Canlyniadau 1301–1320 o 2000 ar gyfer speaker:Suzy Davies

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gweithwyr Gofal Cymdeithasol (20 Ion 2021)

Suzy Davies: Mae’n ddigon posibl y gallai’r cwestiwn hwnnw fod wedi codi gan fod cymaint o bwyslais wedi’i roi ar weithwyr gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal. Mae gennyf gwestiwn am y rheini sy'n rhoi gofal personol i blant mewn ysgolion. Credaf y gallwn gytuno nad oedd y cyfathrebu ynghylch blaenoriaethu'r unigolion hyn yn wych—gwnaethoch gyfaddef hynny i bob pwrpas yr wythnos diwethaf,...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Ion 2021)

Suzy Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, mae nifer yr athrawon sy'n siarad neu sy'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi parhau yn weddol sefydlog ers sawl blwyddyn erbyn hyn. Mae Estyn yn disgrifio ceisiadau eleni am hyfforddiant i athrawon cychwynnol fel ymchwydd, er bod Cyngor y Gweithlu Addysg yn llai hyperbolic ac yn dipyn bach mwy realistig na hynny. Pam na wnaeth mwy o'r...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Ion 2021)

Suzy Davies: Diolch am hynny. Rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd, ond roeddwn i'n meddwl a oes gyda chi unrhyw ddiddordeb mewn prentisiaethau safon gradd, er enghraifft, i athrawon sy'n dod o gefndiroedd galwedigaethol gwahanol yn hytrach na thrwy'r system rŷm ni'n ei gweld ar hyn o bryd. Efallai fod hynny'n rhywbeth i'w ystyried. Hoffwn symud ymlaen nawr at rywbeth arall. Bron yn syth ar ôl dechrau'r...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Ion 2021)

Suzy Davies: Diolch am hynny. Gobeithio y byddwch chi'n gallu rhannu unrhyw ddata newydd sy'n dangos cynnydd cyflawniad ar bolisi 2050, gan gynnwys unrhyw syniadau newydd sy'n gweithio nad ydym ni wedi'u hystyried o'r blaen. Nawr, hoffwn i glywed yn arbennig am unrhyw gynnydd ar brentisiaethau iaith Gymraeg, a sut i brif-ffrydio mwy o sgiliau Cymraeg mewn prentisiaethau cyfrwng Saesneg. Byddwn ni yn...

4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Diweddariad ar Gymwysterau ar gyfer 2021 (26 Ion 2021)

Suzy Davies: A gaf i ddiolch i'r grŵp cynghori dylunio a chyflawni hefyd? Dydw i ddim yn tybio eu bod wedi disgwyl gwneud y gwaith hwn. Credaf fod yr angen am eich cyhoeddiad yr wythnos diwethaf a'r datganiad hwn heddiw, Gweinidog, yn dangos pa mor agos ydym ni at y dibyn gydag addysg ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod eich bod yn gwneud penderfyniadau y byddai'n well gennych beidio â'u gwneud. Felly, nid...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg mewn teuluoedd (polisi trosglwyddo yn y teulu) (26 Ion 2021)

Suzy Davies: Diolch yn fawr, Weinidog, am y datganiad yma. Rwyf wedi bod yn dweud bod dewis iaith yn ddewis anymwybodol yn aml, yn bersonol iawn, ac yn bownd o barhau er gwaethaf unrhyw bolisi os dydyn ni ddim yn wynebu hynny. Felly, rwy'n falch o weld y symudiad hwn tuag at well ddealltwriaeth o le iaith mewn deinameg deuluol. Ac wrth edrych ar argymhellion y polisi, dwi'n troi at yr ail, y ddeinameg...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Economi Gorllewin De Cymru (27 Ion 2021)

Suzy Davies: Mae Gorllewin De Cymru eisoes yn dioddef ei ergydion economaidd ei hun, yn anad dim o ganlyniad i ba mor agored yw’r cadwyni cyflenwi sy'n bwydo i mewn i'r sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden sydd bellach yn fregus iawn. Weinidog, rydych wedi cydnabod y bregusrwydd hwnnw gyda chymorth ariannol wedi'i glustnodi i lawer o fusnesau rheng flaen, ond wrth gwrs, ni fyddant yn prynu stoc nac...

3. Cwestiynau Amserol: COVID-19: Achosion yn yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (27 Ion 2021)

Suzy Davies: Mae Mike Hedges wedi bod yn codi hyn yn ein cyfarfodydd wythnosol gyda'r bwrdd iechyd lleol cyhyd ag y gallaf gofio, felly rwy'n falch ein bod yn cael cyfle i'w drafod heddiw. Fodd bynnag, nid dyma'r unig waith mawr yng Ngorllewin De Cymru sydd wedi bod yn ymdrin â niferoedd mawr; rydym wedi cael newyddion anodd gan Tata a chan Amazon hefyd, sydd hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr...

3. Cwestiynau Amserol: Llifogydd yn Sgiwen (27 Ion 2021)

Suzy Davies: A gaf fi ategu sylwadau David Rees a'r diolch a roddodd? Rwy'n credu ein bod i gyd wedi rhyfeddu at yr ymateb i hyn, yn enwedig gan y gymuned. Mae unrhyw un sydd wedi bod drwy brofiad o lifogydd yn gwybod pa mor ofidus ydyw, a phan fydd gennych gymaint o ddŵr brwnt, mae'n wirioneddol dorcalonnus. Mae'r awdurdod lleol hwn, wrth gwrs, wedi gorfod ymdrin â llifogydd Aberdulais y llynedd, a...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyflenwad a chyflwyno brechlynnau COVID-19 (27 Ion 2021)

Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau? Nid oes neb yn awgrymu bod hyn yn hawdd, a dyna pam na ddylai llongyfarch Llywodraeth y DU ar sicrhau cyflenwadau mor gyflym fod wedi bod yn anodd iawn. Ond mae arnaf ofn, Weinidog, eich bod chi a'r Prif Weinidog wedi gwneud hyn yn brofiad llawer mwy dyrys nag oedd angen, oherwydd y cyfathrebu gwael ynghylch eich...

