Samuel Kurtz: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd prosiect creu coetiroedd Llywodraeth Cymru? OQ57523
Samuel Kurtz: Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Mae clefyd coed ynn yn glefyd ffyngaidd cyffredin sy'n effeithio ar lawer iawn o goed ynn Cymru, y drydedd goeden fwyaf cyffredin yng Nghymru. Yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, rydym wedi gweld pa mor niweidiol y gall y clefyd hwn fod. Ar Ystad Ystangbwll yn unig—y cefais y pleser o ymweld â hi ddydd Llun i blannu coeden fel rhan o...
Samuel Kurtz: Diolch, Llywydd. Weinidog, hoffwn ddechrau drwy groesawu'r newyddion bod Llywodraeth Cymru yn ariannu ymchwil newydd i gadernid profion gwybyddol GIG Cymru, yn enwedig o ran gofal dementia a'r defnydd o'r Gymraeg. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol bod siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf â dementia yn aml yn anghofio eu bod yn gallu siarad Saesneg er yn cadw eu gwybodaeth o'u hiaith...
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Yn ei adroddiad blynyddol, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dangos llawer iawn o rwystredigaeth gyda'r cynnydd ar reolau safonau’r Gymraeg ac arafwch yn y newid mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Yn wir, dywedodd yr Aelod Llafur dros Flaenau Gwent yn y pwyllgor:
Samuel Kurtz: 'Un o'r siomau ym mholisi iaith Llywodraeth Cymru yn ystod y rhai blynyddoedd diwethaf yw y diffygion o ran hyrwyddo'r Gymraeg.'
Samuel Kurtz: Aeth yr Aelod ymlaen wedyn i gwestiynu ymrwymiad y Llywodraeth i 'Cymraeg 2050' drwy adleisio pryderon y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones. Mae sylwadau Alun Davies yn peri cryn bryder yn enwedig o'u cyplysu â galwad y comisiynydd am ymyrraeth sylweddol a newid meddylfryd llwyr wrth rybuddio na fydd strategaeth Cymraeg 2050 yn cael ei chyflawni. Os gall Aelod Seneddol Llafur, cyn-Brif Weinidog...
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog.
Samuel Kurtz: Cyn fy nghwestiwn olaf, hoffwn ddatgan buddiant fel aelod o Gyngor Sir Penfro, ac mae'n fater rwyf wedi'i godi o'r blaen yn y Siambr. Mae'n ymwneud ag Ysgol Cosheston, sy'n ysgol wirfoddol a reolir, yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, sydd wedi wynebu anawsterau parhaus yn ymwneud â diffyg lle, anawsterau sydd wedi gwaethygu oherwydd COVID-19. Yn dilyn mater a...
Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddechrau drwy ddatgan buddiant fel Aelod o Gyngor Sir Penfro a hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed am roi'r cyfle imi siarad yn y ddadl y prynhawn yma, gan fy mod yn gwybod y bydd o ddiddordeb mawr i lawer o fy etholwyr. Fel llawer sy'n tyfu i fyny yng nghefn gwlad Cymru, roeddwn yn ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus anaml a thymhorol,...
Samuel Kurtz: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd ariannu sydd ar gael i ysgolion gwledig yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Samuel Kurtz: 10. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r meini prawf ar gyfer derbyn cyllid o dan gronfa her ddatgarboneiddio a COVID Llywodraeth Cymru? OQ57555
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Mae Gwinllan Velfrey, gwinllan fach, annibynnol sy’n cael ei rhedeg gan deulu ger Hendy-gwyn ar Daf yn fy etholaeth, yn cynhyrchu gwin o ansawdd rhagorol, a bûm yn ddigon ffodus i ymweld a chael blasu rhai o’u goreuon y llynedd. Mae pryderon wedi’u codi, fodd bynnag, fod ceisiadau i gronfa her ddatgarboneiddio a COVID y Llywodraeth yn cael mwy o ffafriaeth os dônt...
Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gau'r ddadl heddiw, yn dilyn cyfraniadau manwl ac addysgiadol iawn o bob rhan o'r Siambr. Ac a gaf fi ddweud pa mor wych yw bod yn ôl yn y Siambr, yn gwneud yr hyn y mae ein hetholwyr wedi ein hethol i'w wneud? Yr hyn a wnaed yn glir y prynhawn yma yw bod gordewdra yn glefyd cronig a achosir gan anghydraddoldebau iechyd, dylanwadau...
Samuel Kurtz: 4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darpariaeth gofal iechyd yng ngorllewin Cymru? OQ57607
Samuel Kurtz: Diolch, Prif Weinidog. Bythefnos yn ôl, cymeradwyodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda achos busnes rhaglen ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau gofal iechyd yn y gorllewin, a fydd, os caiff ei gymeradwyo a'i gadarnhau gan eich Llywodraeth chi, yn gweld ysbyty newydd yn cael ei godi mewn lleoliad nad yw wedi'i benderfynu eto rywle rhwng Arberth a Sanclêr. Mae'r achos busnes hwn hefyd yn gweld...
Samuel Kurtz: Hoffwn gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau, gan fy mod yn aelod o Gyngor Sir Penfro a Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon, a thrwy adleisio geiriau fy nghyd-Aelod, AS Mynwy: yn y manylion y ceir y gwirionedd, yn sicr. Ac mae'n amlwg o'r ddadl y prynhawn yma, yn dilyn yr hwb ariannol mwyaf erioed gan Lywodraeth y DU, nad...
Samuel Kurtz: Wel, yn sicr, ac rydym wedi siarad llawer yn y Siambr hon am gronfeydd creu coetir Glastir sy'n mynd dros y ffin i wledydd eraill sy'n prynu—cwmnïau eraill sy'n prynu— tir amaethyddol gorau Cymru ar gyfer coedwigo yn bod yn ddymunol ac yn dderbyniol i'r Llywodraeth hon wrth dderbyn arian grant drwy goetir Glastir. Felly, mae cyllid ar gael. Fodd bynnag, fe wnaf ildio, gan fy mod yn...
Samuel Kurtz: Diolch i'r Aelod o Ddwyfor Meirionnydd am y cyfle i gyfrannu.
Samuel Kurtz: Fel rhywun sydd wedi chwarae llu o chwaraeon drwy gydol eu hoes, o bêl-droed, golff, tenis, rygbi, criced a phopeth arall yn y canol, mae'r ddadl hon wedi gwneud i mi gofio'r profiad o dyfu i fyny yng nghefn gwlad gorllewin Cymru. Ac yn aml roedd yn fwy o siwmperi fel pyst gôl nag ydoedd o Stadiwm y Mileniwm—Stadiwm Principality, maddeuwch imi—neu Celtic Manor neu faes criced Lord's. Ac...
Samuel Kurtz: Hoffwn i groesawu'r ddadl y prynhawn yma, yn enwedig gan ei bod hi'n rhoi cyfle i ni gydnabod y camau y mae Llywodraeth y DU wedi'u cymryd i ddiogelu ein cymunedau a gwneud ein cymdogaethau'n fwy diogel. Yn wir, yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, rwyf i wedi gweld yn uniongyrchol pa mor bwysig yw'r cyllid hwn i'n cymunedau lleol ni. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo...