Bethan Sayed: Roeddwn i eisiau cyfrannu’n fyr, er mwyn ceisio dadansoddi rhywfaint o'r hyn sydd wedi’i ddweud heddiw. Byddwch yn gwybod, fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant, fy mod i wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth gan bobl. Codwyd cwestiwn gennych am gynnwys rhai o'r llythyrau hynny. Hoffwn i ddweud, efallai, eu bod wedi eu hysgrifennu fel y maent oherwydd bod yna, yn fy marn i, ryw lefel o...
Bethan Sayed: Rwy'n meddwl bod y datganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet yn un cadarnhaol ac fel y byddaf yn dweud yfory yn ystod dadl y Ceidwadwyr, mae Plaid Cymru yn gefnogol i'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda chyn-filwyr, ar yr amod eu bod yn cael eu mesur yn gywir a bod y canlyniadau yn dryloyw i bawb eu gweld. Ond mae problem gynyddol o gwmpas Sul y Cofio, ac mae fy nghwestiynau...
Bethan Sayed: Diolch yn fawr. Wrth gwrs, rydw i’n falch o fod yn rhan o’r ddadl yma heddiw, ac, wrth gwrs, ni fyddwn i ddim yn gallu anghytuno â’r ffaith bod angen i ni drin teuluoedd a chyn-filwyr gyda pharch. Yn wir, byddwn i’n disgwyl i unrhyw un sydd yn byw mewn cymdeithas waraidd—er efallai nad yw rhai o’r bobl yn America yn cytuno eu bod nhw’n byw mewn cymdeithas waraidd ar ôl...
Bethan Sayed: Brif Weinidog, rwy’n meddwl y byddai'n ddoniol pe na byddai mor ddifrifol bod UKIP yn rhuthro i groesawu’r darpar Arlywydd i Gymru heb drafod y ffaith fod yr ymgeisydd hwn, y darpar Arlywydd, wedi bod yn arddel casineb at wragedd, rhywiaeth a homoffobia i weddill y byd, ac fe ddylem ni fod yn bryderus dros ben am hyn. Tybed, yn yr holl ddadl o amgylch Brexit, yr Unol Daleithiau a'r...
Bethan Sayed: Diolch. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn canolbwyntio ar Rhentu Doeth Cymru a’r cyhoeddusrwydd parhaus wrth i’r cyfnod cofrestru ddod i ben. Rydym wedi gweld un hwb olaf o gyhoeddusrwydd, a allai achosi problemau gyda’r prosesau gweinyddol wrth ymdrin â llwyth mawr o geisiadau, gan gynnwys y rhai sy’n dewis cwblhau’r hyfforddiant ar-lein. A fydd camau gorfodi yn cael eu cymryd yn erbyn...
Bethan Sayed: Diolch am hynny. Nododd achos llys diweddar ynglŷn â’r ddeddfwriaeth mai naw swyddog gorfodi yn unig a gyflogir gan Rhentu Doeth Cymru. A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi manylion ar unwaith ynglŷn â sut y byddwch yn gweithredu’r ddeddfwriaeth newydd, ac a fyddech yn cytuno y dylid rhoi adnoddau ychwanegol i Rhentu Doeth orfodi’r gyfraith, gan sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar...
Bethan Sayed: Diolch, a byddaf yn amlwg yn awyddus i olrhain cynnydd ar y mater penodol hwnnw. Fy nhrydydd cwestiwn a’r cwestiwn olaf yw hwn: yn amlwg, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi cyfarfod â’ch swyddogion yr wythnos diwethaf mewn perthynas â chynhwysiant ariannol. Dengys adroddiad y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yr wythnos hon na all dwy ran o dair o bobl 16 i 17 mlwydd oed ddarllen slip talu,...
Bethan Sayed: O, mae’n ddrwg gennyf, ni allaf roi’r gorau i chwerthin.
Bethan Sayed: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Cymunedau am Waith? OAQ(5)0068(CC)
Bethan Sayed: Diolch am yr ateb. Daethoch at y pwyllgor cydraddoldeb, a gofynnais rai cwestiynau ynglŷn â hyn i chi, a hoffwn gael rhagor o wybodaeth am gyllideb y rhaglen, faint o staff y mae’n eu cyflogi yn benodol drwy gyllideb eich adran, a faint o bobl y mae wedi eu helpu ers dechrau’r rhaglen. Oherwydd dywedir ar y wefan fod llawer o’r arian hwn yn dod o gyllid Ewropeaidd, a hoffwn ddeall,...
