Sarah Murphy: Mae'n ddrwg gen i. Felly, ardderchog o beth fyddai cael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â hynny, os yn bosibl. Hefyd, fe hoffwn i ofyn, Gweinidog: a ydych chi'n cytuno bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gwerth etholaeth Pen-y-Bont ar Ogwr a chymunedau eraill fel mannau i fuddsoddi ynddyn nhw a meithrin ein heconomïau lleol ni?
Sarah Murphy: 1. Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod digon o leoedd ysgolion ar gael i ddisgyblion ar draws Pen-y-bont ar Ogwr? OQ58521
Sarah Murphy: Diolch, Weinidog, ac rwy’n gwerthfawrogi eich ymateb i’r cwestiwn hwn. Gwn ar ôl clywed gan lawer o rieni yn fy etholaeth, a ledled Cymru wrth gwrs, eu bod eisiau gallu danfon eu plant i ysgolion da, yn agos at eu cartrefi. Ond mae hon wedi bod yn broblem i rieni a disgyblion yn fy nghymuned, felly mae’n wych clywed am y buddsoddiad o £1.8 miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol...
Sarah Murphy: Fel aelod newydd o'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, rwyf am ddechrau drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau a'r clercod a phawb a gyfrannodd at yr adroddiad hwn, ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 25 argymhelliad naill ai'n llawn neu mewn egwyddor. Fel Aelod gydag ysbyty yn fy etholaeth, Ysbyty Tywysoges Cymru, mae rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn parhau i fod yn un...
Sarah Murphy: Hoffwn ddefnyddio'r cyfle hwn i ddiolch i Gomisiynydd Plant Cymru am yr adroddiad hwn, a chroesawu'r comisiynydd newydd, Rocio Cifuentes, i'w rôl. Rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith mae Rocio'n ei gyflawni drwy ymgysylltu â phobl ifanc, gan wneud Cymru'r lle gorau i dyfu i fyny fel person ifanc. Mae'n wych gweld sut mae Comisiynydd Plant Cymru wedi ymgysylltu â grwpiau dan arweiniad...
Sarah Murphy: Rwy'n gofyn heddiw am ddatganiad busnes ar oed cyfrifoldeb troseddol, sydd yn ddim ond 10 oed yng Nghymru a Lloegr ar hyn o bryd. Yn 2021, newidiodd yr Alban eu polisi i gynyddu oedran cyfrifoldeb troseddol i 12 oed, gan gydnabod bregusrwydd rhai pobl ifanc mewn cymdeithas a'r angen i wella cyfleoedd adsefydlu. Er y feirniadaeth gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, mae...
Sarah Murphy: Diolch. Gweinidog, diolch am ddatganiad heddiw. Mae effeithlonrwydd ynni cartrefi yn parhau i fod yn fater allweddol i fy etholwyr i, yn enwedig gan fod rhai datblygiadau ar y gweill gennym ni ar hyn o bryd, fel adfywio Porthcawl. Fe geir ymdeimlad gwirioneddol yn y gymuned y bydden nhw wrth eu boddau yn eu cael nhw mor wyrdd a'r holl bethau yr oeddem ni'n siarad amdanyn nhw heddiw, mewn...
Sarah Murphy: 10. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau cyfreithiol i Gymru o Fil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Llywodraeth y DU? OQ58655
Sarah Murphy: Diolch, Gwnsler Cyffredinol; diolch am eich ymateb ar hynny ac am y sicrwydd hwnnw. Fel y gwyddom nawr, mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn oedi eu Bil diwygio data, ond maent yn parhau i fynegi eu cynlluniau i gael gwared ar y rheoliad cyffredinol ar ddiogelu data (GDPR). O dan GDPR, mae gofyniad cyfreithiol am gydsyniad i gasglu a rhannu data; ceir rhwymedigaeth hefyd ar gwmnïau i...
