Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'i saith nod llesiant, mae gennym ni fframwaith ar gyfer dyfodol Cymru: Cymru gyfiawn yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, a Chymru y byddem ni'n dymuno ei rhoi yn etifeddiaeth i'n plant a'n hwyrion. Mae gan bob un ohonom ni ran mewn amddiffyn a gwella ein cenedl. Elfen bwysig o hynny yw ystyried sut yr...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i chi, Joel, a diolch i chi am eich dymuniadau da. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhoi pam yr ydym ni'n datblygu'r cerrig milltir cenedlaethol hyn yn ei gyd-destun. Maen nhw'n pennu ein disgwyliadau o ran cynnydd yn ôl y dangosyddion cenedlaethol, ac maen nhw yn ein helpu i ddeall maint a chyflymder presennol y newid, ac a ydym ni ar y trywydd iawn....
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams. Diolch i chi am y gefnogaeth i'r rhaglen uchelgeisiol iawn hon, i sicrhau ein bod ni yn bwrw ymlaen â hyn o ran y weledigaeth sydd gennym ni o Gymru decach, fwy cyfiawn a gwyrddach. Oherwydd bod hyn yn ymwneud â chenedlaethau'r dyfodol. Yn wir, mae datganiad heddiw yn arwyddocaol iawn. Dyma'r cerrig milltir cenedlaethol cyntaf erioed yr ydym ni'n adrodd...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Vikki Howells. Oes, mae yna gyfleoedd pwysig iawn, o ran y cerrig milltir cenedlaethol hyn, i sicrhau bod gennym ni lawer mwy o degwch o ran y gallu i ennill cymwysterau a chyflogaeth. Bydd saith deg pump y cant o oedolion o oedran gweithio yn gymwys hyd at lefel 3 neu uwch erbyn 2050, gan ein bod ni'n gwybod, gyda chymwysterau lefel uwch, fod rhywun yn llawer mwy tebygol...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Ydy, mae 2050 yn teimlo'n bell i ffwrdd, ond mewn gwirionedd yr hyn sydd mor bwysig yw beth rydym ni'n ei wneud o flwyddyn i flwyddyn, a sut rydym ni'n cael ein dwyn i gyfrif a sut y gallwn ni ddefnyddio'r cerrig milltir cenedlaethol a'r dangosyddion cenedlaethol i olrhain cynnydd. Dyna pam mae gennym ni sail statudol i hyn. Byddwn i'n annog...
Jane Hutt: Rydym wedi darparu dros £40 miliwn mewn cyllid ychwanegol i sefydliadau’r sector gwirfoddol ers dechrau’r pandemig. Ac mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu cyllid craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chynghorau gwirfoddol sirol i’w galluogi i gefnogi sefydliadau gwirfoddol lleol a grwpiau gwirfoddol ledled Cymru.
Jane Hutt: Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn pwysig iawn, oherwydd rydym wedi gweld, fel y dywedoch chi, Peter Fox, drwy gydol y pandemig, y sector gwirfoddol cryf ac annibynnol hwnnw sy’n hollbwysig i les Cymru a’n cymunedau, a'r diwylliant o wirfoddoli yn dod i'r amlwg wrth i gymaint o bobl fynd ati i gynorthwyo pobl, cymdogion a chymunedau. Felly, i gadarnhau, y llynedd, fe wnaethom...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Rhys ab Owen. Mae hynny’n rhan hollbwysig o’r ffordd rydym yn gweithio gyda’r sector gwirfoddol. A dweud y gwir, buom yn arloesol wrth ddatblygu cynllun partneriaeth y sector gwirfoddol, sy'n golygu bod pob sector, gan gynnwys y sector iechyd a gofal cymdeithasol, yn cyfarfod â Gweinidogion, yn cyfarfod â’r Gweinidogion iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, i drafod y...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Buffy Williams. Ac a gaf fi dalu teyrnged i bob un o'r gwirfoddolwyr yn eich cymuned, a ledled Cymru gyfan, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn ystod y pandemig, ond sydd wedi gwneud hynny erioed, fel anadl einioes ein cymunedau? Felly, hoffwn roi sicrwydd i chi fod swyddogion yn gweithio gyda chyllidwyr, gan gynnwys fforwm cyllidwyr Cymru, sy’n fforwm pwysig i ddod...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Mark Isherwood. Roeddwn yn bresennol yng nghyfarfod diweddaraf y grŵp trawsbleidiol rydych yn ei gadeirio—rwyf wedi bod mewn mwy nag un—ac roedd yn dda iawn eich gweld yn ôl yn y swydd honno. A gaf fi gadarnhau ei bod wedi bod yn hanfodol imi ymgysylltu drwy gyfnod y pandemig gan fy mod yn cadeirio’r fforwm cydraddoldeb i bobl anabl? A dweud y...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn dilynol, a dylwn ddweud yr hoffwn sicrhau bod yr adroddiad hwn a gyflwynwyd drwy ein tasglu hawliau anabledd wedi'i gydgynhyrchu mewn gwirionedd. Fe’i comisiynwyd gennym ni, mae’n cael ei gydgadeirio, ac mae angen inni ei gyflwyno yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd, yn ogystal â chyflawni—. Ac rydych wedi sôn am y materion hawliau dynol....
Jane Hutt: Diolch am eich cwestiwn dilynol. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi cyhoeddi’r cynllun ymdopi â thywydd oer ar 3 Rhagfyr, ac mae’n cynnwys 12 cam gweithredu sydd wedi’u cynllunio i gefnogi aelwydydd incwm isel i ymdopi â thywydd oer: cymorth ariannol, er enghraifft, i atgyweirio boeleri ar gyfer aelwydydd incwm isel ac i brynu tanwydd domestig ar gyfer cartrefi oddi ar y grid a...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy’n falch iawn eich bod wedi codi’r mater hwn. Cafodd sylw helaeth ddoe, fel y dywedoch chi, mewn cwestiynau gan Adam Price i’r Prif Weinidog, ond cwestiynau hefyd o bob rhan o’r—yn sicr gan Aelodau Llafur yn ogystal ag Aelodau Plaid Cymru ar yr argyfwng costau byw trychinebus y mae pobl yn ei wynebu. Yr hyn sy’n glir iawn yw bod angen inni alw...
Jane Hutt: Diolch am eich cwestiwn dilynol hynod bwysig, Sioned Williams, ac wrth gwrs, mae’n ymwneud â phwysigrwydd ein rhaglen Cartrefi Clyd, ac ers ei sefydlu yn 2009-10 hyd at ddiwedd mis Mawrth eleni, mae mwy na £394 miliwn wedi’i fuddsoddi i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi drwy’r rhaglen yng Nghymru, ac mae hynny wedi bod o gymorth i fwy na 67,100 o gartrefi, ac o fewn hyn, mwy na...
Jane Hutt: Mae aelwydydd yn profi argyfwng costau byw oherwydd prisiau ynni cynyddol a thoriadau i gymorth lles. Mae cynghorau'n cefnogi'r defnydd o gynllun cymorth tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru gan aelwydydd cymwys i'w helpu i gadw'n gynnes y gaeaf hwn, a bydd yn parhau i hyrwyddo'r cynllun dros yr wythnosau nesaf.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Huw Irranca-Davies, ac fel y dywedwch, mae prisiau ynni cynyddol yn rhan amlwg o'r argyfwng costau byw hwn. Os edrychwch yn ôl at yr hyn a ddywedodd Sefydliad Resolution mewn ymateb i gyllideb Llywodraeth y DU yn yr hydref, nodwyd bryd hynny, hyd yn oed os ystyriwn hefyd effaith y cynnydd cyflymach na'r cyfartaledd mewn enillion i'r cyflog byw cenedlaethol, y bydd yr un...
Jane Hutt: Mae hwn yn faes lle mae'n rhaid i Lywodraeth y DU gymryd cyfrifoldeb hefyd wrth gwrs. Diolch am y cwestiwn; mae'n bwysig. Rydym mewn sefyllfa lle mae pobl yn gorfod dewis rhwng gwresogi a bwyta, ac mae hynny i'w weld mewn cymaint o dystiolaeth bwerus. Ond mae hefyd, a bydd fy nghyd-Aelodau, rwy'n siŵr, am rannu hyn gyda chi—. Fe rannaf y llythyr rydym wedi'i ysgrifennu at y Gweinidog yn...
Jane Hutt: Rydym yn codi cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan yn rheolaidd gyda Llywodraeth y DU ac ers cyhoeddi'r cynllun, rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl galwad rhwng Gweinidogion y pedair gwlad, y ddiweddaraf ohonynt ddoe, ac rwyf wedi codi materion yn amrywio o fylchau yn y cymhwysedd i arafwch datblygiadau.
Jane Hutt: Diolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn pwysig ac amserol iawn hwn. Yn fwyaf arbennig, rwy'n ffodus imi gael cyfarfod â'r Gweinidog, Victoria Atkins, ddoe. Bydd unrhyw un sy'n cael ei adsefydlu neu ei ddanfon i Gymru yn cael ei gefnogi cyn belled ag y gallwn, fel cenedl noddfa, fel y dywedoch chi, a chyda'n partneriaid, o ganlyniad i'n partneriaeth â llywodraeth leol, dull amlasiantaethol...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Rwy'n cadarnhau fy mod wedi cyfarfod â Victoria Atkins, y Gweinidog Adsefydlu Affganiaid, ddoe. Yn wir, cyfarfûm â hi gyda Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon, ac roedd hi'n cyfarfod â chydweithwyr yn yr Alban hefyd. Byddwn yn cael deialog reolaidd. Gwnaeth y datganiad hwnnw yr wythnos diwethaf ar y cynllun adsefydlu dinasyddion Affganistan, ac rwyf eisoes...