Sam Rowlands: Diolch am y cyfraniad, Mike Hedges. Rwy'n credu bod yr hyn yr ydych chi'n cyfeirio ato yn amlwg yn awydd i drethu rhai ardaloedd yn llawer mwy sylweddol nag eraill. Wrth gwrs, yr hyn y mae angen i ni ei weld yw setliad teg er budd trigolion ledled Cymru. Mae'r gwahaniaeth hwnnw i mi yn gyfle nad ymdriniwyd ag ef. Rwyf i hefyd yn siomedig o weld nad oes unrhyw sôn o hyd gan Lywodraeth Cymru...
Sam Rowlands: 8. Sut y mae'r Gweinidog yn defnyddio mesurau trawsbynciol i hyrwyddo ffyniant yng Ngogledd Cymru? OQ57615
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi mai un o'r ffyrdd gorau o drechu tlodi yw hyrwyddo ffyniant, ac un o'r ffyrdd gorau o godi allan o dlodi yw bod mewn swydd dda a diogel ac i fusnesau ffynnu er mwyn caniatáu i hynny ddigwydd. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol mai peth o fy hoff ddeunydd darllen amser gwely yw'r cytundeb...
Sam Rowlands: Diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno'r ddadl bwysig iawn hon a chaniatáu i mi siarad. Mae'n wych bod yma i glywed trafodaeth ar fater cyfleusterau chwaraeon yn ein cymunedau gwledig. Fel yr amlinellwyd hyd yma yn y ddadl, mae chwaraeon mor hanfodol i gymunedau gwledig, yn enwedig ar lawr gwlad, gan gynnwys y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli yng ngogledd Cymru, a gwyddom fod chwaraeon yn...
Sam Rowlands: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw a'r rheoliadau sydd wedi'u nodi ger ein bron hefyd. Fel y gŵyr y Gweinidog, rwy'n siŵr, ac mae llawer o bobl yn ymwybodol o hyn, rwy'n ddilynwr brwd o gyd-bwyllgorau corfforedig. Roeddwn yn llawn chwilfrydedd o'u gweld ar y papur gorchymyn yma heddiw. Fel yr ydych chi wedi'i amlinellu, Gweinidog, mae swyddogaethau allweddol cyd-bwyllgor...
Sam Rowlands: Diolch i’r Aelod am gyflwyno'r cwestiwn heddiw. Rwy’n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno, ac yn cydnabod efallai, fod y ffaith bod Parc Bryn Cegin yn dal i fod yn wag ar ôl 20 mlynedd yn destun pryder mawr. Ac rwy’n derbyn y sylwadau rydych wedi’u gwneud ar ddatblygiadau yn y dyfodol, ond rydym wedi cael 20 mlynedd o gyfleoedd a gollwyd, efallai, i gael swyddi o safon ym Mangor ac ar...
Sam Rowlands: Diolch, Rhys. Ar y pwyntiau ynglŷn â'r Alban a chyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, roeddech yn iawn i dynnu sylw at y newid mewn seddi diymgeisydd. Ond hefyd, ers cyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, mae'r ganran sy'n pleidleisio wedi bod yn sylweddol is. Felly, yn y ddwy flynedd cyn y bleidlais sengl drosglwyddadwy, roedd oddeutu 54 y cant yn pleidleisio, ac ers hynny, mae...
Sam Rowlands: Diolch i Rhys ab Owen am gyflwyno'r ddadl Aelodau heddiw, a hefyd i Llyr Gruffydd a Jane Dodds am ei chyd-gyflwyno. Byddai'n well imi ddatgan buddiant yn awr fel cynghorydd sir presennol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Fel y gŵyr llawer o'r Aelodau, rwy’n frwd fy nghefnogaeth i lywodraeth leol, ac rwy’n falch iawn fod y maes pwysig hwn wedi’i godi yn y Senedd yma heddiw. A bod yn...
Sam Rowlands: Fe dderbyniaf ymyriad, Lywydd, os oes ganddo ddiddordeb.
Sam Rowlands: Mae’n gyd-ddigwyddiad rhyfedd iawn, os felly, Lywydd, cyd-ddigwyddiad rhyfedd iawn fod y ganran sy'n pleidleisio wedi gostwng yn ddramatig ar yr adeg honno. O ran mynd i'r afael â seddi diymgeisydd, sy’n rhan bwysig o’r cynnig hyd y gwelaf, ac sy'n sicr yn rhywbeth y credaf fod angen mynd i’r afael ag ef, credaf mai fy mhryder mwyaf gyda’r cynnig heddiw yw ei fod yn ymddangos fel...