Bethan Sayed: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau staffio yn safle Tata ym Mhort Talbot? EAQ(5)0075(EI)
Bethan Sayed: Diolch am y manylion yna. Rwy’n codi hyn yn awr oherwydd bod gweithwyr dur pryderus wedi dod ataf yn ddiweddar iawn, a dweud bod y cwmni, fel yr ydych chi wedi’i ddweud, yn y broses o gyflogi staff ym Mhort Talbot—er eu bod wedi dyfynnu 200 i 250 i mi. Felly, byddai'n dda pe gallem gael dadansoddiad o hynny. Rydych yn gwybod eu bod yn amlwg wedi datgan y byddai toriadau o 750 o...
Bethan Sayed: Brif Weinidog, ymddengys y bu rhywfaint o ddryswch ar y pryd—pan drafodwyd hyn gennym o'r blaen, yn y Cynulliad blaenorol—ynghylch pa un a oedd y pwerau gennych chi ai peidio. Ac rwy’n deall eich bod wedi gallu rhoi cyngor i Aelodau Cynulliad Llafur ar y meinciau cefn yn awgrymu nad oedd, mewn gwirionedd, yn gyfreithlon i chi wneud hynny, rhywbeth na rannwyd gyda’r gweddill ohonom ni...
Bethan Sayed: Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf gwrthodwyd caniatâd i mi fel Aelod Cynulliad i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn ysgol newydd Bae Baglan ym Mhort Talbot gan y pennaeth ar y funud olaf, wrth i mi geisio trafod problemau parcio lleol a mynediad at gyfleusterau cymunedol yn yr ysgol. Y rheswm a roddwyd oedd ei fod yn gyfarfod gwleidyddol, ond nid oedd yn gyfarfod gwleidyddol gan fod...
Bethan Sayed: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau y mae wedi’u cael â Trinity Mirror ynghylch y cynnig i gau gwaith argraffu’r cwmni yng Nghaerdydd, gan golli 33 o swyddi ar y safle? EAQ(5)0085(EI)
Bethan Sayed: Diolch. Fe fyddwch yn deall fod gennyf ddiddordeb yn y maes penodol hwn, fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, o ystyried y byddwn yn cyflawni mwy o waith fel pwyllgor dros y pum mlynedd nesaf ar edrych ar dirlun y cyfryngau yng Nghymru a chadw a datblygu newyddiadurwyr, a’r gwaith sy’n ymwneud â newyddiadurwyr yma yng Nghymru. Dywedwyd wrthym, pan agorwyd y wasg...
Bethan Sayed: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n arbennig o bryderus am y cynllun pensiwn, fel y soniwyd eisoes yn y ddadl hon. Prynodd Tata Corus, fel y gwyddoch, am fwy na’i werth a hynny’n union cyn dirwasgiad, a dylai fod wedi gwneud y diwydrwydd dyladwy a gwybod am y rhwymedigaethau, er y bydd y rhai ohonom sydd wedi ymwneud â materion pensiwn eraill megis ymgyrch pensiynwyr Visteon yn...
Bethan Sayed: Fe ddilynaf eich galwad i’r gad, Janet—mae eich angerdd yn danbaid. Rwy’n meddwl y dylem fod yn cael y ddadl hon mewn perthynas â sut rydym eisiau i’n dadleuon gael eu gweld gan y cyhoedd, a sut y gall y cyhoedd ymgysylltu â’r dadleuon rydym yn eu cael yn y Cynulliad mewn gwirionedd. Rwy’n dweud hyn am fy mod yn meddwl weithiau ein bod yn cyflwyno syniadau eithaf uchel ael, ond...
Bethan Sayed: Yn union, ac rwy’n meddwl mai’r cyfan y maent wedi bod eisiau ei wneud yw ceisio dweud wrth y cyngor, ‘Edrychwch, dyma ein problemau. Dyma beth rydym yn ceisio’i oresgyn. Rydym am i bobl wario eu harian yma yng nghanol y dref, ond ar hyn o bryd nid ydynt yn gwneud hynny.’ Mae’n rhaid i ni oresgyn hynny ac rwy’n meddwl weithiau fod anhyblygrwydd swyddogion awdurdodau lleol yn...
Bethan Sayed: Nid oes neb yn tanseilio’r ffaith bod safon ansawdd tai Cymru yn un uchelgeisiol, ac fe fyddwn i’n gefnogol o hynny. Ond, rydym ni fel Aelodau Cynulliad yn parhau i gael nifer fawr o gwynion am wasanaethau tai cymdeithasol, er enghraifft nad yw gwaith yn cael ei wneud ar amser a bod diffyg ymateb gan rai o’r gwasanaethau tai yng nghyd-destun y ffaith ei fod yn amser gaeafol a bod pobl...