Alun Davies: Yn ôl y data diweddaraf ar gyfer Ionawr 2016, mae 8,804 o ddisgyblion 5 oed yn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae hyn felly yn chwarter yr holl ddisgyblion 5 oed.
Alun Davies: Lywydd, rwyf wedi dysgu drwy brofiad i beidio byth â herio Mike Hedges ar ei rifau. Gwneuthum hynny unwaith ac ni fyddaf yn gwneud hynny eto. Rwy’n cydnabod y rhifau y mae’n eu dyfynnu a’r pwynt ehangach wrth wraidd hynny. A gaf fi ddweud hyn? Ar hyn o bryd, rwy’n ystyried y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Nid yw pob un wedi dod i law eto gan awdurdodau lleol, a byddaf yn...
Alun Davies: Rwy’n credu y bydd un o’r atebion a roddodd Ysgrifennydd Cabinet yn gynharach am y math o system addysg y mae hi’n ceisio ei datblygu yng Nghymru ynddo’i hun yn sicrhau bod athrawon yn dymuno addysgu yng Nghymru ac yn canfod bod addysgu yng Nghymru yn opsiwn gyrfa deniadol iawn. Gwyddom fod oddeutu traean o holl athrawon Cymru yn siarad Cymraeg, felly mae rhywfaint o le i symud ar hyn...
Alun Davies: Mae rhai awdurdodau lleol yn dal yn ymgynghori ar eu cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg. Unwaith rwyf wedi eu derbyn nhw i gyd, byddaf yn gwneud datganiad ar y ffordd ymlaen. Fel rwyf wedi dweud yn barod y prynhawn yma, rydw i yn siomedig gyda diffyg uchelgais rhai ohonyn nhw.
Alun Davies: Rwy’n gobeithio na fydd hynny’n digwydd. A gaf i jest ddweud, beth ddywedais wrth ymateb i’ch cwestiwn chi a chwestiwn Mike Hedges yn flaenorol oedd bod rhai o’r cynlluniau wedi bod yn siomedig, nid nhw i gyd, ac mae’n bwysig cydnabod hynny? Pan mae’n dod i ddeddfu yn y dyfodol, mae gyda ni gytundeb ein bod yn mynd i ystyried ac ailedrych ar Fesur y Gymraeg, Mesur presennol y...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n ddiolchgar i’r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad ac at y ddadl y prynhawn yma. Mewn sawl ffordd, Ddirprwy Lywydd, rwy’n teimlo bod yr ymchwiliad yn enghraifft wych o’r Cynulliad a’r Llywodraeth: y tensiwn cywir sydd angen ei gael rhwng y ddau sefydliad, fel y cyfeiriwyd ato—y gwrthdaro achlysurol rhyngom i gyd—ond...
Alun Davies: Yn ffurfiol.
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n credu ei bod wedi bod yn ddadl ardderchog gyda llawer o dir cyffredin, er gwaethaf sylwadau braidd yn surbwch llefarydd y Ceidwadwyr wrth agor y ddadl. Hyderaf y bydd yn manteisio ar y cyfle wrth gloi i fyfyrio ymhellach efallai ar ei dôn wrth agor y ddadl. Yn sicr, mae’r ddadl wedi codi ymhell y tu hwnt i’r disgwyliadau a oedd gennym wrth...
Alun Davies: Os caf fi orffen y frawddeg. Ond rwy’n dymuno sicrhau ein bod yn gallu cyflwyno cyfoeth o gyfle i ddewis, ynghyd â rhagoriaeth o ran safonau, ac i wneud hynny yn ein dwy iaith genedlaethol. Fe ildiaf.
Alun Davies: Rwy’n meddwl bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dechrau yr wythnos diwethaf yn ei datganiad ar Hazelkorn, a oedd yn dynodi ffordd real, a gwahanol, a radical iawn o symud ymlaen. Ond gadewch i mi ymateb yn fwy dwys i’r ddadl yr ydym wedi’i chael. Clywsom gan Oscar a John fod addysg bellach yn cynnig cyfleoedd i bobl ac ail gyfle i gael addysg, ac rydym yn deall hynny, ac rydym yn...
Alun Davies: Ac rydym hefyd yn deall bod gwerth £3.5 biliwn o doriadau yn dal i ddod eto. Nawr, dylech allu cyfrif, fel y gallaf fi. Gadewch i mi orffen. Ni phrofaf amynedd y Dirprwy Lywydd ymhellach. Mae addysg bellach wedi cael ei thrawsnewid; mae wedi bod yn rhagweithiol wrth ddilyn agenda o newid radical. Mae’r Llywodraeth yn dymuno mynd ar drywydd yr agenda honno, sef parhau i feddwl mewn ffyrdd...
