Canlyniadau 1361–1380 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl Anabl (30 Tach 2021)

Jane Hutt: Rwyf wedi sôn am y ffaith bod yn rhaid inni fynd i'r afael â'r bwlch cyflog. Rwyf wedi sôn am y gwaith sy'n cael ei wneud, yr arian sy'n cael ei fuddsoddi mewn trafnidiaeth hygyrch. Rwyf wedi sôn am ein cronfa mynediad i swyddi etholedig, ac rwyf hefyd wedi sôn am y ffyrdd y gallwn ni estyn allan i gefnogi pobl anabl drwy'r pandemig. Credaf fod ein hymrwymiadau i bobl anabl o ran y...

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl Anabl (30 Tach 2021)

Jane Hutt: Wel, hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd ers tro—ac rwyf wastad yn croesawu'r gwahoddiad i ddod, fel y gwyddoch chi, Mark, i gyfarfod â'r rhanddeiliaid, partneriaid a'r bobl anabl sy'n dod at ei gilydd pan fyddwch yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol hwnnw—a hefyd y ffaith eich bod yn codi'r materion hyn, ac maen nhw'n cael eu codi mewn ysbryd...

8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl Anabl (30 Tach 2021)

Jane Hutt: Diolch, Laura Anne Jones, ac rwyf wedi ymateb yn arbennig i'r materion sy'n ymwneud ag anghenion plant a theuluoedd a rhieni a gofalwyr plant awtistig. Mae'r cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth yn hanfodol i hynny, ond rwy'n credu bod yn rhaid diwallu llawer o anghenion plant anabl drwy gydweithio nid yn unig ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd, ond gyda byrddau...

8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd ( 1 Rha 2021)

Jane Hutt: Diolch, Lywydd, a hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n tynnu sylw at y lefelau cynyddol o ddyled aelwydydd yng Nghymru a amlinellwyd gan siaradwyr heddiw, a hefyd y camau rydym yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i liniaru peth o'r caledi difrifol sy'n wynebu pobl. Ac rwyf hefyd yn croesawu ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder...

8. Dadl Plaid Cymru: Dyled aelwydydd ( 1 Rha 2021)

Jane Hutt: Ac mae'n bwysig cydnabod na allwn fynd i'r afael â'r holl fesurau cyni a roddwyd ar waith gan Lywodraeth y DU. Ein huchelgais drwy'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf yw cefnogi'r aelwydydd a ddioddefodd ergyd i'w hincwm pan ddaeth Llywodraeth y DU â'u taliad ychwanegol o £20 ar eu credyd cynhwysol neu eu credyd treth gwaith i ben. Felly, rydym yn awyddus i gefnogi aelwydydd sy'n cael un o'r...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Jane Hutt: Dirprwy Lywydd, rwy'n gwybod y bydd fy natganiad heddiw ar y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn taro tant ar draws y Senedd. Roedd cefnogaeth bendant i ddelio â thrais yn erbyn menywod yn y Siambr hon dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, ac rwy'n falch iawn o hynny.

