Lesley Griffiths: Diolch. Cafwyd lefel sylweddol o ymatebion i’r ymgynghoriad diweddar ar bysgodfeydd cregyn bylchog. Mae fy swyddogion wedi dadansoddi’r holl ymatebion ynghyd â’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Ar hyn o bryd rwy’n ystyried cyngor a byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar ôl i mi wneud penderfyniad ynglŷn â’r bysgodfa arfaethedig ym mae Ceredigion.
Lesley Griffiths: Mae degau ar ddegau o bobl, yn llythrennol, wedi gofyn i mi am gyfarfod i drafod hyn ac fel y gwyddoch, nid oedd fy nyddiadur yn caniatáu hynny. Byddwn yn hapus iawn i gyfarfod â chi os ydych am gyflwyno rhai o’r pryderon, oherwydd nid oedd yn bosibl cyfarfod â phawb. Fodd bynnag, rydym wedi ystyried pob un o’r ymatebion. Mae’n fater cymhleth iawn, ac rwy’n awyddus iawn i gael...
Lesley Griffiths: Wel, ni chefais gynnig y dolffin trwynbwl. Rwy’n edrych ar fy nghyd-Aelod, Lee Waters, rhag ofn: y draenog oedd ef. Ond rwy’n credu bod y pwynt rydych yn ei wneud yn un pwysig iawn ac mae’n ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw, ac rwy’n ymwybodol bod anawsterau wedi bod yn ôl yn 2009-10 mewn perthynas â physgota am gregyn bylchog. Rwy’n credu mai’r neges y gallwch ei rhoi yw ein...
Lesley Griffiths: Fel rwy’n dweud, byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig a bydd y manylion hynny yn y datganiad.
Lesley Griffiths: Mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ein galluogi i reoli adnoddau Cymru mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae ein targedau statudol ar newid hinsawdd a chyllidebu carbon yn helpu i ddarparu sicrwydd ac eglurder ar gyfer buddsoddi a busnes. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn rhoi i ni un o’r fframweithiau...
Lesley Griffiths: Ie, rwy’n cytuno’n llwyr â chi. Mae’n bwysig iawn fod ganddynt y pwerau hynny. Byddaf yn sicr yn edrych ar Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr fod ganddynt y pwerau hynny. Rwy’n ymwybodol eich bod wedi ysgrifennu ataf droeon am fusnesau yn eich etholaethau eich hun ac rwy’n gwybod ein bod wedi gohebu. Ond byddaf yn sicr yn hapus iawn i edrych ar hynny gan ei bod yn bwysig iawn,...
Lesley Griffiths: Cefais fy nghyfarfod cyntaf yr wythnos hon mewn perthynas â morlyn llanw bae Abertawe, ond ni edrychais yn fanwl ar y pwynt rydych yn ei grybwyll. Ond rwy’n hapus iawn i ysgrifennu atoch—i wneud hynny ac i ysgrifennu atoch.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae amaethyddiaeth fanwl yn un o nifer o arferion ffermio modern sy’n gwneud cynhyrchu’n fwy effeithlon. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi hyn drwy Cyswllt Ffermio. Mae enghreifftiau’n cynnwys ffermio manwl ar gyfer da byw sy’n cnoi cil, a wneir ar fferm Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, a’r defnydd o wrtaith cyfradd newidiol mewn glaswelltir, ar fferm Troed y Rhiw yn Aberaeron.
Lesley Griffiths: Rwy’n credu bod cryn dipyn o waith yn digwydd yn y cefndir yn ôl pob tebyg, felly byddwn yn bendant yn ystyried gwneud hynny, ond rydych yn llygad eich lle, mae’n defnyddio data lloeren manwl, dyfeisiau synhwyro o bell, technoleg casglu data procsimol, ac mae’n galluogi pobl i wneud penderfyniadau mewn ffordd wahanol. Rwy’n credu eich bod yn gywir; mae angen i ni wneud y gorau o’r...
Lesley Griffiths: Nid wyf wedi gwneud unrhyw waith penodol gyda’r sector addysg bellach. Rwy’n ymwybodol fod yr enghraifft a roddais i chi yn sôn am y sector addysg uwch, ac rydym yn gwneud cryn dipyn mewn nifer o brifysgolion. Ond byddaf yn sicr yn edrych ar hynny ac yn ysgrifennu at yr Aelod.
Lesley Griffiths: Diolch. Ein polisi yw cyflwyno rhaglenni sy’n dod â phobl, grwpiau, busnesau a sefydliadau lleol at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau i wella’r mannau lle maent yn byw neu’n gweithio. Mae galluogi pobl i ddiogelu eu hamgylchedd eu hunain yn ein helpu i drechu anghydraddoldeb amgylcheddol. Ar ben hynny, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ddoe ar lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar sut y...
