Canlyniadau 101–120 o 800 ar gyfer speaker:Mohammad Asghar

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Symud Cymru Ymlaen
(13 Rha 2016)

Mohammad Asghar: Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Yn ddiweddar, ymwelais â mosg Jamia yng Nghasnewydd, sef y mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda chyfarwyddwr y Prince’s Trust Cymru, Mr Philip Jones, i godi ymwybyddiaeth am y gwaith y mae’r ymddiriedolaeth yn ei wneud i helpu pobl ifanc yn y cymunedau mwyaf difreintiedig i wireddu eu potensial yn eu bywydau. Gan fod eich Llywodraeth yn cael...

2. Cwestiwn Brys: Ysbyty Brenhinol Gwent (13 Rha 2016)

Mohammad Asghar: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adolygiad Llywodraeth Cymru o ofal cleifion sydd â salwch aciwt yn dilyn ymchwiliad beirniadol iawn yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i ofal claf 93 oed yn Ysbyty Brenhinol Gwent? EAQ(5)0096(HWS)

2. Cwestiwn Brys: Ysbyty Brenhinol Gwent (13 Rha 2016)

Mohammad Asghar: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd adolygiad ar ôl cyhoeddi ymchwiliad ombwdsmon hynod feirniadol i ofal dyn 93 oed a fu farw dridiau ar ôl cael ei dderbyn i Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd. Canfu'r adroddiad na welwyd y dyn gan feddyg am fwy na chwe awr ar y dydd Sul, y diwrnod cyn iddo farw, a hynny er gwaethaf pryderon bod ei iechyd yn dirywio...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Ardaloedd Trefol Casnewydd
(14 Rha 2016)

Mohammad Asghar: Weinidog, mae tipio anghyfreithlon yn broblem gynyddol mewn rhannau o Gasnewydd. Mae grŵp cymunedol o’r enw Pride in Pill wedi gweithredu drwy gynnal sesiynau casglu sbwriel rheolaidd fel rhan o’i ymgyrch i wella’r amgylchedd lleol ar gyfer trigolion. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi a llongyfarch Pride in Pill ar ei ysbryd cymunedol? Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tlodi Plant yn Nhorfaen
(14 Rha 2016)

Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, nid oes gennyf amheuaeth eich bod yn gwneud gwaith ardderchog ar amryw o bethau i leihau tlodi. Rydych wedi cymryd llawer o—[Torri ar draws.] Arhoswch funud. Rydych wedi cymryd llawer o—. [Torri ar draws.] Rydych wedi cymryd llawer o, mae eich Llywodraeth wedi cymryd llawer o fentrau i leihau tlodi ymysg plant—do, cawsom Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau’n Deg,...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tai Newydd yn Islwyn
(14 Rha 2016)

Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar, mae cyngor Caerffili wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu 175 o dai ar dir diffaith ar ystad ddiwydiannol Hawtin Park, ger Coed-duon. Mae’r canllawiau ar gyfer y datblygiad yn cynnwys darpariaeth y dylai 25 y cant fod yn dai fforddiadwy. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i groesawu’r cynnydd hwn yn y cyflenwad o dai fforddiadwy yn...

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: PISA (14 Rha 2016)

Mohammad Asghar: Yn gyntaf, rhaid i mi ddweud nad yw’n rhoi unrhyw bleser i mi gael cyfrannu mewn dadl lle rydym unwaith eto yn trafod methiant rhyfeddol Llywodraeth Cymru i ddarparu system addysg o’r radd flaenaf yng Nghymru. Ar ôl torri addewid gan y Prif Weinidog a’i Lywodraeth Lafur, mae addysg yng Nghymru unwaith eto mewn sefyllfa enbyd. Ar ôl 10 mlynedd o dorri addewidion, mae degawd o...

8. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: PISA (14 Rha 2016)

Mohammad Asghar: Rwy’n cytuno â chi y dylai athrawon fod yn hynod o gymwys i addysgu athrawon eraill. Mae’n hen ddywediad da iawn; rydych yn cael yr hyn rydych yn talu amdano. Car yw car, car yw Rolls-Royce a char yw Mini. Rydych yn talu’r pris gorau, a byddwch yn cael y canlyniad gorau. Beth bynnag, rwy’n cytuno; rhaid i ni fuddsoddi yn ein hathrawon. A bydd anwybyddu’r canlyniadau hyn, rhoi ein...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Plant a Phobl Ifanc yn Nhorfaen
(10 Ion 2017)

Mohammad Asghar: Blwyddyn newydd dda i'r Gweinidog ac i bawb yma. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu amodau i roi'r cyfle gorau mewn bywyd i bob plentyn yng Nghymru. A wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym sut y bydd diddymu’r cynllun sy'n cynnig traean oddi ar docyn teithiau bws i bobl 16 i 18 mlwydd oed yn helpu pobl ifanc yn Nhorfaen, ac mewn mannau eraill yng Nghymru, i gael mynediad at swyddi...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (10 Ion 2017)

Mohammad Asghar: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd yn 2017?