Sam Rowlands: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Sam Rowlands: Diolch. Ar y pwyntiau yr ydych newydd eu codi am yr ymgynghoriad hwnnw, gwnaeth Mike Hedges rai pwyntiau pwysig iawn ynghylch pa mor denau eu poblogaeth y gallai rhai o'r ardaloedd hyn fod, ac felly'r risg, gyda chynrychiolaeth gyfrannol, o golli'r cyffyrddiad lleol hwnnw, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'n ardal mor fawr ei chwmpas, ac mae hanfodion cynghorau a chynghorwyr mewn gwirionedd yn...
Sam Rowlands: Yn bendant. Mae'n bendant yn risg, ydy.
Sam Rowlands: Mae'n ddrwg gennyf am ymyrryd eto, ond rwyf am fod yn glir: roedd y niferoedd a rannais ar gyfer cyfnod o bedair blynedd. Nid oeddwn yn dewis blynyddoedd unigol. Felly, y gwahaniaeth rhwng y ddwy flynedd flaenorol, neu'r ddau etholiad cynt a'r ddau etholiad wedyn oedd y niferoedd y dyfynnais 8 y cant ar eu cyfer.
Sam Rowlands: Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n falch iawn o wneud y cynnig a gyflwynwyd heddiw yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar, ynghylch ariannu llywodraeth leol. Unwaith eto, rwy'n datgan buddiant fel aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd. Fel y mae dechrau'r cynnig hwn yn ei nodi, ac fel y soniais dro ar ôl tro yn y Siambr hon, ac mae'n rhywbeth y byddaf yn parhau i'w godi, drwy...
Sam Rowlands: Fel y gŵyr yr Aelodau, mae'r fformiwla ariannu llywodraeth leol y cyfrannu oddeutu 70 y cant o allu cyngor i wario ar eu gwasanaethau a'u darparu, sy'n golygu bod yr arian hwn yn pennu'r rhan fwyaf o'r hyn y gall cynghorau ei gyflawni. Fel yr amlinellwyd yng ngwelliant y Llywodraeth heddiw, ac fel rwy'n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau ar feinciau Llafur yma am ei nodi, rwy'n derbyn y bydd y...
Sam Rowlands: A gaf fi wneud ymyriad byr yma? Diolch. Fe ddywedoch chi fod y fformiwla'n cael ei gyrru gan ddata. A fyddech yn derbyn, er hynny, fel y dywedais, fod rhai o'r pwyntiau data—cryn dipyn o'r pwyntiau data mewn gwirionedd—yn amlwg wedi dyddio cryn dipyn? Ac mewn gwirionedd, mae angen gwneud rhywfaint o waith o leiaf i sicrhau bod y data a ddefnyddiwch, ac y mae'r Llywodraeth yn ei...
Sam Rowlands: Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch swyddogaeth y gwasanaeth tân yn y gogledd ac yng Nghymru yn ehangach yn y dyfodol. Fel rhywun sydd â brawd yng nghyfraith yn ddiffoddwr tân, rwy'n ymwybodol o'r gwaith eithriadol y mae'r gwasanaeth tân yn ei wneud yn ein cymunedau. Rwyf i hefyd yn ymwybodol o rai o'r heriau sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd. Yn...
Sam Rowlands: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am gyflwyno datganiad pwysig heddiw—un y mae gennyf i, wrth gwrs, ddiddordeb mawr ynddo, sydd â'r tri phlentyn gorau yng Nghymru, yr wyf i'n dad iddyn nhw. Fel roeddech chi'n sôn, Dirprwy Weinidog, yn eich datganiad, mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn dymuno'r gorau i blant Cymru. Fe fyddai Aelodau ar draws y Siambr yn sicr yn cytuno...
Sam Rowlands: —er mwyn i chi glywed llais y rhieni. Felly—. Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe ofynnaf i gwestiwn. Sut ydych chi am sicrhau, yn eich cynllun, na chaiff swyddogaeth y rhieni ei diystyru, a pha gamau penodol y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod llais y rhieni yn flaenllaw yn eich cynlluniau chi?