Mark Reckless: Diolch, Llywydd, am adael i Laura Anne Jones barhau. Roeddwn i'n mwynhau ei chyfraniad. Yn wir, rwyf wedi bod yn mwynhau'r ddadl yn gyffredinol. Diolch, Jenny, am eich cyfraniad chi. Mae fy marn i ar hyn yn un sydd, ar y cyfan—rwy'n credu y bydd yn mynd yn groes i'r rhan fwyaf o bobl yn y fan yma, ond, ar y cyfan, rwyf wedi penderfynu pleidleisio yn erbyn egwyddorion cyffredinol y Bil. Ond,...
Mark Reckless: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl awdurdodau lleol o ran ymateb i COVID-19 yng Nghymru? OQ56050
Mark Reckless: Diolch i chi, Weinidog. Mae gennym nifer fawr o awdurdodau lleol cymharol fach yng Nghymru ac mae dau o'r rhai lleiaf yn fy rhanbarth i—Merthyr Tudful a Blaenau Gwent—ac ynddynt y ceir rhai o'r lefelau uchaf o achosion COVID ar hyn o bryd. Ac rwy'n meddwl tybed a yw'r Gweinidog yn siŵr y byddant yn gallu ymdopi â maint yr her honno, o ystyried pa mor fach yw'r awdurdodau, ac a oes...
Mark Reckless: Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrthym pa mor ofnadwy oedd y cytundeb hwn, yn union fel y dywedodd wrthym pa mor ofnadwy oedd y tair fersiwn o gytundeb Theresa May, ac yn union fel y dywed wrthym pa mor ofnadwy y byddai gadael heb gytundeb. O’i ran ef, yr unig gytundeb y gallai ei gefnogi yw aelodaeth barhaus o'r UE, ac yn hytrach na chefnogi'r penderfyniad democrataidd a wnaed gan Gymru a'r...
Mark Reckless: Weinidog, yn ne-ddwyrain Cymru rydym ar gyfartaledd wedi dioddef lefel uwch o’r coronafeirws na'r cyfartaledd ledled Cymru, a tybed i ba raddau rydych yn ystyried bod costau ychwanegol mynd i'r afael â hynny ar lefel ranbarthol, lle mae nifer yr achosion wedi bod yn uwch, yn cael eu cynnwys yn y dyraniadau yn y gyllideb.
Mark Reckless: A gaf fi wneud yn siŵr eich bod yn fy nghlywed?
Mark Reckless: Diolch. Mae materion cyfansoddiadol yn peidio â bod yn esoterig pan fyddant yn penderfynu ai eich mam neu eich tad-cu sy'n cael brechiad a fydd yn achub eu bywydau. Efallai nad yw Gweinidogion Cymru am sbrintio na chystadlu, ond mae'n anochel fod cyflymder brechu a'r ffaith ein bod yn llusgo ar ôl gweddill y DU yng Nghymru yn adlewyrchiad ar ddatganoli. Efallai mai dim ond y llynedd y daeth...
Mark Reckless: Fodd bynnag, newidiodd ystyr cyfeiriadau deddfwriaethol at 'yr Ysgrifennydd Gwladol' ar gyfer llawer o swyddogaethau yng Nghymru ymhell cyn datganoli yn 1999, gyda chreu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn 1964 a sefydlu'r Swyddfa Gymreig yn 1965. Efallai ei bod yn anodd dychmygu Cledwyn Hughes, heb sôn am George Thomas, yn rhoi datganiad unochrog o annibyniaeth ar sut i reoli pandemig yng...
Mark Reckless: Pan bleidleisiodd Cymru yn erbyn datganoli yn 1979, gofynnwyd iddi bleidleisio eto yn 1997, ond ar ôl pleidleisio drosto bryd hynny o drwch blewyn, ni chaniatawyd unrhyw gyfle i ailystyried. Digon teg, fe'ch clywaf yn dweud, os na ddylai refferendwm o'i fath fod yn fwy na digwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth. Efallai nad yw 24 mlynedd yn genhedlaeth eto, gyda'r oedran cyfartalog rydym yn cael...
