Canlyniadau 1021–1035 o 1035 ar gyfer speaker:Mark Reckless

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: COVID-19: Flwyddyn yn Ddiweddarach (23 Maw 2021)

Mark Reckless: Diolch, Llywydd, rwy'n gwerthfawrogi hynna. Ar ôl fy sylwadau cadarnhaol i yn fy nghyfraniad cychwynnol i'r Prif Weinidog, roeddwn i am ofyn iddo a oedd yn edifarhau am y penderfyniad ar ddiwedd y cyfnod atal byr i ganolbwyntio ar orfodi ffin â Lloegr, wrth adfer y rhyddid llwyr i symud, fwy neu lai, o fewn Cymru, o'i gymharu â'r cyfyngiadau teithio llym a oedd gennym ni cyn hynny. Fe...

7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2021 (23 Maw 2021)

Mark Reckless: Fe wnes i rai sylwadau cyffredinol yn gynharach, ond o ran manylion y rheoliadau, rwy'n croesawu yn gyffredinol bod pethau yn symud i gyfeiriad rhyddfrydoli. Rwyf i yn cael trafferth deall pam, gan geisio cysylltu cyflymder agor i'r cyflymder y mae'r data'n gwella. Mae'n fy nharo bod data wedi bod yn gwella y tu hwnt i'n disgwyliadau gorau yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond nid yw'n...

12. Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) (Diwygio) 2021 (23 Maw 2021)

Mark Reckless: Rwy'n siarad i wrthwynebu'r Gorchymyn hwn. Mae eisoes gennym ni 19 o ddarparwyr ystadegau swyddogol yn benodol ar gyfer Cymru, fel y disgrifiodd y Gweinidog, ac rydym ni nawr yn gweld Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael ei ychwanegu atyn nhw. Fel y mae'r Gweinidog yn ei ddweud yn gywir, mae rhai o'i dasgau'n dod o Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac ymddiriedolaeth GIG Felindre, ond hyd y gwn i,...

15. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2021 (23 Maw 2021)

Mark Reckless: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Rydym ni'n gresynu na all y cyfraddau is hyn o Dreth Trafodiadau Tir gael eu hymestyn tan 30 Medi, oherwydd, pe baen nhw'n gwneud hynny, byddem ni'n cael cyfnod o dri mis lle'r oedd gennym ni drothwy hyd at £250,000 a oedd, unwaith eto, yr un fath yng Nghymru a Lloegr, y byddem ni, wrth gwrs, yn dymuno'i gael. Fodd bynnag, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog...

7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Biliau Cydgrynhoi (24 Maw 2021)

Mark Reckless: Rwy'n falch ein bod yn trafod yr eitemau niferus hyn ar y Rheolau Sefydlog ar wahân. Ni ofynnais am hynny drwy ddynodi gwrthwynebiad i'w grwpio er mwyn ymestyn y pumed Cynulliad yn ddiangen—rydym am weld y Cynulliad yn cael ei ddiddymu, nid ei barhau'n artiffisial ac yn ddiangen. Felly, rwy'n credu, serch hynny, fod llawer o'r Rheolau Sefydlog hyn yn rhai o sylwedd, a cheir ystod o...

8. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Gadael yr Undeb Ewropeaidd (24 Maw 2021)

Mark Reckless: Rwy'n credu efallai mai dyma fy hoff eitem o'r rhai rydym yn eu trafod heddiw, am ei bod yn diwygio ein Rheolau Sefydlog i adlewyrchu ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Adroddiad cymharol fyr a aeth i'r Pwyllgor Busnes. Mae'n dweud, 'Pe bai'r pwyllgor'—sef y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol— 'Pe bai’r pwyllgor o’r farn nad oedd deddfwriaeth yn cydymffurfio â’r...

9. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Busnes Cynnar yn dilyn Etholiad y Senedd (24 Maw 2021)

Mark Reckless: Dywedwyd wrthym ym mhapur y Pwyllgor Busnes ar dynnu enwebiad yn ôl, nad yw enwebiad y Prif Weinidog na gweithdrefnau ethol Llywydd yn gwneud darpariaeth benodol ar gyfer tynnu enwebiad yn ôl, ac mae'r ddwy Reol Sefydlog yn defnyddio iaith orfodol i'w gwneud yn ofynnol cael cylchoedd pleidleisio pellach os nad oes unrhyw ymgeisydd yn llwyddiannus mewn cylch pleidleisio penodol. Felly, wrth...

10. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Sub Judice (24 Maw 2021)

Mark Reckless: Credaf y gallai'r rhain hefyd fod yn welliannau eithaf pwysig ac nid wyf yn hollol siŵr pam eu bod yn cael eu gwneud. Credaf fod rhai ohonynt yn synhwyrol, fel y cyfeiriadau at y comisiynwyr a'r ombwdsmon. Mae dileu'r rheini a chael darpariaeth gyffredinol yn hytrach na cheisio diweddaru ar gyfer pob comisiynydd neu ombwdsmon penodol yn ymddangos yn synhwyrol. Ond ar hyn o bryd, mae gennym...

11. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Adalw'r Senedd (24 Maw 2021)

Mark Reckless: Credaf fod y gwelliannau hyn yn synhwyrol ar y cyfan. Ar hyn o bryd, dim ond ar gais y Prif Weinidog y cawn adalw'r Senedd, yn amodol ar benderfyniad y Llywydd. Ei phenderfyniad hi ydyw, ond fel y mae'n darllen ar hyn o bryd, credaf mai dim ond ar gais y Prif Weinidog y gellir ei wneud. Nid yw'n ymddangos i mi ei bod hi'n iawn atal y ddeddfwrfa rhag cael ei hadalw oni bai bod pennaeth y...

12. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Aelodaeth Pwyllgorau (24 Maw 2021)

Mark Reckless: Unwaith eto, credaf, ar y cyfan, fod hwn yn newid rwy'n ei gefnogi i'r Rheolau Sefydlog. Rwy'n credu ei bod yn destun gofid ein bod wedi colli sylfaen deddfwriaeth y DU a oedd yn darparu, os na allem ddod i gytundeb o ddwy ran o dair ynghylch cyfansoddiad ein pwyllgorau, y dylid cymhwyso D'Hondt. Credaf fod hynny'n rhoi ôl-stop sylfaenol a diogelwch i'r broses, sydd i raddau'n cael ei golli....

13. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol (24 Maw 2021)

Mark Reckless: Mae'n dda gweld o leiaf un Aelod arall yn cymryd rhan yn y broses i'r graddau eu bod yn gwrthwynebu, er ei bod yn ymddangos fy mod ar fy mhen fy hun yn siarad am y dadleuon hyn. Roedd yr adran hon ar newidiadau amrywiol yn arbennig o ddiddorol yn fy marn i. Mae yma amrywiaeth o newidiadau gwahanol i'r Rheolau Sefydlog, mewn meysydd go wahanol mewn gwirionedd, ond mae arnaf ofn na allaf fynnu...

14. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog dros-dro (24 Maw 2021)

Mark Reckless: Felly, mae gennym ystod o Reolau Sefydlog dros dro y mae hyn yn berthnasol iddi. Credaf ei bod yn briodol y tro hwn, mae'n debyg, eu bod yn cael eu cymryd gyda'i gilydd, ac yn gyntaf, yr estyniad ar bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer absenoldeb rhiant; credaf fod hynny wedi'i gyflwyno fel darpariaeth dros dro. Yn fy marn i, dylem ganiatáu pleidleisio drwy ddirprwy—ac rwy'n siarad mewn...

15. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol (24 Maw 2021)

Mark Reckless: Mae'n dda cael rhai cyd-Aelodau i ddadlau gyda hwy ar hyn. Diolch i Mark Isherwood a Caroline Jones am eu cyfraniadau; mae'n debyg y dylwn ddiolch hefyd i Rebecca a oedd yn garedig wrthyf yn ei sylwadau. Hoffwn ymddiheuro hefyd i'r Ceidwadwyr Cymreig oherwydd pan glywais gyntaf am y cynnig eithriadol hwn gan y Pwyllgor Busnes, cefais fy nghamarwain fod rheolwr busnes y Ceidwadwyr wedi'i...

15. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Diffiniad o Grwpiau Gwleidyddol (24 Maw 2021)

Mark Reckless: Rydym hefyd wedi colli rhai o'r canllawiau ychwanegol arfaethedig a gynigiwyd yn wreiddiol. Dywedwyd wrthym y gallai hefyd nodi y gall y Llywydd ystyried a oes gan grŵp fandad democrataidd sylweddol ac amlwg i ymffurfio ac a yw'n rhannu athroniaeth wleidyddol a fyddai'n glir i'r etholwyr. Nid wyf yn siŵr sut y mae Llywydd i fod i benderfynu ar y pethau hynny, ac mae'n dda, o leiaf, nad yw'r...

1. Teyrngedau i'w Uchelder Brenhinol Dug Caeredin (12 Ebr 2021)

Mark Reckless: Mae'n anodd amgyffred rhychwant lwyr oes y Tywysog Philip. Darllenais ei fod wedi cymryd rhan mewn 22,000 o ddigwyddiadau, ac yna clywais yn rhywle arall fod y ffigur yn 300 y flwyddyn. Tybiais fod yn rhaid ei fod yn fwy na hynny—sut y gallai fod yn 22,000 fel arall? Roedd yn rhaid i mi ei gyfrifo a'i luosi â 70 mlynedd i ddeall bod hynny'n eithaf agos i'w le mewn gwirionedd. Mae'r hyn a...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.