wir, mae rheolwr Peugeot wedi awgrymu y bydd ei gwmni yn awyddus i gadw’r cynhyrchu ym Mhrydain i fanteisio ar gytundebau masnach y DU yn y dyfodol a allai fod o fudd i allforion. Mae hwnnw'n safbwynt eithaf rhesymegol,...

6. 5. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-16 ( 7 Maw 2017)

Michelle Brown: Mae Llafur Cymru wedi bod yn rheoli addysg ar ryw ffurf neu'i gilydd ers sefydlu'r Cynulliad. Weithiau maen nhw wedi cael cymorth drwy glymblaid â Phlaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol, fel y maen nhw ar hyn o bryd. Mae elfennau ar adroddiad Estyn heddiw yn dangos yn glir i bobl Cymru yr hyn sy'n digwydd pan fyddwch yn rhoi’r rheolaeth dros bolisi addysg i un o'r partïon hyn a...

6. 5. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2015-16 ( 7 Maw 2017)

Michelle Brown: Na wnaf. [Yn parhau]—cynghorau disgyblion, datrys gwrthdaro, gweithgareddau cymunedol a chodi arian i elusennau a phethau o’r fath, ond mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i godi safonau rhesymu, datrys problemau, a rhesymeg drwy bynciau traddodiadol. Yn ail, rwyf eisiau siarad am gadw athrawon, ac effaith hyn ar y meysydd y mae Estyn yn eu monitro. Mae Estyn yn sôn am ddatblygu'r...

7. 6. Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ( 7 Maw 2017)

Michelle Brown: Rwy’n croesawu'r ddadl heddiw yn cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau, a’r cyhoedd yn gyffredinol yn ystyried y gwragedd adnabyddus heddiw a thrwy gydol hanes Cymru. Fodd bynnag, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ganmol y cyfraniadau a wneir gan fenywod cyffredin yng Nghymru—menywod a helpodd i adeiladu’r wlad...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Mynediad at Gefn Gwlad
( 8 Maw 2017)

Michelle Brown: Rwy’n cefnogi, mewn egwyddor, ymestyn mynediad at gefn gwlad i bawb. Fodd bynnag, mae angen dod o hyd i gydbwysedd rhwng hawl pobl i grwydro a mwynhau ein cefn gwlad, ac anghenion tirfeddianwyr a ffermwyr i reoli a defnyddio eu tir yn effeithiol. Pa drafodaethau a gawsoch gyda thirfeddianwyr, a sefydliadau sy’n eu cynrychioli, i’w perswadio i ganiatáu mwy o fynediad at eu tir?

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Mynediad i Gefn Gwlad
( 8 Maw 2017)

Michelle Brown: Rydym wedi cael ein bendithio yng Nghymru â thirwedd syfrdanol a chefn gwlad helaeth ac un ffordd wych o weld cefn gwlad a gwneud ymarfer corff ar yr un pryd yw ar gefn ceffyl. Nid ffordd o wneud ymarfer corff yn unig ydyw; gall fod o fudd mawr i bobl anabl a chafwyd cynlluniau marchogaeth ar gyfer pobl anabl ar draws y wlad. Mae cynnal sefydliad marchogaeth wedi mynd yn fwyfwy anodd ac mae...

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.