Jane Hutt: Diolch yn fawr. Diolch yn fawr iawn, Darren Millar, a diolch am eich cydnabyddiaeth, yn enwedig nid yn unig o'n cefnogaeth i Ddiwrnod Cofio'r Holocost a'r digwyddiadau yr ydym ni'n cymryd rhan ynddyn nhw, ond hefyd o'n cefnogaeth o Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost, y cyllid a ddarparwn, ac rwy'n falch eich bod yn croesawu'r digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ledled Cymru. Yn wir, rwy'n...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams, a gawn ni ddiolch i chi hefyd am yr adroddiadau grymus hynny gan y goroeswyr hynny ac aelodau o'u teulu, a phwysigrwydd cydnabod bod yn rhaid i'r straeon hynny fyw a pharhau wrth iddyn nhw ein haddysgu—pob un ohonom ni—ac mae cymaint wedi cael eu cyffwrdd gan hynny? A bydd y straeon hynny'n cael eu clywed, wrth gwrs, yn ystod yr wythnos: ddydd Iau, Eva...
Jane Hutt: Ond, credaf fod hyn yn ymwneud hefyd—ac fe wnaethoch chi sôn am y cwricwlwm—y ffyrdd yr ydym ni'n estyn allan at ein plant a'n pobl ifanc, oherwydd ariannwyd Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost gennym i gynnal y rhaglen Gwersi o Auschwitz yng Nghymru. Mae'n cael ei gyflwyno ar-lein ar hyn o bryd, ond mae seminarau dan arweiniad arbenigwyr a thystiolaeth uniongyrchol gan oroeswyr yr...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone, a diolch am siarad dros eich etholwyr, cymuned Armeniaid a'r gyflafan, a hefyd eich pobl Iddewig a'ch cymuned a'ch teuluoedd yn eich etholaeth, a'n holl etholaethau yng Nghymru. Diolch am gydnabod rhai o'r erchyllterau a'r digwyddiadau brawychus sy'n arwain at newidiadau byd-eang, annibyniaeth India. Yn ddiddorol, heddiw, siaradais mewn digwyddiad ar undod...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Samuel Kurtz, ac a gaf i ddweud pa mor ddifyr yw dysgu mwy am ein Haelodau newydd o'r Senedd? Diolch yn fawr am y datganiad heddiw, Samuel, oherwydd soniais am Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost yn gynharach. Rwy'n gwybod—roedd hi ers 2008 pan oeddwn yn gyn-Weinidog addysg, pan fu i ni ddechrau cyllido Ymddiriedolaeth Addysgol yr Holocost—pa mor bwysig fu ariannu hynny,...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Delyth Jewell. Dywedaf yn syml fod pob gair a ddywedoch chi yn berthnasol ac yn bwysig i ni, nid yn unig heddiw wrth ymateb i'r datganiad hwn, ond yn y ffordd yr ydym ni'n symud ymlaen fel cynrychiolwyr etholedig, yn Weinidogion y Llywodraeth ac mewn cymunedau. Mae coffáu'r Holocost yn bwysig, i gydnabod ac i sicrhau nad ydym byth yn anghofio—byth yn anghofio—pa mor...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Peter Fox, a diolch, hefyd, am eich cyfraniad pwerus iawn y prynhawn yma, gan dynnu, fel y bydd llawer ohonom ni yn ei wneud ac wedi'i wneud y prynhawn yma, o'ch etholwr eich hun, o oroeswr, a'r goroeswr honno yn gallu rhannu ei stori a stori ei theulu, a'i goroesiad hi a'r effaith erchyll a gafodd yr Holocost ar ei bywyd, ond yn gallu rhannu hynny fel rhan o'r addysg...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Mae taliad cynllun cymorth tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru yn cael ei ddyblu o £100 i £200 wrth i’r argyfwng costau byw waethygu. Mae datganiad ysgrifenedig wedi’i gyhoeddi i fynd gyda fy nghyhoeddiad.
Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Rydym yng nghanol trychineb costau byw, fel y mae Sefydliad Resolution yn ei alw, a lansiwyd y cynllun cymorth tanwydd gaeaf hwn fel rhan o’r gronfa cymorth i aelwydydd i dargedu teuluoedd a’r rhai mwyaf agored i niwed mewn perthynas â'r cwestiynau sydd bellach yn wynebu llawer o deuluoedd ynghylch gwresogi neu fwyta. Mae hynny'n frawychus, onid...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch am dynnu sylw at y pwysau sydd ar eich etholwyr, y pwysau costau byw sydd mor real ac sydd mor fyw ac y clywir amdanynt bob dydd mewn adroddiadau gan Sefydliad Resolution, Sefydliad Bevan. Mae awdurdodau lleol yn chwarae eu rhan. Credaf fod y nifer sydd wedi manteisio, o ystyried yr amser rydym wedi'i gael—. Rydym wedi ymestyn yr amser ar gyfer hyn,...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Fe fyddwch yn ymwybodol, o’r gwaith rydych yn ei wneud fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fod y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, a minnau wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ymhell yn ôl ar ddechrau mis Ionawr. Rhannais y llythyr hwnnw gydag Aelodau’r Senedd....
Jane Hutt: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn i'w drafod heddiw? Mae'n amserol iawn eich bod wedi cyflwyno hyn i'w drafod yn y cyfnod cyn Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Gam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol, digwyddiad blynyddol sy'n ceisio dod â phobl at ei gilydd i gondemnio'r ymddygiad hwn ac i bwyso am newid. Rwyf hefyd yn falch o...
Jane Hutt: Gwnaf, yn wir.
Jane Hutt: Diolch. Dyna gyfraniad ychwanegol defnyddiol iawn i'r ddadl heddiw, gan weithio yn amlwg o ran yr heddlu'n mynd i'r afael â thrais domestig ar bob lefel, gan gynnwys trais ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol, sy'n ei ganlyn yn aml ac wedi'i gynnwys yn y digwyddiadau stelcio y clywsom amdanynt, ac yn sicr gan weithio gyda Chomisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr a Gweinidogion...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau tegwch a chynhwysiant mewn addysg. Mae ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn hyrwyddo mynediad i bawb. Mae'n rhaid i ysgolion a sefydliadau addysg bellach a gefnogir drwy'r rhaglen sicrhau bod eu hadeiladau yn caniatáu mynediad i ddisgyblion, myfyrwyr, staff ac ymwelwyr anabl.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams, am eich cwestiwn hynod bwysig ac am fwydo’r dystiolaeth honno’n ôl. Rydym yn mynd i’r afael ag anghenion dysgu ychwanegol o ganlyniad i’n hymrwymiad i hawliau plant a’n hymrwymiad i hawliau plant anabl, mewn gwirionedd, sydd wedi’u hymgorffori'n bendant iawn ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Felly, rydym yn buddsoddi ym mywydau...
Jane Hutt: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw hefyd. Wrth gwrs, mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol i baratoi strategaeth hygyrchedd, a hynny, mewn gwirionedd, ar gyfer yr ystâd addysgol gyfan. Rwy’n sylweddoli eich bod hefyd yn cyfeirio at feysydd chwarae yn y gymuned hefyd, sy’n gyfrifoldeb i awdurdodau lleol. Ond dyna lle y mae’r cyfrifoldebau statudol a nodir yn ein Mesur...
Jane Hutt: Diolch, Delyth Jewell. Wrth i’r argyfwng costau byw waethygu, rydym wedi dyblu'r taliad cymorth tanwydd gaeaf, o £100 i £200, ac wedi ymestyn ein cyllid ar gyfer banciau bwyd, partneriaethau bwyd cymunedol a hybiau cymunedol.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn defnyddiol iawn, oherwydd gallaf roi ymateb llawn i chi yn awr ar y cynlluniau ar gyfer yr uwchgynhadledd bord gron ddydd Iau nesaf, 17 Chwefror. Rydym wedi gwahodd pob un o’r sefydliadau sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn tlodi ledled Cymru. Yn amlwg, mae hynny’n cynnwys nid yn unig y rheini sy'n ymwneud â thlodi bwyd—Ymddiriedolaeth Trussell...
Jane Hutt: Wel, o ran eich Llywodraeth chi, hoffwn pe byddent yn gwrando ar ein galwadau i sicrhau y telir am y costau a roddir ar filiau cartrefi, y costau cymdeithasol hynny, ac yn wir, y costau amgylcheddol, drwy drethiant cyffredinol. Dyna ein galwad ar Lywodraeth y DU, a hefyd, eu bod yn cynyddu’r gostyngiad Cartrefi Clyd. Mae'r ffaith eu bod yn cyhoeddi ad-daliad nad yw'n dod i mewn, fel y...