Mandy Jones: Diolch am yr ateb yna. Prif Weinidog, rydym ni'n dathlu 20 mlynedd o'r sefydliad hwn ar hyn o bryd gyda galwad eglur am fwy o Aelodau Cynulliad. Gwelaf fod gan yr Alban, â'i phoblogaeth o bron i 5.5 miliwn, lai o gynghorwyr na Chymru, gyda'n poblogaeth ni o ychydig dros 3 miliwn. Yn fy marn i, rydym ni wedi ein gorgynrychioli yng Nghymru. Prif Weinidog, sut gallwch chi gysoni'r alwad am...
Mandy Jones: Rwyf i yn dod i'r pwyllgor. Prif Weinidog, sut y gallwch chi gysoni'r alwad am ragor o ACau gyda'r cyhoedd sy'n talu trethi pan fo dim yn llythrennol yn cael ei wneud i leihau nifer y cynghorwyr ac awdurdodau lleol?
Mandy Jones: Weinidog, gyda’r gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr â'n cyrchfannau siopa yng Nghymru yn parhau i achosi cur pen i fanwerthwyr, a chyda lefelau siopau gwag ymhlith yr uchaf yn y DU, mae arnom angen gweithredu ar frys. Gallaf weld eich bod yn dilyn Llywodraeth yr Alban ar nifer o bethau, ac mae ymgyrchwyr yn fy ardal wedi cysylltu â mi gydag enghraifft Llywodraeth yr Alban, sydd wedi cyflwyno...
Mandy Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Angela, Croeso'n ôl hefyd. Rydym ni wedi gweld eich eisiau. Mae'n wych eich gweld chi. Gweinidog, rydym yn haeddiannol falch o'r GIG. Mae llawer o wledydd eraill yn eiddigeddus ohonom gan fod gennym ni wasanaeth iechyd sydd am ddim. Mae'n flin gennyf i sefyll yma heddiw unwaith eto yn gwrando ar ddatganiad gan y Gweinidog sydd â'r cyfrifoldeb pennaf i oruchwylio...
Mandy Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu polisi amaethyddol ar gyfer Gogledd Cymru?
Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniadau canser y coluddyn yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: Weinidog, mae busnesau bach mewn cymunedau gwledig yng ngogledd Cymru'n chwarae rhan bwysig yn natblygiad economaidd y rhanbarth. Un mater sy'n cael ei ddwyn i fy sylw yn rheolaidd gan fusnesau bach a chanolig yw symud taliadau a thrafodion ar-lein—nad yw'r cysylltiad â'r rhyngrwyd yn ddigonol. A allwch sicrhau fy etholwyr y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i'r rhyngrwyd a band...
Mandy Jones: Gwnsler Cyffredinol, yn ôl y newyddion ddoe, mae Comisiwn yr UE yn gweithio ar gynllun i ddefnyddio datrysiadau TG i helpu nwyddau i groesi'r ffin Wyddelig ar ôl Brexit. Rhoddodd Llywodraeth Ffrainc gynlluniau tebyg ar waith yn Calais. Yn wir, cyn belled yn ôl â 2016, lluniodd Senedd yr UE ei hun adroddiad a ddangosai sut y gellir defnyddio ffin glyfar rhwng yr UE a'r DU. Pa asesiadau y...
Mandy Jones: Ni fyddai unrhyw berson rhesymol yn anghytuno â'r cynnig hwn nac ag unrhyw un o'r gwelliannau a gyflwynwyd heddiw. Rwy'n falch o'r camau sydd eisoes wedi'u cymryd i leihau'r defnydd o blastig yn ein deunyddiau traul. Torrodd y tâl am fagiau siopa yng Nghymru dir newydd ac mae wedi cael effaith wirioneddol ar y defnydd o'r bagiau hyn. Mae wedi newid ymddygiad, a gwelwn dystiolaeth o hyn pan...
Mandy Jones: I barhau gyda'r cynllun hwnnw, Weinidog, gallaf weld o'r penawdau ddoe am yr Is-Bennaeth yn ymweld â Chymru, ac mae lle i agor ein marchnad gig eidion i Tsieina, fel y mae Andrew R.T. newydd ei ddweud. A allwch roi syniad inni o natur unrhyw sgyrsiau a gawsoch gydag ef o'r blaen, a sut y byddwch yn helpu sector cig eidion Cymru i baratoi i fanteisio ar y cyfleoedd hyn?
