David Rees: Weinidog, mewn rhyw fath o rôl wrthgyfatebol i fy nghyd-Aelod o Gastell-nedd, cyfarfûm yn ddiweddar â Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, ac roedd ganddynt raglen a oedd yn annog athrawon i fynd allan i’r gweithle er mwyn cynyddu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth ynglŷn â pheirianneg a meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, rhaglen y mae Sefydliad y Peirianwyr...
David Rees: Diolch i’r Aelod am yr ymyriad. Rwy’n derbyn ac yn cytuno bod nifer y gwelyau’n lleihau—fel rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn cydnabod, cawn wybod yn aml po fwyaf o welyau sydd gennych y mwyaf y byddwch yn eu llenwi. Ond hefyd mae yna gwestiwn difrifol ynglŷn â staffio a’r gofynion nyrsio i wneud yn siŵr fod gwelyau wedi’u staffio’n ddiogel. Mae honno’n broblem sy’n rhaid...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Diolch i chi, Llyr. A ydych hefyd yn cytuno nad ar gyfer gweithio’n unig y mae hyn; mae hefyd yn cynnwys agweddau ôl-ddoethurol, gan y bydd llawer o fyfyrwyr o dramor yn parhau â’u hastudiaethau yma drwy waith ôl-ddoethurol?
David Rees: Diolch i chi, Darren, am dderbyn yr ymyriad. Ond rydych hefyd yn cydnabod mai rhan o Horizon 2020 mewn gwirionedd oedd edrych ar sut y gallwn annog busnesau i fod yn rhan o’r proffil ymchwil, a sicrhau bod cydweithio’n digwydd ar draws y gwahanol wledydd, ac felly mae’r ffocws mewn gwirionedd ar fwy o gydweithio, yn enwedig gyda busnes y tro hwn.
David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych hefyd yn cytuno nad ar gyfer graddio a chael graddau’n unig y maent yn dod? Maent am fynd i mewn i’r meysydd ymchwil ar ôl hynny mewn gwirionedd. Felly, maent yn dod am eu bod yn gwybod bod yr ymchwil yno. Maent yn awyddus i barhau â’u hastudiaethau ar ôl graddio, a hyd yn oed ar ôl doethuriaeth, maent am barhau i weithio mewn ymchwil....
David Rees: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ag awdurdodau lleol ynghylch costau claddu plant?
David Rees: Pa gynnydd sy'n cael ei wneud ynghylch cyflwyno cwricwlwm gwyddor cyfrifiaduron newydd?
David Rees: Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Cefais gyfarfod gyda’r undebau llafur a’r gweithwyr dur yr wythnos diwethaf, unwaith eto, i drafod rhai o'r materion sy'n gysylltiedig â'r heriau sy'n eu hwynebu. Roedd y cynnig yn un o'r materion a gododd, a’r hyn a oedd yn eglur oedd y diffyg ffydd, fel yr wyf yn credu sydd wedi cael ei amlygu, yn Tata ei hun ar hyn o bryd. Rwyf wedi...
David Rees: Diolch i chi am yr ateb yna, er ei fod yn fyr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf wedi cwrdd â’r prif weithredwr ac aelodau o'r bwrdd ymddiriedolwyr ar sawl achlysur ers y cyhoeddiad i atal cyllid ar 12 Rhagfyr. Fy mhryderon i yw, efallai: beth oedd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn yr archwiliadau hyn ymlaen llaw? Rwy’n credu, fel yr amlygwyd, mai archwiliad Llywodraeth Cymru yw...
David Rees: A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion am strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth Cymru?
David Rees: Diolch i’r Aelod am ildio. Er eglurder yn unig, nid elw gros yw’r enillion cyn llog, treth, dibrisiant ac amorteiddiad mewn gwirionedd, ond elw costau gweithredol, yn yr ystyr mai’r hyn ydyw yw’r elw net yn ogystal â’r llog, y dreth, y dibrisiant, ac amorteiddiad. Felly, nid yr elw gros ydyw mewn gwirionedd.
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych yn siomedig felly, fel yr wyf fi, fod Llywodraeth y DU wedi oedi dros y cais i’r UE am gymorth gwladwriaethol mewn perthynas ag ymestyn y diwydiannau ynni-ddwys? Ond a ydych yn siomedig hefyd fod Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi gwrthod cais i ddod atom i siarad ag Aelodau yn y grŵp trawsbleidiol ar ddur ar y materion hyn ac a yw Llywodraeth...
David Rees: Mae’n wir.
David Rees: Diolch i’r Aelod am ganiatáu i mi ymyrryd. A ydych yn derbyn y ffaith—rydych yn siarad am y sioeau teithiol—fod cynrychiolwyr undebau llafur hefyd yn y sioeau teithiol hynny hefyd yn cyflwyno gwybodaeth i’r rhai sy’n eu mynychu? Felly, mae’r undebau llafur yn cyflwyno gwybodaeth i’r aelodau mewn gwirionedd os ydynt yn mynychu’r sioeau teithiol hefyd.
David Rees: A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddatgan fy mod yn aelod balch o Unite, un o’r undebau a gynrychiolir yn y gwaith dur, wrth gwrs, ynghyd â Community a GMB? Rwy’n gobeithio erbyn hyn y bydd yr Aelodau yn y Siambr yn ymwybodol o fy angerdd dros y diwydiant dur, fy nghred mewn dyfodol cryf, hyfyw, fy mharch tuag at y gweithwyr dur, a fy ymrwymiad llwyr iddynt hwy, eu teuluoedd a fy...
David Rees: Fe ildiaf, gwnaf.
David Rees: Rwy’n credu bod ail bwynt y cynnig mewn gwirionedd yn amlygu bod cydweithio’n bwysig. Mae pwynt cyntaf y cynnig yn dweud y dylai’r Llywodraeth gymryd lle’r undebau yn y trafodaethau. Felly, mae’n wahaniad—yn gymysgedd o’r ddau. Yn 2016, fe welsom Brexit, Trump a Rwsia sy’n fwyfwy rhyfelgar. Yn 2017, rydym eisoes yn gweld heriau gyda Tsieina a’r byd masnachu gan weinyddiaeth...
David Rees: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio ar y pwynt penodol hwn. Yr hyn sy’n bwysig, yn y cyfnod yn arwain at unrhyw bleidlais, yw hyder.