Lesley Griffiths: Roeddwn yn falch iawn o ymweld â Halen Môn dros yr haf; llwyddais i gynaeafu ychydig o halen môr fy hun mewn rhwyd wallt ddeniadol iawn, ond roedd yn wych gweld cwmni mor ardderchog, ac mae’r perchnogion mor llawn o egni. Unwaith eto, hwy oedd yn dweud wrthyf pa mor bwysig yw’r statws bwyd gwarchodedig iddynt hwy. Rwy’n hapus iawn i barhau i gefnogi’r cysyniad y cyfeiriwch ato....
Lesley Griffiths: Rwyf wedi cael cyfle i ymgyfarwyddo â gohebiaeth flaenorol. Rwyf hefyd wedi cael trafodaethau gyda swyddogion am y peth. Nid wyf wedi trafod y mater yn uniongyrchol gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ond mae fy swyddogion wedi gwneud hynny ac mae’n rhywbeth rydym yn edrych arno. Fe fyddwch yn gwybod hefyd fod fy rhagflaenydd wedi cyflwyno adolygiad o Hybu Cig Cymru, ac...
Lesley Griffiths: Ar 28 Gorffennaf, cyflwynais ddatganiad ysgrifenedig ar gyhoeddi cynllun gweithredu fframwaith Cymru ar iechyd a lles anifeiliaid 2016-17. Mae’r cynllun yn cynnwys blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf, a chamau gweithredu. Cytunwyd ar y rhain mewn partneriaeth â grŵp fframwaith Cymru ar iechyd a lles anifeiliaid.
Lesley Griffiths: I refer Members to the statement I sent to all Assembly Members yesterday concerning the consultation process on proposed measures to improve air quality across Wales. In parallel to this, my officials will continue to work closely with local authorities, industrial operators and regulators across Wales to improve air quality.
Lesley Griffiths: Mae’r ffigurau dros dro ar gyfer 2015-16 yn dangos bod Cymru wedi cyrraedd cyfradd ailgylchu o 60 y cant. Mae gennym y gyfradd ailgylchu uchaf ym Mhrydain, newyddion gwych yn ystod Wythnos Genedlaethol Ailgylchu. Mae’n dangos ymrwymiad ein cynghorau lleol a thrigolion Cymru, a pholisïau Llywodraeth Cymru.
Lesley Griffiths: I am working closely with the industry to develop a distinctly Welsh agricultural policy to ensure the long-term prosperity of Wales’s farming communities post exit. A series of workshops with a wide range of stakeholders have been held to consider the risks and opportunities as well as the way forward for Wales.
Lesley Griffiths: We are working to support the farming industry to become more profitable, sustainable, resilient, and professionally managed. Practical support is delivered through schemes such as Farming Connect, the rural development programme and Glastir. The strategic partnership group is currently developing a road map for agriculture to deliver our shared vision.
Lesley Griffiths: I welcome this report and the findings it contains. It provides five recommendations to further improve coastal policy and programme, all of which I have accepted. Work to address these is already ongoing through improvements to our project guidance and establishment of a new flood and coastal erosion committee.
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau wedi gweld o’r datganiad busnes diweddaraf, byddaf yn gwneud datganiad llafar ar ddull newydd o ddileu TB ar 18 Hydref. Felly, nid wyf yn bwriadu rhoi gormod o fanylion heddiw. Fodd bynnag, ers i mi ddod yn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ym mis Mai, rwyf wedi dweud yn glir iawn mai fy mwriad yw adnewyddu’r rhaglen TB yng...
Lesley Griffiths: Gwnaf.
Lesley Griffiths: Nid wyf wedi cael trafodaethau penodol gyda fy Ngweinidog cyfatebol, ond mae fy swyddogion yn gweithio’n agos iawn, ac fel y gwyddoch, mae’r prif swyddogion milfeddygol yn enwedig—y pedwar ohonynt ar draws y DU—yn cydweithio’n hynod o agos. Rydym yn awr mewn sefyllfa i nodi a chytuno ar dri chategori o ardal TB ledled Cymru, yn seiliedig ar lefelau digwyddiadau. Bydd hyn yn...
