Canlyniadau 101–120 o 800 ar gyfer speaker:Delyth Jewell

3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth y DU ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE ( 1 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rydych chi'n sôn am sut y mae Llywodraeth y DU wedi methu o ran ei chyfrifoldebau a bod Gweinidogion Cymru wedi eu cloi allan o gyfarfodydd hollbwysig, ac rydych chi'n dweud bod y sefyllfa wedi dirywio'n fawr ers i Boris Johnson gymryd yr awenau. Mae hyn yn cyd-fynd â'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud wrth y pwyllgor materion allanol yn y gorffennol. Nawr,...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 2 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Weinidog, pam fod eich Papur Gwyn sydd newydd gael ei gyhoeddi ar Brexit, ‘Dyfodol mwy disglair i Gymru’, yn cyfeirio at gardiau adnabod cenedlaethol? Mae'r ddogfen yn nodi, a dyfynnaf: 'Mae rhai wedi dadlau y gallai cerdyn adnabod cenedlaethol fod yn bris gwerth ei dalu i fynd i’r afael â phryderon am fudo ‘heb reolaeth’ o’r AEE.' Ai dyma farn Llywodraeth...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 2 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Mae llawer o bethau yn y ddogfen rydym yn cytuno â hwy, ond buaswn yn annog y Gweinidog i weld yr iaith honno yng nghyd-destun polisi amgylchedd gelyniaethus y Swyddfa Gartref. Mae cyflwyno, neu—. Nid siarad am gardiau adnabod cenedlaethol yw'r unig agwedd ar y ddogfen hon a fyddai hefyd yn peri pryder i ddinasyddion yr UE yng Nghymru nad ydynt yn dod o'r DU sydd eisoes...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 2 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Diolch, Weinidog, ac mae'r holl bethau hynny'n bethau rydym yn eu croesawu, a dyna pam y buaswn o ddifrif yn eich annog i ddileu'r cyfeiriadau at alltudio mudwyr yn gyfreithlon, twristiaeth budd-daliadau a chardiau adnabod o'r ddogfen hon. A phe baech yn gwneud hynny, byddai fy mhlaid yn barod iawn i'w thrafod ymhellach gyda chi ac i ystyried pleidleisio drosti, os ydych yn bwriadu cynnal...

5. Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad: Adroddiad 02-19 ( 2 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Hoffwn atgoffa'r Aelodau o'r cyd-destun sy'n gysylltiedig â hyn i gyd. Cyd-destun yw popeth mewn achos fel hwn. Pan fu farw ein cyfaill a'n cyd-Aelod, Steffan, ym mis Ionawr, nid oedd neb, yn fy nghynnwys i, eisiau meddwl am beth fyddai'n dod nesaf. Roeddem eisiau galaru am ein ffrind. Ac roeddwn wedi penderfynu na fyddwn yn dweud dim byd yn gyhoeddus, ar gyfryngau cymdeithasol neu fel...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Polisi Ffracio ( 9 Hyd 2019)

Delyth Jewell: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ffracio? OAQ54464

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Polisi Ffracio ( 9 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Rwy'n falch o glywed hynny, Weinidog, gan fy mod wedi clywed bod yna bryderon gan rai grwpiau amgylcheddol y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi lleihau ei gwrthwynebiad yn sgil y cyhoeddiad y bydd Ineos yn agor ffatri yng Nghymru. Wrth gwrs, prif ddiddordeb Ineos ar dir mawr Prydain yw echdynnu nwy siâl. Mae buddsoddiad Ineos ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar gyfer adeiladu ei gerbyd 4x4 newydd, wrth...

3. Cwestiynau Amserol: Triumph Furniture ym Merthyr Tudful ( 9 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Weinidog, wythnos arall, cyhoeddiad arall am golli cannoedd o swyddi yn y de-ddwyrain. Y mis diwethaf yn unig, roeddem yn trafod cau gwaith dur Orb yng Nghasnewydd, ac ym mis Mehefin, buom yn trafod cau Quinn Radiators. Heddiw, gyda chau Triumph Furniture, daw hynny â chyfanswm y nifer o swyddi a gollwyd dros gwta bedwar mis i 912, o gau tri chwmni yn unig. Nid yw hynny'n normal, Weinidog,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Weinidog, gwn y byddai'r gymuned Gwrdaidd yng Nghymru yn dymuno imi ddiolch ichi am godi pryderon gydag Ysgrifennydd Tramor y DU ynghylch penderfyniad Twrci i ymosod ar diriogaethau Cwrdaidd yn Syria. Gwn eich bod yn poeni am sefyllfa'r Cwrdiaid, fel ninnau ym Mhlaid Cymru, ac rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar hyn. Bydd hanes yn cofio penderfyniad Donald...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Iawn. Diolch am hynny, Weinidog. Hoffwn ddweud unwaith eto ei bod yn galonogol iawn eich bod wedi gweithredu fel y gwnaethoch, ond credaf fod hwn, fel rydych wedi'i gydnabod, yn fater mawr iawn, a byddai'n dda clywed eich barn ar hynny. Mae gan rai cwmnïau sy'n ymwneud â'r fasnach arfau, gan gynnwys gwerthu arfau i Dwrci, ganolfannau gweithredu yng Nghymru, ac mae rhai wedi derbyn cyllid...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Yn amlwg, bydd y swyddi sy'n gysylltiedig â hyn yn bwysig, ond unwaith eto, o ran yr elfennau o'r gwaith ar werthu arfau, credaf y byddai'n dda i Lywodraeth Cymru—wel, nid yn unig y byddai'n dda, byddai'n hynod bwysig i Lywodraeth Cymru—wneud popeth yn ei gallu i sicrhau nad yw honno'n ffordd rydym yn ariannu hynny yn anuniongyrchol. Ond yn olaf, Weinidog, hoffwn droi...