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Darpariaeth Addysg Ôl-16 yn Nhorfaen
(11 Ion 2017)

Mohammad Asghar: Bydd y ganolfan chweched dosbarth newydd yng Nghwmbrân yn disodli pob chweched dosbarth yn ysgolion cyfrwng Saesneg Torfaen erbyn mis Medi 2019. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cael gyda chyngor Torfaen ynglŷn â helpu pobl ifanc gyda chostau cludiant i’r ganolfan newydd o ystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu cynlluniau tocynnau bws rhad yn Nhorfaen a...

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gordewdra (11 Ion 2017)

Mohammad Asghar: Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Gordewdra yn ymwneud â hyrwyddo’r ffyrdd y gall unigolion, y Llywodraeth a busnesau wella iechyd y cyhoedd. Y nod yw darparu’r wybodaeth a’r adnoddau a all greu newidiadau cadarnhaol hirdymor. Mae gwir angen hyn yng Nghymru hefyd. Mae yna lefel o ordewdra mewn plant ac oedolion sy’n her fawr i iechyd y cyhoedd. Mae bron i chwarter pobl Cymru yn...

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gordewdra (11 Ion 2017)

Mohammad Asghar: Iawn, diolch.

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwella Gwasanaethau Rheilffordd
(24 Ion 2017)

Mohammad Asghar: Mae Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin wedi dweud yn ddiweddar bod angen brys am drenau newydd ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru. Aeth ymlaen i ddweud bod teithwyr wedi hen flino ar drenau hen a chyfyng, gyda rhai cerbydau a ddefnyddir dros 40 mlwydd oed. Mae rhai locomotifau yn dal i redeg ar ôl eu dyddiadau terfyn. Gan fod masnachfraint Cymru a'r gororau ar fin cael ei hadnewyddu, Brif...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Ion 2017)

Mohammad Asghar: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y setliad llywodraeth leol ar gyfer Casnewydd, os gwelwch yn dda? Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion cyllideb Cyngor Dinas Casnewydd yn dilyn cynnydd tila o 0.1 y cant mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru wedi dod i ben yn ddiweddar. Mynegwyd pryderon wrthyf am effaith y toriadau arfaethedig mewn gwariant, yn enwedig ar addysg a...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Damweiniau ac Achosion Brys (Derbyn Pobl i’r Ysbyty)
(25 Ion 2017)

Mohammad Asghar: Mae targedau Llywodraeth Cymru yn dweud na ddylai unrhyw glaf aros mwy na 12 awr am driniaeth mewn adran ddamweiniau ac achosion brys yn ein hysbytai. Fodd bynnag, mae’r ffigurau’n dangos bod nifer y cleifion sy’n aros mwy na 12 awr am driniaeth 31 y cant yn uwch ym mis Rhagfyr 2016 o’i gymharu â’r un mis y flwyddyn cynt. Mae hyn er gwaethaf gostyngiad o 5.5 y cant yn nifer y...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (25 Ion 2017)

Mohammad Asghar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwella trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru yn 2017?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Ymarfer Corff
(31 Ion 2017)

Mohammad Asghar: Brif Weinidog, gallai cynyddu mynediad at gefn gwlad i deuluoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfrifol gynnig manteision sylweddol i iechyd a llesiant y genedl. Daeth yr ymgynghoriad ar wella cyfleoedd i gael mynediad at yr awyr agored i ben ar 2 Hydref 2015. Pryd fydd eich Llywodraeth mewn sefyllfa i gyflwyno cynigion a fydd yn annog gweithgareddau fel beicio a marchogaeth, gan...

3. Cwestiwn Brys: Y Gwaharddiad rhag Teithio i’r Unol Daleithiau am 90 Niwrnod (31 Ion 2017)

Mohammad Asghar: Rwyf yn cytuno â’m cydweithwyr bod y gwaharddiad hwn yn gwbl gynhennus, annerbyniol ac annynol. Y cyfan y bydd yn llwyddo ei wneud yw ennyn casineb a gwneud i bobl ofni Mwslimiaid a gwaethygu sefyllfa sydd eisoes yn beryglus yn y byd. Ni ellir amddiffyn gwaradwyddo pobl oherwydd eu cenedligrwydd, a sylwaf fod nifer o farnwyr ffederal wedi atal alltudio rhai sy’n ddeiliaid fisa, gan...

4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (31 Ion 2017)

Mohammad Asghar: A gaf i ofyn unwaith eto am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y setliad llywodraeth leol ar gyfer Casnewydd, os gwelwch yn dda? Rwyf wedi cael pryderon diddiwedd gan yrwyr tacsi yng Nghasnewydd ynghylch achosion diweddar o fandaliaeth, yn arbennig yn ardaloedd Ringland ac Alway. Taflwyd cerrig, wyau a brics at geir, gan gynnwys cerbydau gwasanaethau brys, sydd yn drueni mawr, gan...

<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.