Canlyniadau 1441–1460 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Chw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr am eich cwestiwn gwirioneddol bwysig ar yr argyfwng costau byw, ac yn benodol ar ein pryderon ynghylch trechu tlodi tanwydd. Gallaf ddweud wrth yr Aelod a'r Aelodau ar draws y Siambr, fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, rwy'n credu, y dylai 350,000 o bobl fod yn gymwys ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd gaeaf; mae'r £100 wedi dyblu yn y pythefnos diwethaf i £200; rydym wedi cael...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 9 Chw 2022)

Jane Hutt: Diolch. Unwaith eto, cyfraniad defnyddiol iawn, oherwydd, fel y dywedwch, Peredur, rydym yn ymgynghori ar iteriad nesaf rhaglen Cartrefi Clyd. Fe ddechreuodd ym mis Rhagfyr ac mae’r ymgynghoriad yn parhau tan 1 Ebrill, ac mae gennym banel cynghori ar dlodi tanwydd. Mae’r pwyntiau a wnewch yn bwysig iawn. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried y ddau yn amcanion y dylem fod yn anelu...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Biliau Tanwydd ( 9 Chw 2022)

Jane Hutt: Mae ein rhaglen Cartrefi Clyd bresennol ar gyfer aelwydydd incwm is yn arbed £300 y flwyddyn ar gyfartaledd drwy wella effeithlonrwydd ynni. Yn ogystal â hynny, ar 1 Chwefror, cynyddais ein taliadau cymorth tanwydd gaeaf i £200.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Biliau Tanwydd ( 9 Chw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Natasha Asghar. Mae hyn yn dangos pa mor drawslywodraethol yw’r maes polisi hwn, gan y bydd hwn hefyd yn gwestiwn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd, ond gall hefyd fwydo i mewn i’r ymgynghoriad rwyf newydd fod yn sôn amdano, wrth ymateb i’r cwestiwn ynglŷn ag effeithlonrwydd ynni, rhaglen Cartrefi Clyd a'r ymgynghoriad. Felly, yn amlwg, mae angen inni edrych ar bob...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Biliau Tanwydd ( 9 Chw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn. Credaf fod y gefnogaeth gref gan y Siambr hon—rhai o ochrau’r Siambr hon, beth bynnag—i alw am dreth ffawdelw, sef yr union beth y galwodd Julie James a minnau amdano yr wythnos diwethaf wrth ymateb i godi'r cap gan Ofgem, sydd wrth gwrs yn cael effaith ddinistriol ar aelwydydd ledled Cymru, ac yn enwedig yn eich etholaeth chi yn Islwyn—. Roeddwn yn cytuno'n gryf...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Sector Gwirfoddol ( 9 Chw 2022)

Jane Hutt: Diolch, Paul Davies. Os ydym am greu cymdeithas werdd, deg a chyfiawn, bydd gan y trydydd sector rôl allweddol i'w chwarae. Gall trydydd sector cadarn a bywiog helpu'r rheini yr effeithiwyd arnynt yn anghymesur gan y pandemig a'r argyfwng costau byw.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Sector Gwirfoddol ( 9 Chw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr am gwestiwn defnyddiol iawn, oherwydd roedd gennym gynllun adfer COVID ar gyfer y trydydd sector. Rwy'n cadeirio cyngor partneriaeth y trydydd sector; caiff ei gydgynhyrchu, mae'n nodi ein blaenoriaethau ar y cyd ac mae ganddo dair ffrwd waith: cymorth, cysylltiadau a gwirfoddoli. Mae gennym drydydd cam ein cronfa gwydnwch y trydydd sector hefyd gyda dros £6.5 miliwn ar gael,...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Pobl â Phroblemau Golwg ( 9 Chw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Yn ystod y pandemig, comisiynodd y fforwm cydraddoldeb i bobl anabl ymchwil ar yr effaith ar bobl anabl, gan gynnwys y rheini sydd â nam ar eu golwg. O ganlyniad, mae’r tasglu hawliau pobl anabl wedi cael ei sefydlu i edrych ar effaith y pandemig, ac un o’r blaenoriaethau cyntaf fydd mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Pobl â Phroblemau Golwg ( 9 Chw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Pobl â Phroblemau Golwg ( 9 Chw 2022)

