Suzy Davies: Mae pwynt 2 y cynnig yn tynnu sylw at deuluoedd cyn-filwyr, ac nid yw cefnogi cyn-filwyr yn dod i ben gydag ymyrraeth uniongyrchol. Efallai mai’r cymorth mwyaf effeithiol o’r cyfan yw cadw teulu gyda’i gilydd o amgylch aelodau o’r lluoedd arfog sy’n gwasanaethu, yn ogystal â chyn-filwyr sy’n arbennig o agored i niwed weithiau. Mae gwasanaeth unigolyn yn effeithio ar eu perthynas...
Suzy Davies: Na, rwyf wedi gorffen.
Suzy Davies: Mae’n ddrwg gennyf.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddiolch i Blaid Cymru hefyd am gyflwyno’r ddadl hon heddiw? Byddwn yn cefnogi’r cynnig, a byddem wedi bod yn fodlon cefnogi gwelliant y Llywodraeth hefyd, ond mae’n dileu pwynt 2. Nid wyf yn gweld pam na allai’r Llywodraeth dderbyn y pwynt, nodi’r rhesymau pam a chyferbynnu hynny gyda’r uchelgeisiau newydd ar gyfer eu strategaeth sydd ar ddod....
Suzy Davies: Gall y cynllun atgyfeirio ymarfer corff cenedlaethol helpu gydag adsefydlu pobl â COPD, yn ogystal, wrth gwrs, â phobl â phroblemau iechyd eraill. Ariennir y cynllun gan Lywodraeth Cymru, ond, serch hynny, mae awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru yn codi tâl am y gwasanaeth. Ceir mynediad at y cynllun trwy atgyfeiriad gan feddyg teulu ac, o gofio, yn amlwg, bod eich Llywodraeth yn...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog, ac am rywfaint o'r sicrwydd yr ydych chi newydd ei roi o ran cydbwysedd rhwng y rhywiau o ran y ffordd ymlaen. Roeddwn yn awyddus i gael gwybod ble y gallai sgiliau yn y Gymraeg ddod i mewn i'ch ystyriaethau yn y fan yma. Yn amlwg, bydd y gwasanaeth cynghori newydd yn lle priodol i nodi sgiliau Cymraeg cudd rhywun, ond byddai...
Suzy Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei werthusiad o weithio mewn partneriaeth o fewn Cymunedau yn Gyntaf? OAQ(5)0065(CC)
Suzy Davies: Diolch am hynny, Ysgrifennydd Cabinet. Nid oedd gweithgareddau Cymunedau’n Gyntaf yn boblogaidd gyda chynghorau tref neu gymuned bob tro, neu’n wir gyda rhai grwpiau lleol. Ac nid fi yw’r unig un a oedd yn clywed am actifyddion cymunedol, am danciau yn parcio ar lawntiau ac yn cymryd drosodd, ac yn y blaen. Nawr, nid oes dim ots gyda fi pwy sy’n gywir neu’n anghywir, ond rwy’n...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd, a chynigiaf gynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2017-18 a gofynnaf iddi gael ei hymgorffori yn y cynnig cyllideb blynyddol. Mae’r gyllideb hon ar gyfer 2017-18, ail flwyddyn y pumed Cynulliad hwn, ac yn y gyllideb, mae’r Comisiwn yn gofyn am £53.7 miliwn, sef cynnydd o 1 y cant uwchben chwyddiant o gymharu â’r flwyddyn hon. Mae’r gyllideb yn cynnwys tair rhan: £34.4...
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn, Simon Thomas a Jenny Rathbone. Rwyf am ddechrau gyda chwestiwn Jenny Rathbone, os caf. Yr hyn na allaf ei roi i chi heb edrych yn fwy manwl yw’r swm penodol rydym yn ei wario ar y cytundeb. Mae yn yr adroddiad, mewn gwirionedd, ond wrth gwrs, nid wyf wedi dod â hwnnw gyda mi. Ond gallaf yn sicr wneud yn siŵr eich bod yn cael nodyn ar hynny ar unwaith....
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw. Efallai y caf ddiolch hefyd i’r comisiynydd pobl hŷn. Yn bersonol, rwy’n dal i fod ychydig yn ddryslyd ynglŷn â’r syniad fod llunwyr polisi yn fy ystyried i’n berson hŷn, ac rwy’n wynebu’r demtasiwn y dylem ofyn efallai am symud y trothwy ychydig ymhellach i fyny, ond ar y llaw arall, mae’n ein...
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safbwynt presennol Llywodraeth Cymru o ran Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn?
Suzy Davies: Diolchaf i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn, oherwydd mae’n rhaid i mi gyfaddef, rwyf braidd yn amheus ynghylch y sylw a roddwyd i’m rhanbarth i yn ystod hyn i gyd—hyd yn oed y trydydd cam amhenodol hwnnw yr ydym ni’n siarad amdano, mewn nifer o flynyddoedd i ddod. Mae sôn am bethau fel bws cyflym i Borthcawl, yn hytrach nag unrhyw beth mwy integredig. Nid yw fy etholwyr i, gan...
Suzy Davies: Beth sydd a wnelo hynny â’m cwestiwn?
Suzy Davies: Tybed a allwch chi egluro hyn, oherwydd nid wyf yn credu eich bod mewn gwirionedd wedi ateb y cwestiwn y gofynnodd Bethan Jenkins i chi mewn modd yr wyf i’n ei ddeall. Ai staff asiantaeth yw'r rhain ai peidio? Oherwydd ymddengys bod David Rees yn awgrymu nad dyna ydyn nhw. Yn eich ateb gwreiddiol i ni, fe wnaethoch awgrymu mai dyna oedden nhw. Efallai mai staff asiantaeth ydyn nhw, ond...
Suzy Davies: Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd Iechyd, neu o bosibl gan Weinidog iechyd y cyhoedd, ar ddarparu diffibrilwyr sydd ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru. Yn benodol, hoffwn wybod am ymateb Cymru i’r fenter Ewropeaidd Diwrnod Restart a Heart a pha gymorth a chyngor y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei roi i gynghorau cymuned ar y dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw allu darparu...
Suzy Davies: Y mis diwethaf, setlodd cyngor Dinas a Sir Abertawe hawliad a gyflwynwyd gan 11 o’i therapyddion galwedigaethol a oedd yn dweud eu bod yn cael llai o gyflog na therapyddion galwedigaethol y GIG. Dywedodd Unsain bod therapyddion galwedigaethol ar draws llywodraeth leol Cymru, nid yn unig yn Abertawe, yn dioddef cyflog is ac yn cael llai o gyfleoedd datblygiad proffesiynol na’u cymheiriaid...
Suzy Davies: Rydym bob amser yn ceisio sicrhau bod unrhyw un sy’n dymuno ymyrryd yn gwneud hynny ar ei draed, ond rydym yn gwahodd trafodaeth fywiog yma hefyd. Rwy’n gobeithio na fydd neb yma yn mynd dros ben llestri yn y dyfodol.
Suzy Davies: Parhewch, os gwelwch yn dda.
Suzy Davies: A gawn ni beidio â chael rhagor o ymyriadau ar eich eistedd? Diolch.