Rhianon Passmore: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n rhoi pleser mawr i minnau hefyd siarad yn y ddadl hon. Mae’r economi sylfaenol, fel y mae Sefydliad Bevan yn dweud yn gywir, yn enw mawreddog ar y gweithgareddau busnes a ddefnyddiwn bob dydd ac a welwn o’n cwmpas. Efallai na fydd busnes fel y diwydiannau manwerthu, gofal, bwyd, iechyd ac ynni yng Nghymru sydd wedi cael eu crybwyll yn meddu ar apêl...
Rhianon Passmore: Mae’n ddrwg gennyf, nid oes gennyf amser. Rwy’n arbennig o bryderus nad yw pobl mewn gwaith yn ennill digon. Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon, roedd adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree ‘UK Poverty: Causes, costs and solutions’ yn bwysig a hefyd yn galondid. Rwy’n llwyr gefnogi’r alwad am gyflog ac amodau gwell. Fe allwn ac fe ddylem bwyso i gael y cyflog byw gwirfoddol wedi’i...
Rhianon Passmore: Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am roi cyfle i mi godi yn y ddadl hon i dynnu sylw at waith Llywodraeth Lafur Cymru mewn gwirionedd. Byddai’r un mor esgeulus ar fy rhan i ddechrau heb grybwyll ‘Spreadsheet Phil’ hyd yn oed ymhellach yn sgil cyhoeddiadau heddiw. Yr wythnos diwethaf, achosodd Canghellor Torïaidd Llywodraeth y DU lawer iawn o ddicter gydag un o’r enghreifftiau...
Rhianon Passmore: Ond a bod yn deg—rwy’n sylweddoli—fe ddywedodd Dave unwaith, i’r rhai sydd â chof hir heddiw, ‘Mae gormod o drydariadau’n gwneud—’. Ond a bod o ddifrif, torrodd y Ceidwadwyr, er gwaethaf y troeon pedol, addewid maniffesto penodol ac uniongyrchol a bradychodd 1.6 miliwn o bobl hunangyflogedig yn uniongyrchol. Mewn cyferbyniad, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyflawni ei...
Rhianon Passmore: Mae’n ddrwg gennyf, nid oes gennyf amser. [Yn parhau.]—ac wedi dweud mai’r Blaid Lafur Gymreig yw gwir blaid Cymru: ar eu hochr, gyda hwy ac yn sefyll drostynt. Ddirprwy Lywydd, deuthum i’r Cynulliad hwn o lywodraeth leol ac yng Nghymru, o dan Lafur, er gwaethaf toriadau grant bloc ar hyd y raddfa i Gymru, mae cyllid refeniw llywodraeth leol wedi cael ei ddiogelu, ar £4.114...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y bydd cyllideb atodol Llywodraeth Cymru o fudd i bobl Islwyn?
Rhianon Passmore: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod rhagor o fenywod yn cael swyddi'n ymwneud â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg?
Rhianon Passmore: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella addysg gychwynnol i athrawon?
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, yn Llandudno ddydd Sadwrn yng nghynhadledd Llafur Cymru, cyhoeddwyd tri mesur arwyddocaol gennych a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus. Bydd Wi-Fi am ddim ar bob trên ar fasnachfraint Cymru a'r gororau erbyn mis Medi eleni, bydd Wi-Fi am ddim yn cael ei gyflwyno mewn gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru, gan ddechrau gyda 50 o'r...
Rhianon Passmore: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi eich llongyfarch ar eich ymdrechion egnïol a rhagorol i sicrhau bod Cymru yn cael ei hyrwyddo mewn cynyrchiadau teledu a ffilm? Nodais â diddordeb y ffilm hyrwyddo a gyflwynwyd gan y seren Hollywood, Michael Sheen, sy’n cynnwys clipiau o rai o’r cynyrchiadau mawr diweddaraf i gael eu ffilmio yng Nghymru, ac sy’n hyrwyddo popeth sydd gan y wlad i’w...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, rydym ni’n canfod heddiw y bu cynnydd o 16 y cant i nifer y meddygon iau sy’n dewis dod i Gymru neu aros yma i hyfforddi i fod yn feddygon teulu. Ar draws GIG Cymru, mae amseroedd aros yn lleihau; mae amseroedd ymateb cyfartalog i alwadau brys yn llai na phum munud erbyn hyn; disgrifiwyd Cymru gan Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru fel un o arweinwyr y byd ym maes adsefydlu...
Rhianon Passmore: [Yn parhau.]—rhybuddion mawr oherwydd prinder gwelyau. Pa neges sydd gennych chi i’r dynion a'r menywod sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol ac wedi gorfod dioddef ymdrechion y Torïaid i bardduo GIG Cymru dros y blynyddoedd diwethaf?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: A ydych chi’n credu mai’r canlyniad tebygol i bobl y Deyrnas Unedig fydd treth tariff ar nwyddau?
Rhianon Passmore: Rwy’n falch o godi yn y ddadl bwysig hon a gyflwynwyd gan ein cyd-Aelodau Cynulliad. Mae pob un ohonom yma heddiw yn gwybod pa mor ddramatig yw’r newid i’n bywydau. Yn wir, ni fyddai neb yn synnu dim pe bawn yn dweud fy mod wedi ymweld ag archfarchnad y bore yma ac wedi talu am fy nwyddau wrth y cownter hunanwasanaeth, ac ni fyddai neb yn synnu dim pe bawn yn dweud fy mod wedi cael...
Rhianon Passmore: Ers i mi gael fy ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, cefais fy nghalonogi wrth weld y gwerthfawrogiad cynyddol o’r lle hwn i’r rôl ganolog y mae llywodraeth leol yn ei chwarae ym mywyd cyhoeddus Cymru. Pan oeddwn yn gynghorydd am bron i dri thymor, nid oedd yn ymddangos bob amser fod y Siambr hon yn deall cymhlethdodau bywyd ar lawr gwlad mewn cyfnod o doriadau enfawr mewn gwariant...
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr iawn. Ymyriad bach yn unig rwy’n meddwl: o ran y gwrthdaro a’r dryswch ymddangosiadol a geir yn eich polisi ar ddatgarboneiddio, a allwch egluro a yw UKIP o blaid ffracio ac ai dyna yw polisi eich plaid yng Nghymru?
Rhianon Passmore: Rwy’n codi yn y ddadl hon i siarad am un mater penodol, ond un pwysig y mae eraill wedi cyfeirio ato. Mae cynnig UKIP yn datgan, ac rwy’n dyfynnu, ‘na ddylai coed aeddfed gael eu torri er mwyn adeiladu ffermydd solar’ ac rwy’n falch iawn yn bersonol eu bod y tro hwn wedi darganfod mandad amgylcheddol ac eco-enaid. Rwy’n croesawu hynny. Ond Llywydd, mae’n amlwg, fel y gŵyr...
Rhianon Passmore: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod tirlun unigryw Cymru?