Jack Sargeant: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau iechyd yng Nghymru?
Jack Sargeant: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc sy'n profi trais mewn perthynas? 369
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Mae trais mewn perthynas yn fater iechyd cyhoeddus difrifol ymhlith plant a phobl ifanc. Cynhaliodd Prifysgol Caerdydd ymchwil helaeth i'r mater hwn yn ddiweddar, a chanfuwyd bod bylchau yn y cymorth. Ddirprwy Weinidog, os nad ydym yn mynd i'r afael â'r mater hwn, gallai cenedlaethau'r dyfodol syrthio drwy'r bwlch rhwng cymorth trais yn y cartref a...
Jack Sargeant: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i rai sy'n cysgu ar y stryd yn Sir y Fflint? OAQ54805
Jack Sargeant: Diolch, Prif Weinidog. Soniasoch yn eich ymateb am effaith cyni cyllidol, ac mae hyn yn digwydd ar bob un stryd fawr erbyn hyn. Nid problem mewn dinasoedd mawr yn unig yw hon erbyn hyn. Mae pobl wedi bod yn cysgu ar y strydoedd mewn trefi fel Cei Connah a Shotton, am y tro cyntaf yn fy nghof i. Nawr, mae'n bosibl iawn y gallai pethau fynd yn drech na chynghorau fel Sir y Fflint y gaeaf hwn,...
Jack Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi economi gogledd-ddwyrain Cymru?
Jack Sargeant: Weinidog, yn dilyn cwestiwn diweddar a ofynnais i'r Prif Weinidog, fe fyddwch yn gwybod ein bod bellach yn gweld pobl yn cysgu allan yn ein holl gymunedau, fel Cei Connah a Shotton yn fy etholaeth. Nawr, mae'n rhaid i mi ddweud, Weinidog, mai naw mlynedd o gyni Torïaidd, wedi'i dargedu'n fwriadol at y tlotaf a'r mwyaf agored i niwed, sydd wedi dod â ni at y pwynt hwn. Heb do uwch eu pennau,...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn caniatáu i mi siarad y prynhawn yma, ac ni fyddaf yn cymryd gormod o'ch amser, oherwydd rwy'n credu bod yr Aelodau wedi dweud y sylwadau'n briodol, ond yn benodol fe ganolbwyntiaf ar argymhellion 13 a 14 ynghylch banciau cymunedol. Bydd y Gweinidog yn gwybod, fel y mae'r Prif Weinidog, fy mod wedi bod yn gweithio'n galed i geisio dod â...
Jack Sargeant: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid a ddarperir ar gyfer Cyngor Sir y Fflint?
Jack Sargeant: 9. Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael i'r portffolio Tai a Llywodraeth Leol yn ystod y cylch cyllideb cyfredol i gefnogi Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru? OAQ54868
Jack Sargeant: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae'r grant cymorth tai yn un o'r amddiffyniadau gorau sydd gennym yn erbyn yr anhrefn parhaus a achosir gan gyni Torïaidd. Gellir gweld canlyniad blynyddoedd o ddihidrwydd Llywodraeth y DU ynghylch effaith eu polisïau lles ar ein strydoedd: lefelau cywilyddus o gysgu allan ledled y DU, nid yn unig yn ein dinasoedd, ond ym mhob un o'n cymunedau. Weinidog, mae...
Jack Sargeant: 1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gyfranogiad yn y cynllun achredu Rhuban Gwyn? OAQ54867
Jack Sargeant: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, ac rwy'n eich canmol am eich gwaith caled dros y blynyddoedd lawer, ers 2007—mae wedi bod yn allweddol yn y gwaith o godi proffil yr ymgyrch yma yng Nghymru, a chefais y fraint o siarad yn y digwyddiad y buoch yn helpu i'w gynnal yn y Senedd y llynedd. Fel y gwyddoch, fel y gŵyr yr Aelodau, yn dilyn marwolaeth drasig fy nhad, rwyf wedi ymrwymo i barhau â'i...
Jack Sargeant: Weinidog, mae dyfodol y gweithfeydd ym Mhort Talbot ac yn Shotton yn gysylltiedig drwy'r gadwyn gynhyrchu, ac rwy'n sefyll yn gadarn gyda fy nghyd-Aelod, David Rees, yn fy nghefnogaeth i'r gweithlu ym Mhort Talbot a'r gweithwyr dur ledled Cymru. Mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru bob amser wedi cefnogi'r diwydiant dur, ac unwaith eto rhaid inni ddangos pa mor bwysig ydyw i Gymru. Nawr,...
Jack Sargeant: Gweinidog, rwy'n croesawu eich datganiad yn fawr. Mae eich uchelgais a'ch penderfyniad i godi proffil rhyngwladol Cymru yn ysbrydoledig ac mae mawr angen amdano. Rydych wedi sôn yn eich datganiad pa mor bwysig y gall chwaraeon fod o ran hyrwyddo brand Cymru. Fel y gwyddoch chi, rwy'n gefnogwr mawr, fel y Llywydd, o Uwch Gynghrair Cymru, sef Nomadiaid Cei Conna yn fy achos i, ac Aberystwyth...
Jack Sargeant: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu?
Jack Sargeant: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad gan Mondi ynghylch colledion swyddi ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint? 380
Jack Sargeant: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae hwn, wrth gwrs, yn gyfnod anodd tu hwnt i'r unigolion, eu teuluoedd a'r gymuned gyfan yng Nglannau Dyfrdwy, ac mae'n bwysig yn awr ein bod yn gwneud popeth a allwn i gefnogi'r gweithlu. Weinidog, fe sonioch chi eich bod yn cyfathrebu â Mondi. A allwch gadarnhau eich bod hefyd yn cyfathrebu â'r undebau llafur perthnasol? Yn ail, pa gefnogaeth y gellir ei...
Jack Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yng ngwasanaeth iechyd Cymru?
Jack Sargeant: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod?