Darren Millar: Arweinydd y tŷ, a gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Y cyntaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd. Roedd hi’n wythnos ymwybyddiaeth o ffibriliad atrïaidd yr wythnos diwethaf a bydd Aelodau'r tŷ hwn yn ymwybodol y bydd un o bob pump o bobl sy'n dioddef strôc—6,000 ohonyn nhw bob blwyddyn yma yng Nghymru—wedi profi achos o ffibriliad atrïaidd cyn iddyn...
Darren Millar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cymdeithas Ysgolion dros Addysg Gymraeg wedi rhybuddio efallai na fydd digon o werslyfrau TGAU ar gael i fyfyrwyr ac i staff erbyn yr adeg pan fydd angen iddynt gael eu datblygu er mwyn iddynt allu manteisio ar baratoi eu disgyblion yn briodol ar gyfer y TGAU a’r Safon Uwch newydd a fydd yn cael eu cyflwyno o’r flwyddyn nesaf. Beth yw eich ymateb i hynny?
Darren Millar: Byddwn yn fwy na pharod i fynychu, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n ddiolchgar eich bod wedi cymryd camau o’r fath i sefydlu uwchgynhadledd. Wrth gwrs, nid bai’r cyhoeddwyr yn unig yw hyn. Mae Cymwysterau Cymru eto i gymeradwyo manylion ynglŷn â’r cymwysterau y bydd yn rhaid i’r bobl ifanc hynny eu sefyll. Rwy’n falch eich bod wedi cyfeirio at y ffaith y bydd darparwyr addysg uwch...
Darren Millar: Wrth gwrs, ni fyddwn ond yn gallu cyflawni’r cynlluniau uchelgeisiol hyn ar gyfer y dyfodol os oes gennym weithlu sy’n addas i ddarparu’r cyrsiau hyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i’r rhybuddion a gawsoch gan wahanol sefydliadau ym maes addysg sydd wedi bod yn dweud nad oes gennym ddigon o athrawon sy’n rhugl yn y Gymraeg i allu cyflawni’r cynlluniau...
Darren Millar: Un feirniadaeth a wnaed o ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at y maes hwn, wrth gwrs, yw’r ffaith nad oes gan unigolion ifanc mewn addysg bellach yr un hawliau i allu herio penderfyniadau a wneir amdanynt o ran y cymorth y gallant ei gael. A yw hyn yn rhywbeth y gallwn obeithio y bydd yn cael sylw yn eich Bil anghenion dysgu ychwanegol?
Darren Millar: A gaf fi hefyd groesawu’r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar y comisiynydd safonau newydd? Mae’r comisiynydd yn chwarae rhan allweddol iawn, wrth gwrs, wrth anelu at gyrraedd y safonau uchaf posibl gennym ni fel Aelodau’r Cynulliad, er mwyn i’r cyhoedd gael hyder yn eu cynrychiolwyr etholedig. Rwy’n credu ein bod wedi bod yn ffodus i fod wedi cael comisiynydd...
Darren Millar: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl dda a chafwyd rhai pwyntiau pwysig iawn am rai o’r heriau sy’n deillio o gael dwy system iechyd wahanol ar y ddwy ochr i’r ffin, a’r canlyniadau i lawer o’n hetholwyr o ganlyniad i hynny, yn enwedig yng nghanolbarth Cymru, fel y mae Russ George wedi ei ddweud, ac yn...
Darren Millar: Mae angen i ni wneud yn siŵr—. Cytunaf yn llwyr â’ch dyhead na ddylai fod anfantais, ond mae’n rhaid i ni ddechrau gwireddu rhai o’r pethau hyn, ac nid ydym yn mynd i allu eu gwireddu os ydych yn dal heb wybod y ffeithiau—[Torri ar draws.]
Darren Millar: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr arolygiaeth ysgolion yng Nghymru?
Darren Millar: Brif Weinidog, un o'r problemau gyda chynlluniau datblygu lleol yw bod awdurdodau lleol wedi eu cyfyngu gan y canllawiau a gyhoeddwyd gennych chi a'ch cydweithwyr yn y Cabinet. A’r broblem fawr sydd gennym ni yng Nghonwy a Sir Ddinbych—ardaloedd yr wyf i’n eu cynrychioli—yw bod y gofynion i adeiladu llawer o dai newydd yn gwbl anghynaladwy o ran y seilwaith lleol sydd yno. Beth...
