David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn siomedig fod Atal Anhrefn Hinsawdd Cymru wedi dweud nad yw Gweinidogion wedi cyflawni ar bolisi newid yn yr hinsawdd eto, a bod WWF Cymru yn rhybuddio ynghylch bwlch uchelgais?
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae cyllidebau carbon yn ganolog i Ddeddf yr amgylchedd, a bellach nid oes disgwyl iddynt ymddangos tan ddiwedd 2018. Ac rwy’n credu ei bod yn rhesymol i ni ofyn, ‘Pam yr oedi?’ A yw hi o ddifrif yn cymryd tair blynedd i gynhyrchu’r cyllidebau carbon cyntaf? Byddwn hanner ffordd drwy’r Cynulliad hwn, ac mae’r cyllidebau hynny i fod i’ch helpu i...
David Melding: Weinidog, i bwysleisio’r gwyro wrth weithredu’r polisi, mae’n rhaid i mi ofyn pam fod yr asesiadau effaith strategol ar gyfer eich adran mor amwys. Maent yn ganolog i Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol, ac nid yw’n ymddangos eu bod wedi chwarae llawer o ran ym mlaenoriaethau a phenderfyniadau eich cyllideb. Onid y gwir yw bod y Llywodraeth hon yn frwd ynglŷn â deddfu, ond yn wael iawn...
David Melding: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y gallai Llywodraeth Cymru gydweithio ag awdurdodau lleol i lunio atebion arloesol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?
David Melding: Brif Weinidog, mae’r ffioedd hyn yn codi dipyn o arswyd. Nid oes llawer o nwyddau a gwasanaethau y codir tâl arnynt am y broses o’u prynu, a cheir cefnogaeth eglur ym mhob rhan o’r tŷ i gamau gael eu cymryd ar hyn. Mae'r ffioedd hyn yn ystumio'r farchnad. Maen nhw’n anghymhelliad i symudedd llafur, a'r profiad eglur yn yr Alban yw y byddai'r ffioedd yn cael eu talu gan y rhai sy'n...
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf innau hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, a hefyd am y cwrteisi o roi’r datganiad, neu olwg ar y datganiad, inni rai oriau ymlaen llaw—mae hynny'n ddefnyddiol iawn? Hoffwn ddechrau â meysydd lle’r wyf yn meddwl y bydd cytundeb o amgylch y Cynulliad cyfan. Rwy'n credu bod y nod o fod yn ddiwastraff a chael economi gylchol yn un pwysig,...
David Melding: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad, a hefyd am y copi ymlaen llaw o’r datganiad y mae hi newydd ei wneud. Mae’n eithaf eang—rwy’n credu, os gallwn i fod yn feirniadol, ei fod braidd yn wanllyd: mae angen ychydig mwy o wmff yn hyn, y maes mwyaf allweddol o bolisi'r Llywodraeth, yn ôl pob tebyg. A gaf i ddechrau gyntaf holl—? Ac mae llawer o feysydd lle'r ydym...
David Melding: Mae’n ddrwg gen i. Mae cyfleoedd cynhyrchu ar raddfa fach ar gael, ac rwy’n meddwl y gall hynny hefyd greu mwy o berchnogaeth gymunedol a hefyd mwy o gyfleoedd buddsoddi. Mewn oes o gyfraddau llog isel, mae cyfleoedd yma i bobl i wneud elw teg ar eu cynilion—a defnydd cyffredinol o dechnolegau newydd fel y llanw. Diolch.
David Melding: A fyddai'r Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
David Melding: Tybio yr wyf, rydym wedi clywed llawer am y cyd-destun yr ydym ynddo ar gyfer y cyllidebau penodol hyn yn awr, ond gadewch i’r Tori drwg hwn nodi nad oedd yr hyn a ddigwyddodd rhwng 2010 a 2015 gyda'r Llywodraeth glymblaid mor wahanol â hynny i gynllun Darling.
David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael ei hintegreiddio i waith Llywodraeth Cymru?