Alun Davies: We are using a variety of methods to promote Welsh-medium education and the opportunities it offers. Ensuring an increase in the number of children in Welsh-medium education in all parts of Wales will be vital if we are to achieve the aim of reaching a million Welsh speakers by 2050.
Alun Davies: Mae'n rhaid i'r aelod dros Gymru o fwrdd y BBC fod yn gwbl alluog i hyrwyddo anghenion amrywiol pobl Cymru. Nid oedd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cytuno ac ni allem gefnogi ei hargymhelliad. Roedd ymgeiswyr da ar gael. Gwrthododd yr Ysgrifennydd Gwladol eu trafod gyda mi.
Alun Davies: Lywydd, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ac â’r Aelodau led y Siambr gyfan fod dadlennu yn fwriadol enw unrhyw unigolyn sydd wedi gwneud cais am y swydd hon, fel a ddigwyddodd ddoe, yn destun gofid, ac mae'n gwbl groes i'r safonau yr ydym yn eu disgwyl gan y broses penodiadau cyhoeddus. Mae'n dresmasiad difrifol ar eu preifatrwydd personol. Ar yr un pryd, mae'n amlwg o adroddiadau yn...
Alun Davies: Ni fyddaf yn ymuno â'r Blaid Geidwadol y prynhawn yma i ladd ar unigolion sy'n ymgeisio am benodiadau cyhoeddus, ac ni fyddaf yn ymuno â'r Blaid Geidwadol i gyhuddo’r unigolion sy'n gwneud cais ac sydd â’r hawl i wneud hynny. Credaf fod gan bawb sy'n gwneud cais am benodiadau cyhoeddus yr hawl i ddisgwyl i'w cais aros yn gyfrinachol. Mae'n fater o gofnod fod ffynonellau o Lywodraeth...
Alun Davies: Mae'n amlwg, Lywydd, fod llawer iawn o bryder led y Siambr. Byddaf, felly, yn rhoi fy llythyr terfynol i'r Ysgrifennydd Gwladol, dyddiedig 7 Mawrth, yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol fel bod pob Aelod yn gallu dod i gasgliad ar hynny ac ar y broses sydd wedi ei dilyn. O ran y cwestiwn a ofynnwyd gan Bethan Jenkins a Lee Waters fel ei gilydd ar swyddogaeth y pwyllgor cyfathrebu, rwyf yn...
Alun Davies: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy gofnodi’n gyhoeddus fy niolch i’r awdurdodau lleol am eu gwaith ar gyfer cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg ar gyfer 2017-20? Dengys rhai o’r cynlluniau berchnogaeth ac ymrwymiad i’r iaith Gymraeg, ac mae hyn i’w groesawu. Fodd bynnag, mae angen i eraill ddangos mwy o gyfrifoldeb am dwf addysg cyfrwng Cymraeg. Nid yw...
Alun Davies: Rydym ni’n cydnabod mai addysg yw’r prif gyfrwng ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg newydd. Rydym ni eisoes yn gwybod bod ychydig o dan 9,000 o blant pum oed yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. Ni allwn ni fodloni ar hyn. Mae angen i Gymru fod â system addysg gynhwysol sy'n cynnal ac yn creu siaradwyr Cymraeg. Trwy greu galw am addysg cyfrwng Cymraeg, sicrhau bod mynediad...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i Darren Millar am ei eiriau caredig. Fel bob tro arall, mae wedi crwydro ymhell ac agos, gan ddefnyddio'r datganiad fel man cychwyn yn hytrach na fel diben y ddadl hon y prynhawn yma. Ond, gadewch i mi ddweud hyn, Darren: mae diffyg uchelgais yn rhai o'r cynlluniau hynny, rwy’n meddwl eich bod chi’n gwbl gywir yn hynny o beth. Mae'r heriau yr ydych chi wedi’u nodi yn...
Alun Davies: Lywydd, eto, liciwn i ddechrau drwy ddiolch i lefarydd Plaid Cymru am ei groeso ar gyfer y datganiad heddiw. Fe wna i ddechrau eich ateb chi drwy gytuno gyda’ch dadansoddiad cyntaf chi ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod nad yw hyn yn fusnes fel arfer a’n bod ni eisiau newid pethau. Rwy’n gobeithio, drwy osod targed uchelgeisiol megis miliwn o siaradwyr, ein bod ni’n newid y ffordd...