Darren Millar: Wel, wel, wel, Ysgrifennydd y Cabinet, dyma lanast mawr arall y mae Carwyn wedi eich rhoi chi ynddo. Mae’n rhaid imi ddweud, rwy’n gwerthfawrogi eich datganiad a'r briff a ddarparwyd gan eich swyddogion y bore yma, ac, wrth gwrs, rydych wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn bychanu yn daer y disgwyliadau ynglŷn â chanlyniadau heddiw, a gallwn, wrth gwrs, i gyd weld nawr pam yr oeddech...
Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad, Mike?
Darren Millar: Diolch, rwy’n ddiolchgar iawn ichi am dderbyn yr ymyriad. Mae’n ymwneud, yn benodol, â chostau staff asiantaeth. Fel y gwyddoch, cymerwyd camau gan Lywodraeth y DU gamau i roi cap ar gostau staff asiantaeth fesul awr. Penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â dilyn eu hesiampl. Mae hynny’n costio miliynau o bunnoedd i'n GIG bob blwyddyn. A ydych yn rhannu fy marn i y dylai...
Darren Millar: A ydych yn derbyn nad oes gan y mantra cyson hwn gan Lywodraeth Cymru o ran gwarchod gofal cymdeithasol ddim byd i'w wneud â nhw yma yng Nghymru, oherwydd, wrth gwrs, mae penderfyniadau ar gyllidebau gofal cymdeithasol yn gyfan gwbl yn fater i awdurdodau lleol ac nid i Lywodraeth Cymru?
Darren Millar: 10. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr ymwelwyr o dramor â Chymru dros y pum mlynedd diwethaf? OAQ(5)0082(EI)
Darren Millar: Mae nodi’r ffigurau hynny yn newyddion calonogol iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac wrth gwrs, mae gwerth y bunt bellach hefyd yn gymorth i ddenu ymwelwyr i’r DU. Ond mae gan ogledd Cymru gynnig unigryw o ran twristiaeth, ac fel y gwyddom, mae’n gynnig sydd gyda’r gorau drwy’r byd. Mae ar restr y 10 uchaf o ran cyrchfannau, ym marn Lonely Planet. Ond un o’r anfanteision sydd gennym...
Darren Millar: A gaf i hefyd wneud datganiad o fuddiant fel llywodraethwr ysgol? Rwy'n ddiolchgar iawn am eich datganiad heddiw, Weinidog, ac, yn wir, am y nodyn briffio a ddarparwyd gennych chi a'ch swyddogion yr wythnos diwethaf. Rwy’n gwybod eich bod chi yn bersonol yn ymroddedig iawn i ymdrin â'r diffygion yn ein fframwaith statudol presennol ar gyfer dysgwyr ag anghenion ychwanegol, ac rwy’n...
Darren Millar: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i gynnig y cynnig hwn heddiw, ac rwyf am wneud hynny’n ffurfiol ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig. Yr wythnos diwethaf, cafodd Cymru newyddion am ei chanlyniadau yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, neu PISA, fel y cyfeirir ato’n fwy cyffredin, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Cyn cyhoeddi’r canlyniadau hynny,...
Darren Millar: Diolch; rwy’n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Ni wneuthum fychanu’r cwricwlwm newydd rydym yn ceisio ei gyflwyno yng Nghymru. Gofynnais yn unig am i ni oedi ac ystyried ai diwygiadau cwricwlaidd tebyg i’r rhai sydd wedi digwydd yn yr Alban, sydd wedi methu â chyflawni yn erbyn y mesur PISA, yw’r dull cywir yma yng Nghymru. Rwy’n credu bod angen i ni fyfyrio o ddifrif ar hynny.
Darren Millar: Rwy’n ddiolchgar iawn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am gadarnhau y byddwch yn sicrhau bod y ddogfen honno ar gael, ond yn sicr, cyn y ddadl heddiw, gallech fod wedi sicrhau bod peth, o leiaf, o’r crynodeb o’r canfyddiadau ar gael, sydd, yn amlwg, eisoes yn eich dwylo chi.