Mandy Jones: Nid yn unig ar gyfer pobl ond ar gyfer anifeiliaid hefyd, os gwelwch yn dda. Ar wahân i weithredu fel ffiniau a chadw anifeiliaid y tu mewn i gaeau, mae'r gwrychoedd yn gynefin pwysig i amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion. Wrth i goetiroedd gael eu dinistrio dros y blynyddoedd, mae llawer o'r bywyd gwyllt ynddynt wedi addasu i fyw o dan berthi ac mewn gwrychoedd. A wnaiff y Gweinidog...
Mandy Jones: Weinidog, mae cryfder y teimlad ynglŷn â’r mater hwn yn amlwg yn ôl faint o ohebiaeth y mae pawb ohonom wedi’i chael, rwy'n siŵr, a'r ffaith bod ein pobl ifanc yn cael eu cymell i fynd ar streic a bod Extinction Rebellion wedi meddiannu rhannau o Lundain yn ddiweddar ac yn bygwth cau meysydd awyr mawr trwy ddulliau teg neu fel arall. Ymddengys i mi fod Llywodraeth Cymru wedi cyfleu...
Mandy Jones: Cyn imi ddechrau fy nghyfraniad, hoffwn ofyn am y parch rwy'n ei haeddu fel un o'ch cymheiriaid hefyd. Rwy'n ystyried bod heclo a beirniadaeth—a ddaw i raddau helaeth o gyfeiriad y meinciau Llafur—yn blentynnaidd ac yn aflonyddgar. Yn yr ysbryd hwnnw o barch cydradd y gwnaf y sylwadau hyn. Nid wyf yn meddwl y byddai unrhyw un yn y DU neu sy'n gwylio ffiasgo Brexit o'r tu allan yn...
Mandy Jones: Mae'r rhan fwyaf o dyddynnod yn fusnesau sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd, sydd angen ategu eu hincwm gyda ffynonellau eraill fel twristiaeth. Maen nhw'n gwneud cyfraniad mawr at ein heconomïau gwledig. Maen nhw hefyd yn tueddu i werthu'n lleol, gan leihau milltiroedd bwyd a bod yn llesol i'n hamgylchedd. Yn fy marn i, mae cyflenwi a bwyta bwyd cartref yn nes at adref yn gwneud synnwyr...
Mandy Jones: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd y cynllun buddsoddi i arbed? OAQ54110
Mandy Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Sylwaf fod y cynllun buddsoddi i arbed wedi buddsoddi tua £174 miliwn ers 2009. Sylwaf hefyd fod Betsi Cadwaladr yn derbyn dros £3 miliwn ar hyn o bryd. O ystyried bod buddsoddi i arbed yn fenthyciad di-log ac yn ad-daladwy, a chan fod ein gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn wynebu trafferthion ariannol, sut ydych chi'n sicrhau bod y symiau sy'n ddyledus yn cael...
Mandy Jones: Rydym ni'n croesawu'r datganiad hwn a wnaed yma heddiw. Yn amlwg, mae angen i bethau newid. Fel y dywedwyd mewn datganiadau eraill o'r blaen, mae'n ymddangos bod nifer y plant dan oruchwyliaeth awdurdodau lleol yn codi bob blwyddyn, a hoffwn i wybod beth, yn eich barn chi, yw'r rhesymau am y cynnydd hwn sy'n peri pryder. Rydych chi eisoes wedi nodi cyni a thlodi, ond mae llawer, llawer o...
Mandy Jones: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at addysg yng Ngogledd Cymru?
Mandy Jones: Prif Weinidog, rwy'n arbennig o bryderus ynghylch cyflenwi cyffuriau a meddyginiaeth i'r rhai hynny fydd eu hangen ar ôl Brexit. [Torri ar draws.] Sut yr oeddwn i'n gwybod y byddech chi i gyd—?
Mandy Jones: Diolch. Mae'n ymddangos bod honiadau, gwrth-honiadau a honiadau eto ynghylch diogelwch cyflenwadau. A allwch chi dawelu'r ofnau, yr ofnau gwirioneddol sydd gan lawer o etholwyr oherwydd yr holl bethau hyn y mae pobl yn eu dweud o hyd, a chadarnhau bod eich Llywodraeth chi wedi sicrhau'r feddyginiaeth sydd ei hangen arni i gadw GIG Cymru yn gweithio, gan liniaru'r holl straen y mae pobl yn...