Mark Reckless: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru? OQ56160
Mark Reckless: Mae'n ddogfen ddiddorol iawn, ond, Prif Weinidog, rydym ni'n gweld ar hyn o bryd effaith datganoli brechiadau. Sut byddai pethau pe byddech chi, fel yr ydych chi eisiau, hefyd yn cael eich dwylo ar gyfiawnder neu'n gallu benthyg arian heb unrhyw ataliad? Pan fydd datganoli yn broses nad yw ond byth yn symud i un cyfeiriad—tuag at annibyniaeth—sut gall pobl ddod yn gyfforddus gydag ef? Os...
Mark Reckless: Gweinidog, rydych chi'n cwyno nad yw Llywodraeth y DU yn barod i ariannu unrhyw beth a bod £2 biliwn am ffordd liniaru'r M4 yn rhy ddrud, ond fe gafwyd nifer o awgrymiadau o gwmpas Llywodraeth y DU y gellid defnyddio'r gronfa ffyniant a rennir, yn wir y Bil marchnad fewnol, ar gyfer hyn. Os oes cyfle i gael i fyny at £2 biliwn gan Lywodraeth y DU i ymdrin â'r tagfeydd ac ysgogi ein...
Mark Reckless: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cyflymder cyflwyno’r brechlyn yng Nghymru? OQ56138
Mark Reckless: Weinidog, a gaf fi a fy mhlaid ategu’ch sylwadau am ddiogelwch ac effeithiolrwydd y brechlyn? Byddwn i—a phob un ohonom, rwy'n credu—yn annog pobl i gael y brechlyn cyn gynted ag y caiff ei gynnig iddynt. A gaf fi ofyn i chi: ar ôl i’r Prif Weinidog ddweud ei fod wedi egluro ei sylwadau, a allech chi egluro—a yw wedi tynnu’n ôl ei ddatganiad y dylem wneud i'r brechlyn Pfizer...
Mark Reckless: Ond a yw wedi’i dynnu'n ôl? Nid ydych wedi ateb.
Mark Reckless: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau 3 a 4 yn ffurfiol. A gaf fi longyfarch grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio ar sicrhau'r ddadl hon? Hoffwn ddiolch iddynt hefyd am ei ohirio am wythnos o'r wythnos diwethaf, a roddodd gyfle imi gael fy nadl fer ar ddatblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru ar amser brig, ac rwy'n ddiolchgar am hynny? Hoffwn ddweud hefyd ein bod yn...
Mark Reckless: Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwerthfawrogi'r gwaith eithriadol y mae staff Aneurin Bevan ac mewn mannau eraill yn ei wneud gyda'r brechiad. Prif Weinidog, rwyf i wedi cael nifer o etholwyr sydd wedi dod ataf i yn dweud nad yw perthnasau sydd dros 80 oed, neu'n wir, mewn rhai achosion, mewn cartrefi gofal, wedi cael eu brechiad hyd yn hyn yn ardal Aneurin Bevan, ac eto mae ganddyn nhw deulu...
Mark Reckless: Gweinidog, fe hoffwn i ddiolch i chi am y diweddariad heddiw ac a gaf i ddiolch am bopeth arall yr ydych chi'n ei wneud hefyd? Er y byddai'n well gan fy mhlaid i weld Llywodraeth y DU yn arwain y rhaglen hon yn hytrach na Llywodraeth Cymru, nid yw hynny'n golygu nad ydym yn gwerthfawrogi maint y gwaith sy'n cael ei wneud. Mae'n ymddangos eich bod chi'n gweithio am oriau aruthrol dan bwysau...
Mark Reckless: Wrth gwrs; y tamaid bach olaf—roi ail ddos i'r rhai sydd eisoes wedi cael y ddos gyntaf yn hytrach na symud i lawr y proffiliau risg wrth ddarparu brechiadau gyda'r brechlyn Pfizer hwnnw?
Mark Reckless: Rwy'n gobeithio mai un fantais o anfon y llythyrau hynny yw y bydd eu cael yn arwain at lai o bobl yn ffonio i gwyno nad ydynt wedi'i gael ac yn poeni ac yn mynd ag amser y gellid ei ddefnyddio ar gyfer y rhaglen, ac rwy'n gobeithio y bydd pawb yn cael eu brechiadau pan gânt eu cynnig. Rydym yn cefnogi'r cynnig sydd ger ein bron heddiw. Bwriadwn ymatal ar welliant y Llywodraeth, ond byddwn...