QNR: Cwestiynau i Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (27 Ion 2021)

Suzy Davies: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wella cryfder ac ansawdd mynediad band eang i gartrefi yng Nghymru lle mae pobl yn gweithio neu'n dysgu?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Atyniadau Ymwelwyr Awyr Agored ( 2 Chw 2021)

Suzy Davies: 1. Pa feini prawf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i benderfynu pryd y bydd atyniadau ymwelwyr awyr agored yn gallu ailagor? OQ56204

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Atyniadau Ymwelwyr Awyr Agored ( 2 Chw 2021)

Suzy Davies: Diolch am yr ateb yna. Yn amlwg, mae'r sector yn deall yr angen i ailagor yn ddiogel, ond dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fo'n rhaid iddyn nhw wneud penderfyniadau gwario sylweddol, ac i'r perwyl hwnnw maen nhw'n chwilio am gymaint o wybodaeth â phosibl i'w helpu i wybod am ba hyd y mae'n rhaid iddyn nhw gynllunio i aros ar gau yn hytrach nag agor. Rwy'n credu bod y posibilrwydd o etholiad...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cefnogaeth i ofal lliniarol yn ystod y pandemig ( 3 Chw 2021)

Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon. Fel y dywedodd Mark Isherwood ar y dechrau, nid yw erioed wedi bod mor bwysig inni drafod yr hyn rydym yn ei drafod heddiw. Mae nifer o Aelodau wedi cyfeirio at y gobaith y byddwn i gyd yn marw'n dda, ac mae rôl gwasanaethau lliniarol yn hynny yn gwbl hanfodol. Rwy'n credu fy mod wedi nodi yn y ddadl heddiw...

9. Dadl Fer: Pam nad ydym yn caru ieithoedd rhyngwladol? ( 3 Chw 2021)

Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Hoffwn roi munud yr un i Mike Hedges a Laura Jones. Bythefnos yn ôl, roeddwn yn awyddus i ymuno â'r Gweinidog ac eraill yn arddangosiad cenhadaeth ddinesig Prifysgolion Cymru, ac rwy'n eithaf sicr, Weinidog, yn eich ymateb, y byddwch yn cytuno ei fod yn hafan o faeth a phositifrwydd pan fo cynifer ohonom wedi bod yn rhwym wrth heriau COVID. A'r...

9. Dadl Fer: Pam nad ydym yn caru ieithoedd rhyngwladol? ( 3 Chw 2021)

Suzy Davies: Nawr, yr hyn y mae siarad â Lucy Jenkins, yr arian byw sy'n arwain y prosiect mentora myfyrwyr ieithoedd tramor modern, wedi'i wneud yw gwneud imi ddeall yn well beth oedd fy mhrofiad fy hun mewn gwirionedd yr holl flynyddoedd yn ôl. Ac mae'r ddwy enghraifft honno'n dangos beth oedd hynny, sef cael y ddawn i chwarae gydag ieithoedd, i weld y cysylltiadau ac i allu dyfalu beth yw ystyr...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cyllid i Ddioddefwyr Llifogydd (10 Chw 2021)

Suzy Davies: A gaf fi ategu sylwadau David Rees ynglŷn â'r modd y mae pobl wedi ysgwyddo eu cyfrifoldebau yn Sgiwen? Bythefnos yn ôl, yn sgil ei gwestiwn amserol, gofynnais gwestiwn i'r Gweinidog llywodraeth leol, un na wnaeth mo'i ateb, ond credaf efallai y gallwch chi wneud hynny—efallai eich bod mewn gwell sefyllfa i wneud hynny. Yn amlwg, gyda llifogydd Sgiwen, roedd y ffocws yn fawr iawn ar rôl...

3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (10 Chw 2021)

Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Roeddem i gyd yn falch iawn, wrth gwrs, o'ch clywed yn cyhoeddi y bydd ysgolion cynradd ar agor ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb i ddisgyblion y cyfnod sylfaen ar ôl hanner tymor. Fodd bynnag, gyda dim ond tri diwrnod i fynd tan hanner tymor, rydym wedi gweld cyhoeddi dros nos y canllawiau y mae ysgolion wedi bod yn galw amdanynt ers dyddiau...

3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (10 Chw 2021)

Suzy Davies: Diolch ichi am hynny. Ac rwy'n cymryd o hynny hefyd fod yr undebau llafur yn fodlon â'r camau sydd bellach ar waith, yn sicr ar gyfer blynyddoedd y cyfnod sylfaen. Rwy'n gobeithio y byddant yn teimlo'r un fath ar gyfer ysgolion uwchradd hefyd, oherwydd, fel y gwyddom, safbwynt Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yw mai pwysau ar y GIG sy'n pennu pa rannau o'n cymdeithas sy'n cael eu rhyddhau a...

3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (10 Chw 2021)

Suzy Davies: Mae hynny'n galonogol, oherwydd mae dysgwyr hŷn a rhieni'n dechrau poeni'n fawr yn awr wrth iddynt ein gweld yn agosáu at y cyfnod arholiadau traddodiadol—rwy'n gwybod bod y broses yn wahanol nawr—ac maent yn gweld eu plant yn pryderu fwyfwy ynglŷn â hyn. Felly, gorau po gyntaf y byddant yn agor o ran hynny. Ni wnaethoch ddweud dim am wahaniaethau ledled Cymru, ond efallai nad ydych...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.