Jeremy Miles: Wel, rwy’n credu ei bod yn hanfodol fod gan fyfyrwyr a disgyblion mewn ysgolion a cholegau ddealltwriaeth glir iawn o’r opsiynau sydd ar gael iddynt, y cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen o fewn y dewisiadau gyrfa hynny a pha ddewisiadau cyrsiau ac yn y blaen y dylent eu gwneud i’w cael yno. Ac rwy’n credu bod lle i lawer mwy o integreiddio rhwng byd gwaith, yr economi leol ac ysgolion a...
Jeremy Miles: A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ddathlu pen-blwydd diweddar un o'r sefydliadau trydydd sector mwyaf blaenllaw yn fy etholaeth i, sef canolfan blant Tiddlywinks yn Ystalyfera, yr ymwelais â hi yn ddiweddar gan weld drosof fy hun y gwasanaeth rhagorol sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad a oedd y cyntaf o'i fath yng Nghymru ac sydd bellach yn fenter gymdeithasol hunangynhaliol? Ceir...
Jeremy Miles: Hoffwn roi'r morlyn llanw yng nghyd-destun ehangach economi las Cymru, ond, cyn imi wneud hynny, rwy’n meddwl ei bod yn werth nodi nad yn y Siambr hon yn unig y mae cefnogaeth Charles Hendry i’r morlyn ym mae Abertawe wedi ei chroesawu’n eang, ond hefyd, i siarad yn bersonol, gan fy etholwyr a hefyd gan fusnesau ar draws y gadwyn gyflenwi a chadwyn gyflenwi bosibl y rhanbarth. Rwy’n...
Jeremy Miles: Derbyniaf yr ymyriad.
Jeremy Miles: Byddwn yn ategu hynny; rwy’n meddwl bod angen inni wneud cynnydd cyflym ar hynny. Ond yr hyn sy’n ddiddadl yw mai newid yn yr hinsawdd yw un o'r bygythiadau mwyaf i fioamrywiaeth forol beth bynnag. Felly, rwy'n meddwl mai dyna gyd-destun ehangach y drafodaeth honno. Ond mae'r morlyn yn amlygiad o gyfle llawer ehangach i droi adnodd naturiol mwyaf toreithiog Cymru yn ased economaidd ac i...
Jeremy Miles: 4. Pa wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru am gyfanswm y gwariant cyhoeddus a gafodd ei wario mewn unrhyw ardal ddaearyddol benodol yng Nghymru? OAQ(5)0100(FLG)
Jeremy Miles: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Tynnodd sylw yn ei ymatebion cynharach at effeithiau niweidiol polisïau caledi Torïaidd. Bydd pwysau cynyddol ar gyllid cyhoeddus yn y blynyddoedd nesaf, ac ni fydd y cymhlethdod o fynd i’r afael â’r heriau’n dod fymryn haws. A fuasai’n cytuno y buasai darlun clir a chynhwysfawr o holl wariant cyhoeddus—lleol, Llywodraeth Cymru a ledled...
Jeremy Miles: 6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol egluro statws cyfreithiol Confensiwn Sewel fel y mae’n gymwys i Gymru yn dilyn dyfarniad y Goruchaf Lys ar Erthygl 50? OAQ(5)0027(CG)
Jeremy Miles: Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol, am eich ateb cynhwysfawr. Os caf ofyn am eglurhad, yn y pwyllgor yn gynharach yr wythnos hon, cynigiodd David Jones, y Gweinidog Gwladol yn yr Adran ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd, y posibilrwydd y gallai’r Bil diddymu mawr ei hun fod yn Fil byr ac y gallai fod nifer o Filiau unigol sy’n dilyn o hynny. O ystyried yr hyn y mae’r Cwnsler Cyffredinol...