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi annog yr holl gymorth priodol gan Lywodraeth Cymru? Bydd hwn yn brosiect gwych i Flaenau Gwent, i Went yn gyffredinol ac i Gymru gyfan, gan y byddai’r potensial marchnata’n enfawr. Rydych chi wedi dewis camp hynod o boblogaidd ac arloesol, y math o ddelwedd rydym am ei chyflwyno—fod Cymru yn agored i fusnes newydd a chyffrous.
David Melding: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd cynlluniau mân anhwylderau mewn fferyllfeydd yng Nghanol De Cymru? OAQ(5)0078(HWS)
David Melding: Weinidog, cefais fy nghalonogi ynglŷn â Chwm Taf, ond fel y gwyddoch, gellir trin 20 o’r afiechydon mwyaf cyffredin yn dda iawn mewn fferyllfeydd, ac mae hyn yn lleihau’r pwysau ar feddygon teulu. Mae yna gynllun hysbysebu—sydd yn ôl pob tebyg yn cael ei redeg gan y GIG yn Lloegr, ond mae’n parhau i fod yn berthnasol yma yng Nghymru—sy’n annog pobl i chwilio am gyngor yn...
David Melding: Lywydd, 100 mlynedd yn ôl, daeth David Lloyd George yn Brif Weinidog. Llwyddodd y Llywodraeth a ffurfiodd i arwain y cynghreiriaid i fuddugoliaeth a enillwyd drwy waith caled, ehangodd y bleidlais yn aruthrol, a sefydlodd iechyd a thai fel blaenoriaethau llywodraethol. Roedd hi’n ymddangos bod Cymru wedi dod o hyd i ffigur arwrol—yr Arthur chwedlonol. Lloyd George oedd y dyn cyntaf heb...
David Melding: A gaf fi groesawu’r ddadl hon gan UKIP a chymeradwyo’r araith agoriadol gan Gareth Bennett hefyd, a oedd yn dadansoddi’r sefyllfa bresennol yn effeithiol ac yn drylwyr iawn, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn cyflwyno achos argyhoeddiadol iawn? Felly, rydym yn croesawu’r newid polisi hwn yn gyffredinol. Credaf ei bod yn bwysig adlewyrchu’r newid yn y gymdeithas. Erbyn hyn mae gennym...
David Melding: Brif Weinidog, byddwn yn eich gwahodd i gerdded trwy Cogan os ydych chi wir eisiau cael profiad o ansawdd aer gwael—mae'n rhyfeddol o wael yno. Rwy'n cerdded trwy Cogan yn eithaf aml. Mae'n amlwg bod angen i ni leihau nifer y teithiau diangen, neu deithiau nad ydynt yn cael eu rhannu—felly, wyddoch chi, dim ond un o’r rhai yn y car yn gyrru. Ceir llawer o fuddugoliaethau cyflym y...
David Melding: A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod wedi dysgu rhywbeth bod cyfreithiau Hywel Dda yn dyddio o 962, a soniodd Dai hefyd am hyn, ond bu farw Hywel yn 950? Ond mae'n debyg ei fod wedi cymryd peth amser i fynachod Hendy-gwyn ar Daf greu'r llawysgrif. Ond, beth bynnag, mae'n ymddangos bod gwneud cyfraith ac ymdrin â’n cyfraith gyfansoddiadol sylfaenol yn cymryd ychydig o amser, felly efallai y...
David Melding: 8. Beth yw'r goblygiadau i Lywodraeth Cymru yn dilyn yr Uwchgynhadledd Meiri C40, pan ymrwymodd Paris, Athen, Madrid a Dinas Mecsico i statws rhydd rhag diesel erbyn 2025? OAQ(5)0076(ERA)
David Melding: Mae’n eithaf clir mai’r neges yma yw bod ardaloedd trefol angen aer glân o’r ansawdd gorau posibl er mwyn bod yn wirioneddol ddeniadol i’r boblogaeth leol, ond hefyd o ran denu mewnfuddsoddiad a’u hiechyd economaidd. Mae yna ffyrdd y gallwn reoli hynny yn awr, hyd yn oed cyn ein bod yn gwahardd ceir diesel yn ffurfiol. Mae’n bwysig iawn ein bod, yng Nghymru, yn gweld yr...