Suzy Davies: A gaf i ddweud 'diolch' wrth bawb a fu'n rhan o'r gwaith o baratoi'r Bil hwn a'i basio drwy'r lle hwn? Ac a gaf i groesawu yn arbennig, unwaith eto, barch y Cwnsler Cyffredinol tuag at y broses seneddol a'i barodrwydd i ymwneud yn uniongyrchol ag Aelodau'r Cynulliad, nid yn unig yn y pwyllgor ond y tu allan hefyd, a chaniatáu inni gael rhywfaint o ddylanwad gweladwy dros y broses honno? Wrth...
Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu prosiectau ynni yng Ngorllewin De Cymru?
Suzy Davies: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ynni adnewyddadwy yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54272
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Efallai eich bod wedi clywed ddoe yn ystod y datganiad busnes fod y Trefnydd wedi dweud wrthyf fod y £200 miliwn a glustnodwyd yn wreiddiol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi morlyn llanw yn Abertawe ar gael o hyd mewn cronfeydd wrth gefn, ond wrth gwrs, byddai'n dibynnu ar fanylion unrhyw brosiect a gâi ei gyflwyno cyn y gellid gwneud unrhyw...
Suzy Davies: Weinidog, mae trigolion sy'n byw ar Fynydd Cilfái yn Abertawe neu gerllaw wedi sôn am fyw mewn ofn cyson o danau coedwig ar y bryn. Mae rhai o berchnogion y tyddynnod yno wedi dechrau gosod eu briciau tân eu hunain, tra bo Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y dywedoch chi, wedi rhoi camau ar waith, ac yn yr achos hwn, wedi torri coed i leihau'r risg i eiddo pobl. Pan oeddwn yn tyfu i fyny yn...
Suzy Davies: Gaf i ddiolch i chi, Siân, hefyd, ac i aelodau'r tîm ieithoedd swyddogol, am yr adroddiad hwn? Unwaith eto, mae'n adlewyrchu sefydliad lle mae mwy o bobl yn teimlo'n gyfforddus yn gweithio ac yn cael eu cynnwys mewn amgylchedd dwyieithog. Ond dyma'r tro cyntaf i mi deimlo ei fod wedi cydio ar safbwynt ein dysgwyr. Ydy, mae'r cynllun bob amser wedi bod yn glir ynglŷn â’r addysgu wedi’i...
Suzy Davies: Diolch i chi, bawb, am ddod â'r adroddiad hwn i lawr y Siambr. Cymerais ran yn y sesiwn graffu ar y cyd a lywiodd ran o'r broses o greu'r adroddiad hwn. Nid oes ots gennyf ddweud fy mod, yn y naw mlynedd y bûm yn Aelod Cynulliad, wedi gweld y broses o graffu ar y gyllideb yn un o'r elfennau lleiaf boddhaol o fy ngwaith fel Aelod Cynulliad. Rwy'n teimlo bod ceisio cysylltu penderfyniadau...
Suzy Davies: Diolch am yr ateb yna. Edrychaf ymlaen at weld yr adroddiad hwnnw, Prif Weinidog. Mae diogelwch yr aer yr ydym ni'n ei anadlu, wrth gwrs, yn parhau i fod yn broblem yn enwedig o amgylch rhan orllewinol yr M4 sy'n rhedeg drwy fy rhanbarth i. Byddwch yn cofio nad yw'r parth 50 mya dros dro estynedig i'r gorllewin o Bort Talbot yn un dros dro mwyach. Fodd bynnag, credaf fy mod i'n cofio bod...
Suzy Davies: Soniodd Lynne Neagle yn gynharach am adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a oedd yn beirniadu'r ddwy Lywodraeth yn hallt mewn perthynas â chyllid ysgolion. Mae Llywodraeth y DU wedi ymateb ac wedi cynyddu bloc Cymru o ganlyniad i ddarparu cynnydd o £14 biliwn i'w chyllideb ysgolion ei hun ar gyfer y DU. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru roi camau ar waith ar hyn, ac mae arnaf...
Suzy Davies: Hoffwn gydnabod gwaith ein dwy Lywodraeth mewn dod ag Ineos i gyrion fy rhanbarth i, ond er budd y rhanbarth cyfan a thu hwnt. Mae'r datblygiad economaidd y cyfeiriodd Huw Irranca-Davies ato, wrth gwrs, angen gweithlu sydd wedi ei baratoi'n dda sydd wedi cael y gorau o'u profiad yn yr ysgol a'r coleg. Tybed ai un o'r risgiau mwyaf i'r datblygiad economaidd parhaus hwnnw yr oedd yn sôn...
Suzy Davies: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y bargeinion dinesig yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54398
Suzy Davies: Er fy mod i'n hapus iawn gyda'r ateb diwethaf yna, cwestiwn am y ddwy fargen oedd hwn mewn gwirionedd, gan fod pethau yn edrych yn dawel iawn ar gyfer ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn fy rhanbarth i o safbwynt ochr Caerdydd. Roedd croeso mawr, wrth gwrs, i'r cyhoeddiad o'r Egin ac ardal ddigidol glannau Abertawe. Rwy'n deall gan y bwrdd y bydd yr arian yn cael ei ryddhau. Mae'r amser hwnnw'n agos...
Suzy Davies: Diolch. Andrew R.T. Davies.
Suzy Davies: Ac, yn olaf, Vikki Howells.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw eitem 6, datganiad gan y Ddirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—cyflwyno'r cynnig gofal plant i Gymru. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Suzy Davies: Weinidog, wrth edrych ar Ystadegau Cymru, mae'n rhaid cyfaddef fy mod yn synnu braidd o weld, yn ogystal â'r rhai sy'n gymwys i ddysgu Cymraeg fel iaith gyntaf, fod 40 y cant o'n gweithlu addysgu yn gymwysedig i ddysgu Cymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Wrth gwrs, mae'n anos gwybod a ydynt yn defnyddio'r sgiliau hynny ai peidio. Mae nifer y newydd-ddyfodiaid sy'n dewis...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Weinidog, yr wythnos diwethaf, gwnaeth y Gweinidog Cyllid ddatganiad yn nodi ei barn am oblygiadau cylch gwariant 2019 Llywodraeth y DU i Gymru, ac yn hwnnw cadarnhaodd farn y Llywodraeth y dylid seilio penderfyniadau gwariant y gyllideb ar wyth maes blaenoriaeth. Pam nad yw addysg oedran ysgol yn un o'r meysydd blaenoriaeth hynny?
Suzy Davies: O gofio'r newidiadau enfawr a fydd yn digwydd mewn ysgolion, yn enwedig gyda'r newid yn y cwricwlwm a'r paratoadau ar gyfer hynny, ond hefyd y cwynion hirsefydlog a difrifol iawn a wneir gan ysgolion yn awr am eu cyllid uniongyrchol, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi fy siomi nad wyf wedi gweld hynny'n fwy penodol yn themâu trawsbynciol y Llywodraeth, oherwydd, wrth gwrs, os na chewch...
Suzy Davies: Rwy'n ddiolchgar am yr ymateb hwnnw, Weinidog, oherwydd er ein bod yn cydnabod mai'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r cyllid uniongyrchol, pryder y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fel y gwyddom, yw nad yw'r cyllid hwnnw wedi'i ddiogelu mewn unrhyw ffordd. Pan fyddwch yn cynhyrchu canlyniadau eich adolygiad, ac yn ymateb i'r ddadl mewn gwirionedd, bydd yn ddiddorol iawn...