Sarah Murphy: Rwyf am ddechrau, unwaith eto, fel pawb arall, drwy ddiolch i fy nghyd-Aelodau a'r clercod am eu gwaith ar yr adroddiad hwn. Fel y dywedodd ein Cadeirydd, Paul Davies, dyma un o'r pethau cyntaf i ni ddweud ein bod eisiau ymchwilio iddo, ac mae'n ymddangos yn amser hir iawn yn ôl bellach. Fel y gwnaethoch nodi yn eich rhagair, roeddem yn edrych ar y sefyllfa pan oedd pobl yn cael gwyliau yn y...
Sarah Murphy: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd profion calprotectin ysgarthion mewn lleoliadau gofal sylfaenol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg? OQ58689
Sarah Murphy: Diolch, Weinidog. Fe wnaethoch chi a minnau ymuno â lansiad ymgyrch newydd 'Cut the Crap' Crohn's and Colitis UK yr wythnos diwethaf, a chawsom glywed tystiolaeth gan y rhai sy'n byw gyda Crohn's, ac roeddent yn gadarn o'r farn fod diagnosis cynnar yn bwysig. Yr wythnos diwethaf hefyd, fe wneuthum estyn allan at fy nhrigolion a fy etholwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a gofyn iddynt rannu eu...
Sarah Murphy: Unwaith eto, rwyf am ddechrau drwy adleisio'r hyn y mae Paul a Luke wedi ei ddweud. Diolch i fy nghyd-Aelodau, tîm y Senedd, y Cadeirydd, a phawb a fu'n ymwneud â'n Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig i roi'r adroddiad amserol a phwysig hwn at ei gilydd. Mae'r argyfwng hwn yn parhau i effeithio ar lawer yn ein cymunedau. I rai, gallai fod yn fater o fod yn fwy gofalus gyda...
Sarah Murphy: Gyda'r amser byr iawn sy'n weddill, Gweinidog, roedd arna i eisiau dweud diolch am gyflwyno hyn heddiw. Fe fyddwn i'n dweud, ar y cyfan, y bu'r ymateb rwyf wedi ei glywed, beth bynnag, i'r glasbrint cyfiawnder menywod yn gadarnhaol, yn ogystal â phrosiect Ymweld â Mam. Ond dim ond eisiau adeiladu oeddwn i, a dweud y gwir, ar beth mae fy nghyd-Aelod Sioned Williams wedi'i ddweud. Pan...
Sarah Murphy: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i leihau'r defnydd dyddiol o ddŵr mewn cartrefi? OQ58731
Sarah Murphy: Diolch, Weinidog. Mae gwyddoniaeth hinsawdd yn dweud wrthym y byddwn yn cael hafau hirach, poethach a sychach gyda'r tebygolrwydd o brinder dŵr mwy difrifol. Byddai lleihau’r defnydd dyddiol o ddŵr nid yn unig yn lliniaru rhywfaint o’r heriau rydym wedi’u hwynebu ac y byddwn yn parhau i’w hwynebu yn ystod yr haf, ond gall hefyd fynd i’r afael â thlodi dŵr yn ystod yr argyfwng...
Sarah Murphy: Gweinidog, rwyf eisiau diolch i chi am ddod â'r datganiad hwn i'r Siambr heddiw. Cyn cael fy ethol, roeddwn yn gwirfoddoli yn Cymru Gynaliadwy, ym Mhorthcawl, sydd yn elusen ar lawr gwlad sy'n annog pobl i weithio wrth i gymuned arwain ar ddatblygu cynaliadwy. Mae gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol yn greiddiol i'w gwaith o fewn cymunedau o'r fath, ac mae hefyd yn ymwneud â dadlau dros...
Sarah Murphy: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith anghydfod y Post Brenhinol ar ei weithwyr a'i wasanaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Sarah Murphy: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu LHDTC+ i Gymru? OQ58821
Sarah Murphy: Diolch am eich diweddariad, Weinidog. Yn ddiweddar, cyfarfûm ag Ollie Mallin, sy'n cynrychioli Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru. Mae Ollie hefyd yn etholwr i mi ac mae wedi bod yn dadlau dros faterion LHDTC+ i bobl ifanc. Mae Ollie wedi siarad yn onest am homoffobia sy'n wynebu pobl ifanc mewn ysgolion, a'r diwylliant sydd, yn anffodus, yn dal i fod yn bresennol, sy'n...