Jeremy Miles: Diolch, Lywydd, a diolch i bob cyfrannwr y prynhawn yma, ac am yr ystod eang o gyfraniadau sydd, os caf ddweud, wedi bod yn feddylgar iawn. Petasech chi wedi dweud wrth y fersiwn 10 mlwydd oed ohonof i y byddwn i’n sefyll yma fel dyn hoyw balch ar lawr Senedd Cymru, fe fyddai fe wedi synnu ac wedi’i arswydo. Arswydo am y cywilydd, hynny yw, y byddai’r fersiwn 10 mlwydd oed wedi ei...
Jeremy Miles: Efallai y bydd arweinydd y tŷ yn gwybod mai Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw’r sefydliad cyntaf yng Nghymru i lofnodi siarter wirfoddol ymgyrch Dying to Work Cyngres yr Undebau Llafur, sy'n diogelu staff sy'n wynebu salwch angheuol. Yn anffodus, gwn drwy brofiad personol ffrind agos nad yw gyda ni mwyach, pa mor hanfodol yw hi i bobl yn y sefyllfa honno gael tawelwch meddwl ac ymdeimlad...
Jeremy Miles: A gaf i ychwanegu fy llais innau at y rhai sydd wedi llongyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar yr uwchgynhadledd fysiau, a oedd, os caf i ddweud, yn dangos llawer iawn o ragwelediad? Ac mae ef wedi mynd y tu hwnt i ragwelediad heddiw i ragfynegi wrth ateb Russell George. Ond, yn ddiweddar, cynhaliais fforwm yng Nghastell-nedd, cyn y Nadolig, i drafod yr economi leol, ac un o'r blaenoriaethau a...
Jeremy Miles: Mewn digwyddiad economi yn fy etholaeth a gynhaliais cyn y Nadolig, pan gafwyd anerchiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, un o’r materion a nodwyd i wella cynhyrchiant oedd mater caffael sgiliau, ac yn bwysig, dilyniant sgiliau drwy’r daith gyflogaeth. Felly, byddant wedi bod yn falch o glywed y pwyslais ar hynny yn y cynllun prentisiaeth newydd. Ond yn fwy eang na hynny, a yw’n...
Jeremy Miles: Diolch, Lywydd. Roeddwn eisiau nodi un o’r pwyntiau yn y cynnig a oedd yn tynnu sylw at werth ychwanegol gros perfformiad Cymru yn erbyn cyfartaledd y DU. Mae’n ymddangos i mi mai’r hyn rydym yn edrych arno yn y fan hon mewn gwirionedd yw cwestiwn sylfaenol ynghylch anghydraddoldeb yn y DU fel gwlad—mae’n unigryw o anghyfartal o gymharu â gwledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd er...
Jeremy Miles: Mae gennyf gwestiwn byr ar hynny.
Jeremy Miles: Ar bwnc rhethreg wag, a wnaiff dderbyn y bydd pobl yn y Siambr yn ystyried sail y ddadl a’r cynnig a gyflwynwyd gan UKIP yn hollol anhygoel, o ystyried bod eu harweinydd yn y Cynulliad yma wedi treulio gyrfa wleidyddol gyfan yn y Senedd yn beirniadu ac yn galw am ddadreoleiddio amodau gwaith? Rwy’n ofni y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ystyried yr hyn yr ydych yn ei ddweud yn hollol anhygoel.
Jeremy Miles: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y proffesiwn bydwreigiaeth yng Nghymru?
Jeremy Miles: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y seilwaith cyfathrebu digidol yng Nghymru? OAQ(5)0488(FM)
Jeremy Miles: A gaf i longyfarch Llywodraeth Cymru ar y cynnydd o ran cyflwyno band eang cyflym iawn? Wrth i ni symud i fynd i'r afael â'r bylchau terfynol yn hynny o beth a gwella cysylltedd symudol, mae'n amlwg bod topograffi Cymru, mor hardd ag ydyw, yn creu heriau penodol i gysylltedd digidol ac efallai fod angen mynediad mwy cymesur at seilwaith arnom na rhannau eraill o’r DU i gyrraedd yr un lefel...
Jeremy Miles: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer targedau ynni o brosiectau cynhyrchu ynni sy’n eiddo i’r gymuned yng Nghymru? OAQ(5)0114(ERA)