Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar ac mae'n bleser mawr gennyf wneud hynny, gan fod Cymru'n genedl o bobl sy'n dwli ar anifeiliaid. Oherwydd y pandemig, mae llawer ohonom wedi treulio mwy o amser nag arfer gartref. I mi, roedd gennyf ffrind gorau dyn yn fy swigen dros y cyfyngiadau symud—fy naeargi Jack Russell, Cadi, sy'n ffyddlon, er yn gyfarthlyd....
Samuel Kurtz: 7. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i annog recriwtio staff gofal iechyd ar draws rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ57290
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol mai'r feddygfa fwyaf ond un yng Nghymru yw Grŵp Meddygol Argyle, sydd wedi'i lleoli yn Noc Penfro yn fy etholaeth, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Yn ôl y data diweddaraf, mae Argyle yn gyfrifol am ofal dros 22,000 o gleifion, sy'n golygu ei bod yn un o bum practis yng Nghymru a chanddynt dros 20,000 o gleifion cofrestredig; serch hynny, naw...
Samuel Kurtz: Prif Weinidog, rwy'n sylwi bod y rheoliadau parthau perygl nitradau, nad oedden nhw wedi eu cynnwys yn y rhaglen lywodraethu wreiddiol a gafodd ei gyhoeddi fis Mehefin, wedi eu cynnwys yn y rhaglen lywodraethu ddiweddaraf. Ar bennod dydd Sul Politics Wales y BBC, roeddech chi'n dweud na fyddai'r rheoliadau parth perygl nitradau yn cael eu diddymu o gwbl—ac rwy'n dyfynnu—'ni fu erioed...
Samuel Kurtz: 1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd dŵr mewndirol yng Nghymru? OQ57333
Samuel Kurtz: Diolch yn fawr, Weinidog, a phrynhawn da. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r gwelliannau diweddar a fabwysiadwyd ym Mil Amgylchedd y DU i wella ansawdd dŵr mewndirol yn Lloegr, yn enwedig y ddyletswydd gyfreithiol a osodir ar gwmnïau dŵr i leihau'n gynyddol effaith gollyngiadau a ganiateir ac nas caniateir o orlifoedd carthffosiaeth cyfunol, a elwir hefyd yn CSOs. Pe bawn i...
Samuel Kurtz: Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd, roeddwn o dan yr argraff nad oeddwn yn y ddadl hon; rwy'n ymddiheuro.
Samuel Kurtz: Na, mae'n ddrwg gennyf, fy nealltwriaeth i oedd ei fod wedi'i dynnu'n ôl.
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd, ac yn gyntaf, a gaf fi ddechrau drwy ddymuno Nadolig llawen iawn i'r Gweinidog a thrwy ddiolch iddi am y ddeialog onest ac agored a gafodd hi a minnau ynglŷn â'r portffolio hwn? Weinidog, rwyf wedi crybwyll arian cynllun datblygu gwledig nas gwariwyd neu a gamwariwyd yn y Siambr ar sawl achlysur eisoes, a hoffwn ganolbwyntio ar y cynllun 'coeden am ddim i bob cartref' y...
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog—diolch am yr eglurhad hwnnw. Rwy'n siŵr eich bod wedi eich dychryn lawn cymaint â minnau, Weinidog, pan dynnodd BBC Wales sylw mewn rhaglen ddogfen yn gynharach yr wythnos hon at docio clustiau cŵn tarw bach i gynyddu gwerth y cŵn i fridwyr a'u gwneud yn ddeniadol i berchnogion newydd. Clywodd y rhaglen ddogfen sut y gall cŵn bach sydd â'u clustiau wedi'u tocio werthu...
Samuel Kurtz: Diolch. Ac yn olaf, Weinidog, roeddwn yn falch o arwain dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar les anifeiliaid y mis diwethaf, a welodd y Llywodraeth yn cael ei threchu a'r cynnig yn cael ei basio heb ei ddiwygio yn y Senedd. Roedd hi'n braf gweld yr agwedd gytbwys a meddwl agored a oedd gan bawb yn ystod y ddadl, ac rwy'n gobeithio y gall hyn barhau. Rwy'n ymwybodol o lythyr a gawsoch gan Grŵp Lles...
Samuel Kurtz: Ychydig iawn y gallaf fi fel Aelod neu unigolyn ei ychwanegu at y ddadl hon, felly os caf, Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle i rannu stori fy etholwr, Robert Leyland. Roedd Robert, neu Bob i'w deulu a'i ffrindiau, yn un o lawer a fu farw yn ystod y pandemig, nid oherwydd COVID, ond oherwydd llu o fethiannau yn ymwneud â llywodraethiant ein gwasanaeth iechyd. Ysgrifennodd Jacqueline, gwraig Bob...
Samuel Kurtz: Diolch, Llywydd. Fe wnaf i ddechrau gan ddweud diolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl yma ymlaen y prynhawn yma.
Samuel Kurtz: Hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad i dynnu sylw'r Aelodau at yr anghydraddoldebau iechyd parhaus yn y Gymru wledig, drwy dynnu sylw at enghreifftiau yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, yn enwedig yr anghydraddoldebau sydd wedi codi o ganlyniad i bandemig COVID-19 ac ad-drefnu gwasanaethau iechyd hanfodol. Yr wythnos diwethaf cyhoeddwyd bod Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol...
Samuel Kurtz: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog am weld y datganiad hwn yn gynnar, ac rwy’n falch o weld a chroesawu'r gwerth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar ein diwydiant bwyd a diod gwych yng Nghymru. Rwy’n deall fod gan y sector yng Nghymru ffrwd refeniw o tua £7.5 biliwn y flwyddyn, ond dim ond 10 y cant o'r refeniw hwn a gafwyd o allforion i wledydd y tu allan i'r Deyrnas Unedig. Fe...
Samuel Kurtz: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ57470
Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Cyfarfûm yn ddiweddar â chynrychiolwyr Dezza's Cabin, elusen a sefydlwyd yn dilyn hunanladdiad trasig Derek Brundrett, disgybl yn Ysgol Harri Tudur, ysgol gyfun Penfro gynt, yn ôl yn 2013. Nod yr elusen yw darparu cymorth i leihau risg o hunanladdiad a hunan-niweidio ymhlith pobl ifanc, yn ogystal â chyfeirio at wasanaethau cymorth iechyd meddwl. A wnewch chi...
Samuel Kurtz: Ddirprwy Weinidog, hoffwn groesawu’r ymrwymiad i ddarlledu Cymraeg sydd wedi’i wireddu gyda’r cyllid ychwanegol sylweddol ar gyfer S4C. Ein plaid ni a sefydlodd y sianel dros 40 mlynedd yn ôl, a byddwn bob amser yn diogelu ei rôl ym mywyd Cymru, ni waeth sut y caiff y BBC ei ariannu a honiadau gwamal gan y gwrthbleidiau. Ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Tom Giffard a minnau at yr...
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad. Roeddwn yn ddigon ffodus i ymweld ag Auschwitz-Birkenau yn fy arddegau drwy fy ysgol. Mae'r llonyddwch a'r distawrwydd a oedd yn amgylchynu'r gwersyll crynhoi, y diffyg lliw neu lawenydd a phwysau'r erchyllterau a ganiatawyd i ddigwydd yn atgofion a fydd yn byw gyda mi am byth. Ysgrifennodd Elie Wiesel, Iddew a oroesodd Auschwitz ac a aeth...
Samuel Kurtz: —a chymhorthion addysgu a deunydd adnoddau. Mae'r prosiect Gwersi o Auschwitz y soniodd y Gweinidog amdano yn ei datganiad yn caniatáu i ddau fyfyriwr ôl-16 o bob ysgol a choleg yn y wlad ymweld ag Auschwitz-Birkenau. Wrth goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost a rhyddhau Auschwitz-Birkenau ar 27 Ionawr 1945, rydym yn dyst i'r rhai a ddioddefodd hil-laddiad ac yn anrhydeddu'r goroeswyr a phawb...