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Defnyddio Plastigau Untro (16 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am ddod â'r cynnig hwn gerbron y Senedd. Roeddwn yn falch o gefnogi'r cynnig i gyflwyno Mesur ar leihau'r defnydd o blastig untro ar ran grŵp Plaid Cymru. Ers i blastig gael ei ddefnyddio ar raddfa ddiwydiannol, mae llygredd o'i herwydd wedi cynyddu'n ddyddiol i'r graddau anferth rydym yn ei weld heddiw, am y rheswm sylw nad yw plastig yn pydru dros...

10. Dadl: Brexit (22 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Hoffwn ddweud ychydig eiriau am y mater o gydsynio. Mae nifer o fethiannau yn y Bil cytundeb ymadael sydd wedi'u hamlinellu y prynhawn yma, ond y prif beth ymhlith y diffygion hyn yw'r modd y mae Llywodraeth Boris Johnson yn ceisio ei orfodi gyda'r amserlen hurt hon yn San Steffan, heb roi digon o amser i San Steffan neu'r gweinyddiaethau datganoledig graffu arno'n briodol. Nawr byddai'r Bil...

10. Dadl: Brexit (22 Hyd 2019)

Delyth Jewell: [Torri ar draws.] Ie, yn union. Diolch am yr ymyriad, ond byddwn yn dweud, gyda phob parch, yn hytrach na chael trafodaethau dirprwyol am etholiadau dirprwyol ynghylch yr hyn y gallwn ei ddarllen am yr hyn y gallai hyn ei olygu, pam na chawn ni gwestiwn syml mewn gwirionedd? Rwy'n derbyn y pwynt, ond credaf fod angen gwneud hyn yn iawn, a gofyn y cwestiwn uniongyrchol yn hytrach na chael...

10. Dadl: Brexit (22 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Ie, diolch. Byddwn i'n cytuno, ac fel yr wyf wedi'i ddweud yn ddiweddar yn yr Alban, gallai digwyddiadau ein goddiweddyd yn gyflym iawn. Mae angen inni roi marcwyr gweithredol ar waith a chynllunio ar gyfer refferendwm annibyniaeth, a gallai hynny ddigwydd yn fwy ar frys o lawer nag y credwn ni, felly byddwn i yn sicr yn cytuno â'r pwynt hwnnw. Ond, Dirprwy Llywydd, nid oes hierarchaeth o...

3. Cwestiynau Amserol: Brexit (23 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Weinidog, nid wyf yn gwybod a gawsoch gyfle i wylio'r Cwestiynau i'r Prif Weinidog cyn y Cyfarfod Llawn heddiw. Os gwnaethoch, byddwch wedi gweld arweinydd yr SNP yn San Steffan yn gofyn i'r Prif Weinidog a oedd yn cyfaddef y byddai angen cydsyniad y Seneddau datganoledig er mwyn i'r Bil cytundeb ymadael fynd yn ei flaen. Nawr, byddem ni yn y Siambr hon fel arfer yn cymryd hynny yn ganiataol,...

4. Datganiadau 90 Eiliad (23 Hyd 2019)

Delyth Jewell: Ar fore 21 Hydref, 53 o flynyddoedd yn ôl, syrthiodd cysgod dros Aber-fan. Cwympodd tomen rwbel, gan ladd 116 o blant a 28 o oedolion. Roedd fy nhad-cu, Ken, yn un o gannoedd lawer a aeth i helpu gyda'r gwaith achub, yr unig ddiwrnod i fy nain ei gofio'n crio erioed. Tra'u bod yn gweithio'n daer gyda rhawiau, gydag unrhyw beth y gallent ddod o hyd iddo, dywedodd y byddai sibrydion ar led fod...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Tach 2019)

Delyth Jewell: Diolch. Weinidog, hoffwn ofyn i chi ynghylch cynlluniau Llafur ar gyfer negodi cytundeb Brexit newydd. Rwy'n ymwybodol eich bod wedi bod ym Mrwsel yn ddiweddar yn cwrdd â chynrychiolwyr o'r Undeb Ewropeaidd. A allwch chi ddweud wrtha i os gwnaethoch chi gynnal trafodaethau gyda nhw ynglŷn â chynlluniau'ch plaid i negodi cytundeb newydd wedi ei seilio ar greu undeb dollau newydd? Ac a...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Tach 2019)

Delyth Jewell: Diolch am yr ateb yna. Hoffwn ofyn, o ganlyniad, a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal asesiad effaith economaidd o effaith debygol bargen newydd Jeremy Corbyn ar economi a phorthladdoedd Cymru. Wrth gwrs, does dim llawer o fanylion penodol ynglŷn ag union natur y cytundeb hwn ar gael yn gyhoeddus, ond rwy'n cymryd, fel Gweinidog Llafur mewn Llywodraeth Lafur, eich bod yn gwybod union fwriad...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Tach 2019)

Delyth Jewell: Yn olaf, Weinidog, rwyf am droi at y newyddion fod Alun Cairns wedi ymddiswyddo o'r diwedd fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn dilyn y newyddion ei fod wedi helpu i gynorthwyo ffrind a danseiliodd achos llys ar drais yn fwriadol. Rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi fod ymddygiad Alun Cairns yn warthus, yn anamddiffynadwy ac yn arwydd o bydredd dwfn wrth wraidd y Blaid Geidwadol yng Nghymru....


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.