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Jane Hutt: Byddwch yn ymwybodol imi weithio yn y dyddiau cynnar o sefydlu llochesau Cymorth i Fenywod yng Nghymru, gyda grant cyntaf y Llywodraeth yng Nghymru i gydlynu rhwydwaith o ddarparwyr arbenigol a cheisio cefnogaeth ddeddfwriaethol i fynd i'r afael â chamddefnyddio pŵer a chasineb at fenywod sydd y tu ôl i lawer o'r trais y mae menywod yn ei wynebu. Ond mae gennyf gyfle nawr, yn Weinidog...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Jane Hutt: Cawsom ni i gyd ein syfrdanu gan ddigwyddiadau'r haf. Mae llofruddiaethau Sarah Everard, Sabina Nessa a Wenjing Lin wedi amlygu gwrywdod gwenwynig dychrynllyd a arweiniodd ddynion treisgar i'w llofruddio a'r pwyslais a osodir ar ymddygiad menywod yn hytrach nag ar y troseddwyr. Fodd bynnag, bu newid pwysig yn ymateb y cyhoedd i'r digwyddiadau hyn. Croesawais yr ymateb cyhoeddus a geisiodd...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, a diolch am eich cefnogaeth barhaus ers i chi chwarae'r rhan allweddol honno wrth i ni fynd drwy ddeddfwriaeth Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru. Ac ymgysylltu trawsbleidiol iawn a'n harweiniodd i'r Ddeddf holl bwysig honno, y cyntaf o'i math i fod ar y llyfr statud. Ac rwy'n falch eich bod wedi...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n falch iawn o gael y cwestiynau yna y prynhawn yma. Ac efallai i ddechrau ar y pwynt olaf hwnnw ynghylch sut yr ydym ni'n mynd i sicrhau bod hyn yn wahanol a bod hyn yn cael ei weithredu, rwy'n credu mai dyma pam y mae cynnig dull glasbrint, cryfhau'r llywodraethu, y cydweithrediad amlasiantaethol, yn enwedig gyda'r heddlu—. Gan ei bod yn gwbl glir, o...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Wel, fe wnaf ganolbwyntio ar y pwynt yna am blant. Rydym mewn gwirionedd yn chwilio am leisiau plant a phobl ifanc yn yr ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Mae gennym arolwg ar-lein wedi'i gynllunio, wedi'i dargedu'n benodol at blant a phobl ifanc, a Chomisiynydd Plant...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Laura Anne Jones, a diolch am ymateb mewn ffordd mor adeiladol a chadarnhaol i'm datganiad. Rwy'n falch eich bod wedi ailadrodd yr ystadegyn gwarthus hwnnw yn fy natganiad, y ffaith bod 115 o fenywod wedi'u lladd gan ddynion hyd yma eleni ac mai cam-drin domestig sy'n lladd y mwyaf o fenywod rhwng 19 a 44 oed yn y DU. Mae'n rhaid i ni ailadrodd yr ystadegyn hwnnw i'n hatgoffa...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i Sarah Murphy, a diolch i chi hefyd am dynnu sylw at yr arfer da iawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr gyda'r cynllun cyflawnwyr. Gan gydnabod pwysigrwydd—hynny yw, mae'n ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i gyflawni, bum mlynedd ar ôl i'r ddeddfwriaeth ddod i rym, ond gweithio mewn partneriaeth a chydnabod bod hyn yn rhywbeth sylfaenol o ran sut yr ydym yn mynd i'r afael...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cwestiynau yna, cwestiynau treiddgar. Mae'n mynd i fod, yn y strategaeth hon, fel y gwyddoch chi, rydym yn ymestyn cylch gwaith y strategaeth i gynnwys nid yn unig trais yn y cartref, ond trais ar y stryd, yn y gweithle, ac i edrych yn llawnach o lawer ar drais rhywiol a gwasanaethau trais rhywiol, a sicrhau, pan ddywedwn 'mynediad cyfartal', daw'n ôl at y...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Jane Hutt: A gaf ddiolch i Jack Sargeant am y datganiad pwysig iawn yna cyn ei gwestiwn? A dim ond dweud, rydych yn chwarae rhan mor bwysig, Jack Sargeant, heddiw wrth ofyn y cwestiwn a datgelu'r heriau yr ydych chi'n eu hwynebu drwy siarad, drwy beidio â chadw'n dawel, drwy fod yn llysgennad Rhuban Gwyn. Felly, rydych chi'n esiampl i eraill. Gall ein holl gyd-Aelodau gwrywaidd fod yn esiamplau yn hyn...

6. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ( 7 Rha 2021)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, James Evans. Dyma'r union beth sydd ei angen arnom, onid yw e, o ran yr ymateb i'r datganiad heddiw? Roeddech yn rymus iawn ar risiau'r Senedd pan sonioch chi am fod yn dad hefyd, a gwnaeth siaradwyr eraill—Rhun ap Iorwerth ac eraill, a Jack Sargeant—siarad mor rymus. Felly, rydych yn rhan o'r ateb, a diolch i chi am gefnogaeth eich plaid, gan fod gennym gytundeb...

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi bwyd ( 8 Rha 2021)

Jane Hutt: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw, sydd, wrth gwrs, yn gynnig y byddwn yn ei gefnogi, gan ein bod yn wynebu sefyllfa ddifrifol pan fo elusennau fel Ymddiriedolaeth Trussell wedi rhybuddio y bydd llawer o aelwydydd incwm isel yn wynebu dewisiadau llwm iawn iddynt eu hunain a'u teuluoedd y gaeaf hwn. Ac mae hynny wedi cael ei...

7. Dadl Plaid Cymru: Tlodi bwyd ( 8 Rha 2021)

Jane Hutt: Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei chynllun i ddileu'r cynnydd o £20 yn y credyd cynhwysol, rhaid imi ddweud mai Ymddiriedolaeth Trussell a ddarparodd ymchwil, gan arolygu pobl y byddai'r toriad arfaethedig hwnnw'n effeithio arnynt, ac fe wnaed y toriad wedyn. Dywedodd un o bob pedwar o bobl y byddai'n debygol iawn y byddai angen iddynt fynd heb brydau bwyd pe bai'r toriad i'r credyd...

9. Dadl Fer: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Cenfigen y byd? ( 8 Rha 2021)

Jane Hutt: Diolch, Lywydd, a hoffwn ddiolch i Rhys am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac rwy'n croesawu parhad y sgwrs rydym wedi bod yn ei chael yn y Senedd am y Ddeddf ar ddechrau'r tymor hwn. Ac roeddwn eisiau eich atgoffa, yn ystod seremoni agoriadol y chweched Senedd, ein bod wedi cael darlleniad o gerdd a gomisiynwyd yn arbennig, 'Ein Llais - Our Voice',...

9. Dadl Fer: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Cenfigen y byd? ( 8 Rha 2021)

Jane Hutt: Gadewch inni edrych ar nodweddion allweddol y Ddeddf: sefydlu comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol annibynnol i Gymru, pwerus o annibynnol a llais mor gryf, gan ddangos yr arweiniad roedd y Ddeddf honno ei angen gan ein comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i'n symud ymlaen i flynyddoedd cyntaf y Ddeddf, gyda'r dasg benodol o hyrwyddo'r egwyddor datblygu cynaliadwy a gweithredu fel gwarcheidwad...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.