Huw Irranca-Davies: [Yn parhau.]—sydd wedi newid i dair wythnos? A yw hi wedi ymgynghori â hwy?
Huw Irranca-Davies: A fyddai’r Prif Weinidog yn cydnabod pwysigrwydd parhaus eisteddfodau'r Urdd i’r iaith Gymraeg, ac a fyddai ef felly yn llongyfarch y bobl sy’n trefnu ac yn codi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd sir Pen-y-bont ym mis Mai a Mehefin eleni ar diroedd coleg Pencoed? Mae’n waith i lawer o wirfoddolwyr sy’n helpu i gadw’r iaith yn fyw ymysg ein pobl ifanc ac yn rhai o’r cymunedau lle...
Huw Irranca-Davies: A gaf i ofyn a ellir dod o hyd i amser ar gyfer ddatganiad am unrhyw drafodaethau gyda Gweinidogion y DU ar nifer yr eiddo sy'n cael eu heithrio o yswiriant rhag llifogydd yng Nghymru, ar ôl symud i'r cytundeb Flood Re gydag yswirwyr? Rwy’n gofyn hyn oherwydd yn dilyn y gorlif sydyn yn ddiweddar yn Ogwr, dechreuais sylweddoli bod eiddo o fewn 200m i afon yn aml yn cael eu heithrio o...
Huw Irranca-Davies: Nid wyf am oedi gyda’r materion ehangach a drafodwyd hyd syrffed yma heddiw. Mae rhai o'r gwahaniaethau barn wedi bod yn eithaf mawr. Rwyf am ganolbwyntio ar un man lle gellid cael mwy o gytundeb. Gan ddweud hynny, wrth agor y sylwadau hyn, a gaf i groesawu yma siarad pwyllog RT Davies yn hyn o beth? Wrth gyfeirio at bennod 7—sy’n trafod diwygio cyfansoddiadol ar ôl Brexit—mae'n...
Huw Irranca-Davies: Yn dilyn ymlaen o’r cwestiwn a gyflwynodd y mater, a gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymweliad y bore yma â meddygfa Tynycoed yn Sarn? Ac fe welodd frwdfrydedd ac arbenigedd ystod eang o weithwyr proffesiynol, ond nid yn unig y meddygon teulu, nid yn unig y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ond gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, pobl...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ofyn a wnewch chi ildio ai peidio?
Huw Irranca-Davies: Diolch i chi Julie am ildio. A gaf fi ddweud bod y ddadl heddiw, ond hefyd yr alwad am yr ymchwiliad cyhoeddus, yn cael cefnogaeth fy etholwyr yn Llanhari a hefyd ym Maesteg, y bûm yn ymwneud â hwy dros lawer iawn o flynyddoedd? Efallai y bydd hanes un o fy etholwyr o Lanhari yn tynnu sylw at ddisgrifiad yr Arglwydd Winston o hon fel y drychineb waethaf yn ymwneud â thriniaethau yn hanes y...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Roeddem ni’n falch iawn bod Charles Hendry wedi rhoi o’i amser i ymweld â'r Cynulliad yr wythnos diwethaf ac i friffio Aelodau’r Cynulliad—
Huw Irranca-Davies: Mae’n ddrwg gen i. [Chwerthin.]
Huw Irranca-Davies: 8. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael ynghylch Morlyn Llanw Bae Abertawe ers cyhoeddi adroddiad Hendry? OAQ(5)0409(FM)
Huw Irranca-Davies: Diolch am eich ‘patience’, Lywydd.
Huw Irranca-Davies: Charles Hendry—roeddem ni’n falch iawn ei fod yma yr wythnos diwethaf yn briffio Aelodau'r Cynulliad. Roedd yn gymeradwyaeth eglur a phendant i forlyn Abertawe fel prosiect braenaru, a dywedodd yn ei adroddiad, ac rwy'n dyfynnu, Tua 30c fesul cartref y flwyddyn dros y 30 mlynedd gyntaf fyddai costau prosiect braenaru. Deg ceiniog ar hugain. Byddai prosiect ar raddfa fawr yn llai na 50c...
Huw Irranca-Davies: Rwy’n croesawu’r ymateb cynhwysfawr y datganiad i adolygiad Hazelkorn, ond byddaf yn cyfyngu fy sylwadau i fater penodol ond—yn fy marn i—mater sy’n bwysig iawn. Mae Hazelkorn a’r datganiad hwn yn cydnabod bod yn rhaid cael ymdrech ar y cyd i gyflawni parch cydradd at lwybrau galwedigaethol ac academaidd. Credaf fod hyn yn golygu y bydd angen darparu cyngor, arweiniad a...
Huw Irranca-Davies: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Cartrefi Clyd? OAQ(5)0102(ERA)
Huw Irranca-Davies: Wel, croesawaf yr ymateb hwnnw, a bydd yn adeiladu ar y gwaith lle y gwnaed gwelliannau, yn ôl yr hyn a ddeallaf, i effeithlonrwydd ynni oddeutu 8,000 o gartrefi y llynedd o dan Nyth ac Arbed. Ac wrth gwrs, mae hyn yn cysylltu â thlodi tanwydd, ac roeddwn am ofyn hynny yn fy nghwestiwn atodol. Bydd Llywodraeth Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o ddatganiad Age Cymru ar dlodi...
Huw Irranca-Davies: 5. Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i helpu i fynd i'r afael â thrais domestig yn ystod pencampwriaeth rygbi y Chwe Gwlad a digwyddiadau chwaraeon mawr eraill? OAQ(5)0102(CC)
Huw Irranca-Davies: Rwy’n croesawu’r ymateb hwnnw. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, ceir tystiolaeth empirig gynyddol a damniol ac astudiaethau academaidd cymhwysol sy’n tynnu sylw at y cam-drin a’r trais domestig cynyddol sy’n gysylltiedig â digwyddiadau chwaraeon mawr, nid y chwe gwlad yn unig, ond rownd derfynol Super Bowl, pêl-droed Cwpan y Byd ac eraill. A dyna pam y cafwyd yr ymdrechion hyn...
Huw Irranca-Davies: Diolch am ildio, Mark. Rwy’n dweud hyn â phob rhesymoldeb: os, o'r ddau amcan hynny, yw’r un o geisio gosod cap ar fudo naill ai oddi mewn yr UE neu'n allanol yn gwrthdaro â'r syniad o ganfod a recriwtio’r bobl fedrus hynny a fydd yn gyrru ein heconomi, ein prifysgolion a’n swyddi, pa un sy’n cael blaenoriaeth? Oherwydd byddwn i’n meddwl bod hyd yn oed y Prif Weinidog yn dechrau...
Huw Irranca-Davies: Diolch. Diolch i chi am ildio. Ymddengys ei fod wedi darllen yn glir y bore yma y llw Hippocratic gwreiddiol, sy'n dweud, yn gyntaf oll, 'Na wna niwed'. [Chwerthin.]
Huw Irranca-Davies: Tybed a allwn ddod o hyd i amser i gael dadl neu ddatganiad ar y diwydiant adeiladu yng Nghymru, ac rwy’n tynnu sylw'r Aelodau at fy nghofrestr o fuddiannau—mae gan y ddau undeb yr wyf yn ymwneud â nhw fuddiannau ym maes adeiladu. Ond, yn dilyn y data diweddaraf gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, sy'n dangos y rhagwelir y bydd twf allbwn yng Nghymru yn gryfach nag yn unrhyw ran...