Lesley Griffiths: Ie, diolch. Roedd y rhaglen Cynefin yn treialu ffordd newydd, rwy’n credu, o gynnwys cymunedau yn y rhaglenni a’r gwasanaethau cyflenwi lleol a oedd wedi’u llunio i fod o fudd iddynt. Rydym bellach wedi ymestyn ein contract gydag Asiantaeth Ynni Hafren Gwy am gyfnod o 12 mis er mwyn bwrw ymlaen â rhaglen cymorth cyflenwi ledled Cymru a fydd yn adeiladu ar y dysgu a’r arbenigedd a...
Lesley Griffiths: Ie, diolch, ac yn sicr rwy’n cymeradwyo Tesco. Ymwelais ag un yn fy etholaeth fy hun, wedi’i gefnogi gan Tesco. Rydym yn sicr wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol er mwyn gwella mannau gwyrdd yn ein hardaloedd trefol.
Lesley Griffiths: Yn hollol. Nid oeddwn yn gwybod amdano yn Efrog Newydd yn benodol, ond byddwn yn hapus iawn i ofyn i fy swyddogion roi gwybodaeth i mi a byddaf hefyd yn siarad â Julie am y peth. [Torri ar draws.] Neu fynd yno—nid oeddwn yn mynd i ddweud hynny. [Chwerthin.]
Lesley Griffiths: Mae cynllun Glastir—Creu Coetir yn darparu cymorth ariannol ar gyfer creu coetiroedd newydd mewn ardaloedd gwledig a threfol yng Nghymru. Mae Glastir—Adfer Coetir yn cefnogi ailblannu coetiroedd sydd wedi’u heintio gan phytophthora ramorum. Agorodd Llywodraeth Cymru gyfnod arall ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yn y ddau gynllun ar 30 Awst.
Lesley Griffiths: Rwy’n awyddus iawn i ymgysylltu’n gadarnhaol â hwy. Mae’n ddrwg gennyf nad ydynt wedi cael ymateb dros gyfnod yr etholiad, ond byddaf yn sicr yn edrych ar hynny ar eich rhan. Nid wyf yn siŵr os oeddech yn dweud mai ein nod oedd plannu 1,000 hectar—ein nod mewn gwirionedd yw plannu 10,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn mis Mawrth 2020, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion fy sicrhau y...
Lesley Griffiths: Rydym yn cefnogi gwaith rheoli ar raddfa dalgylch i fynd i’r afael â Jac y Neidiwr drwy grwpiau gweithredu lleol. Rydym hefyd wedi cefnogi gwaith i ryddhau ffwng pathogenig newydd ar bum safle ar draws Cymru gyda’r Ganolfan Amaethyddiaeth a Biowyddorau Rhyngwladol, fel cyfrwng rheoli biolegol i fynd i’r afael â’r pla hwn.
Lesley Griffiths: Ydy, yn hollol. Mwynheais fy ymweliad yn fawr iawn, er gwaethaf y glaw trwm ar y diwrnod hwnnw ym mis Awst. Yr hyn a oedd yn fy nharo am y cynllun oedd yr holl weithio mewn partneriaeth yn y gymuned, o’r sefydliadau amgylcheddol i’r ysgolion a phobl leol yn galw draw i helpu. Roedd gweld y miloedd o goed a blannwyd ganddynt yn wirioneddol wych.
Lesley Griffiths: Rwyf ar hyn o bryd yn ystyried y goblygiadau gyda rhanddeiliaid. Mae 95 y cant o fwyd a diod Cymru yn cael ei werthu yn y wlad hon, ac mae 5 y cant yn cael ei allforio. Mae 90 y cant o’r 5 y cant hwn yn cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd. Rwy’n bwriadu diogelu a thyfu’r fasnach hon drwy gynnal mynediad i’r farchnad sengl a thrwy gymorth Llywodraeth Cymru.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae’n dda gweld yr Aelod dros Gaerffili yn parhau â thraddodiad ei ragflaenydd mewn perthynas â chaws Caerffili. Rwy’n credu bod enwau bwydydd gwarchodedig o fudd enfawr i gynhyrchion o Gymru. Fel y dywedwch, rydym yn cefnogi wyth o geisiadau newydd mewn gwirionedd, ac un o’r ceisiadau hynny yw caws traddodiadol Caerffili. Nid yw canlyniad refferendwm yr UE yn gwneud unrhyw...