Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid yn ystod tymor y Cynulliad hwn?
Mandy Jones: 2. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer Porthladd Caergybi pe bai Brexit heb fargen yn digwydd? OAQ53392
Mandy Jones: Diolch am eich ateb, a brysiwch wella. Mae CThEM wedi cyhoeddi cynlluniau trosiannol, a fydd ar waith am flwyddyn, lle bydd nwyddau o'r UE yn cael eu trin fel y cânt eu trin ar hyn o bryd, er mwyn lleihau trafferthion mewn sefyllfa 'dim bargen'. Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r porthladd, a sut y bydd hwnnw'n cael ei gyfleu i fusnesau?
Mandy Jones: Sut y mae'r Gweinidog yn bwriadu asesu llwyddiant bargen twf y gogledd?
Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynnydd o ran cyflwyno'r rhaglen 5G?
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atal salwch yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer lles anifeiliaid yng Ngogledd Cymru ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn?
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol llywodraeth leol yng Nghymru?
Mandy Jones: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm ysgol newydd? OAQ53611
Mandy Jones: Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, clywodd adroddiad diweddar gan bwyllgor iechyd y Cynulliad dystiolaeth nad yw addysg gorfforol a gweithgarwch corfforol yn gyffredinol yn cael digon o flaenoriaeth mewn ysgolion. Rydym ni eisoes wedi clywed yn y Siambr hon ei bod yn ymddangos bod llawer o ysgolion nad ydynt yn llwyddo i ddarparu'r ddwy awr yr wythnos sy'n ofynnol o dan y gyfraith. Rydym...
Mandy Jones: A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu trefniadau ar gyfer gwiriadau tollau ar nwyddau sy'n dod i mewn i Gymru pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd?
Mandy Jones: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu brand Cymru? OAQ53672
Mandy Jones: Prif Weinidog, diolch ichi. Rhaid imi gyfaddef fy mod i braidd yn ddryslyd ynghylch brand Cymru. Twristiaeth, bwyd, cludiant, cig, busnes—bob un ohonynt yn cael eu gweld fel rhan o'r brand. Nid wyf yn ymddiheuro am ddychwelyd at fuddugoliaeth odidog Cymru ym mhencampwriaeth y chwe gwlad a'r digwyddiad gwych a gynhaliwyd yn y Senedd ddydd Llun diwethaf. Yn ystod eich araith cyfeiriwyd at...
Mandy Jones: Rwyf wedi cael llawer o negeseuon e-bost a llythyrau ar y mater hwn, ac nid oes un o'i blaid, gan fod gennym ni gyfraith eisoes yn y fan yma. Dyma smacen. Bydd y gwaharddiad arfaethedig hwn yn gwneud y fam, tad neu ofalwr sy'n ceisio amddiffyn ei blentyn rhag perygl ac yn ceisio gosod ffiniau yn droseddwr. Felly, bydd rhiant sy'n rhoi tap bach yn cael ei drin yn awr fel camdriniwr plant. A...
Mandy Jones: Diolch. Af ymlaen â'm stori. Cefais fy mabwysiadu'n faban a drwy gydol fy mhlentyndod a phan oeddwn i'n oedolyn ifanc cefais fy ngham-drin yn gorfforol ac yn emosiynol gan fy mam fabwysiadol. Nid oedd fy nhad mabwysiadol yn cymryd rhan ond roedd yn caniatáu i hynny ddigwydd. Ni sylwodd neb. Roedd y pwniadau mewn mannau lle nad oedd cleisiau yn weladwy, ac fe dyfodd fy ngwallt hir yn ôl ar...
Mandy Jones: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gadw myfyrwyr yng Ngogledd Cymru ar ôl cwblhau addysg bellach? OAQ53774
Mandy Jones: Diolch am eich ateb. Weinidog, rwyf wedi darllen mai ein pobl ifanc yng Nghymru yw'r mwyaf tebygol o bob un o wledydd y DU o wneud cais i astudio y tu allan i'w gwlad eu hunain. Mae oddeutu 40 y cant yn mynd i Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Pan fydd pobl ifanc yn mynd oddi yma i astudio, gwyddom efallai na fyddant byth yn dychwelyd, ac mae hyn yn effeithio'n negyddol iawn ar rannau o fy...
Mandy Jones: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yng Ngogledd Cymru? OAQ53773
Mandy Jones: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae gwasanaethau meddygon teulu yn dioddef. Dywed fy etholwyr eu bod yn aros wythnosau am apwyntiad arferol ac yn methu cael ateb dros y ffôn, gan ddweud, mewn ambell i achos, eu bod yn rhoi cynnig arni hyd at 50 o weithiau ac yna'n rhoi'r gorau iddi. Dywed llawer eu bod yn colli hyder a ffydd yn y gwasanaeth iechyd. Rydym eisoes wedi clywed bod newidiadau...
Mandy Jones: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i annog mwy o ymgysylltiad â democratiaeth leol? OAQ53858