Lesley Griffiths: Gwnaf.
Lesley Griffiths: O ran y brechu, mewn ymateb i rywbeth a ddywedodd Neil Hamilton, roeddwn yn mynd i ddweud nad yw’r ffaith nad oes gennym gyflenwad o’r brechlyn yn golygu nad oes gennym bolisi—wrth gwrs fod gennym bolisi ac mae’r rhan fwyaf ohono’n ymwneud, yn briodol felly, â mesurau rheoli gwartheg. Nid wyf yn gwybod pa bêl risial sydd gan Neil Hamilton, ond nododd y dyddiad 2023 ac na fyddwn yn...
Lesley Griffiths: Yn ffurfiol.
Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy’n falch o ymateb i’r ddadl hon ar ran y Llywodraeth. Fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â’n hymrwymiad i ddarparu cymorth i sicrhau cymunedau gwledig llwyddiannus a chynaliadwy. Mae ein rhaglen datblygu gwledig yn cefnogi ystod eang o unigolion, busnesau, sefydliadau a chymunedau, gan gynnwys teuluoedd fferm a busnesau fferm. Mae’n...
Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno’r ddadl fer hon ac i Caroline Jones a Suzy Davies am eu cyfraniadau. Mae’r ffordd y mae cymdeithas yn rheoli gwastraff wedi newid yn sylweddol dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac mae hyn wedi creu goblygiadau i bobl, yr amgylchedd ac o ran rheoleiddio. Wrth i wastraff gael ei ddargyfeirio o safleoedd tirlenwi ac i...
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, ar 4 Hydref, rhoddwyd gwybod i Cyfoeth Naturiol Cymru am arllwysiad cerosin o'r biblinell wrth ochr yr A48 ger Nantycaws. Yn syth ar ôl y digwyddiad, defnyddiodd y gwasanaeth tân ac achub freichiau cyfyngu arllwysiad olew mewn argyfwng ar Nant Pibwr a sefydlodd Cyfoeth Naturiol Cymru ganolfan gydgysylltu aml-asiantaethol. Roedd contractwyr...
Lesley Griffiths: Diolch, Adam Price, am y cwestiynau yna. O ran y llinell amser, gallaf ddweud wrth yr Aelodau, ddydd Mawrth diwethaf—felly, 4 Hydref—cafodd Cyfoeth Naturiol Cymru yr alwad ffôn gyntaf gan Valero am 10:46 pan ddywedodd Valero eu bod yn rhoi gwybod eu hunain am ddifrod i biblinell cerosin a’i lleoliad. Roedd maint yr arllwysiad yn anhysbys ar y pryd, ac roedden nhw wedi cymeradwyo...
Lesley Griffiths: Diolch i chi, Joyce Watson, am y cwestiynau yna. Rwy'n falch iawn eich bod wedi cwrdd â Valero a dylwn i fod wedi dweud bod Valero a Cyfoeth Naturiol Cymru yn hapus iawn i gwrdd ag unrhyw Aelod o'r Cynulliad i drafod y mater hwn. Rydych chi'n hollol iawn, dylem hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r gwasanaethau brys am eu presenoldeb. O ran yr A48, fe wnes i ddweud fy mod i’n derbyn y...
Lesley Griffiths: Diolch i chi, Lywydd, ac rwy’n diolch i Angela Burns am y sylwadau yna ac yn sicr am y sylwadau am y tîm trefn rheoli arian. Rydych chi yn llygad eich lle: roedd yn dda iawn gweld pa mor dda y llwyddodd Cyfoeth Naturiol Cymru i gydgysylltu’r ymateb amlasiantaethol hwnnw, ac mae’r tîm trefn rheoli arian wedi cyfarfod yn ddyddiol ac maent wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi. Rwy'n...