Jane Hutt: Mae'n bwysig iawn fy mod yn tynnu sylw fy nghyd-Aelod, y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn arbennig, at Be My Eyes fel un enghraifft o sut y gallwn estyn allan at bobl sy'n ei chael yn anodd defnyddio profion llif unffordd am eu bod yn anhygyrch. Byddaf am ei godi gyda'n grŵp cyfathrebu hygyrch a sefydlwyd yn 2022 i drafod a goresgyn rhwystrau sy'n atal pobl rhag cael gafael ar...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ( 9 Chw 2022)

Jane Hutt: Mae dadansoddiadau ardaloedd megis Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru ynghyd â data rhaglenni yn helpu i lywio ein hymateb i dlodi mewn ardaloedd gwledig. Gwyddom y bydd cynnydd mewn chwyddiant a phrisau ynni, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer cynnyddu trethi, yn golygu bod mwy o aelwydydd yn ei chael hi’n anodd yn ariannol, gan gynnwys y rheini yn ardaloedd gwledig Canolbarth a Gorllewin...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ( 9 Chw 2022)

Jane Hutt: I have not met police forces on the specific issue of unregulated car washes.  However, we regularly engage the police and other partners on the Modern Slavery agenda, including in regular meetings of the Wales Anti-Slavery Leadership Group, Operational Delivery Group and Regional Anti-Slavery Groups. 

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ( 9 Chw 2022)

Jane Hutt: Fel rhan o’r gronfa Cymorth i Aelwydydd, cyhoeddais gyllid refeniw gwerth £500,000 i helpu sefydliadau bwyd cymunedol sy’n gweld cynnydd yn y galw o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar yr ymgodiad o £20 ar gyfer y rheini sy’n hawlio Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Gwaith.

12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau (15 Chw 2022)

Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig heddiw, y cynnig cydsyniad ar y fframwaith ar gyfer pennu oedran ym Mil Cenedligrwydd a Ffiniau y DU. Byddaf yn galw ar Aelodau i atal cydsyniad ar y cymalau ar y fframwaith ar gyfer pennu oedran yn y Bil hwn. Rwyf yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac...

12. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau (15 Chw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau pwerus i'r ddadl bwysig iawn hon y prynhawn yma? Fe ddechreuaf drwy ddiolch i Gadeiryddion y pwyllgorau—Cadeiryddion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—am y ffordd drylwyr y maen nhw wedi archwilio'r dystiolaeth ac wedi ystyried fy marn a fy safbwynt, a hefyd wedi...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif ( 1 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae mislif yn naturiol. Nid dewis mohono. Mae pob un ohonom ni naill ai'n ei gael, neu wedi ei gael, neu'n adnabod pobl sy'n ei gael. Nid rhywbeth budr mohono ac nid yw'n achos cywilydd. Ni ddylai neb fod o dan anfantais oherwydd eu bod yn cael mislif. Fe ddylai cynhyrchion mislif fod ar gael i bawb, yn ôl yr angen, i'w defnyddio mewn man preifat sy'n ddiogel...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif ( 1 Maw 2022)

Jane Hutt: Fe ddaeth cau ysgolion a lleoliadau cymunedol yn ystod penllanw pandemig COVID-19 â heriau yn ei sgil o ran sicrhau bod cynhyrchion mislif yn cyrraedd y rhai mewn angen ac, yn ôl ymchwil gan Plan International, roedd dros 1 miliwn o ferched yn y DU yn ei chael hi'n anodd fforddio neu gael gafael ar gynhyrchion mislif yn ystod y pandemig. Yng Nghymru, fe fuom ni'n gweithio gydag awdurdodau...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif ( 1 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Laura Anne, a diolch am fod mor adeiladol yn eich—. Wyddoch chi, mae pob un ohonom, y menywod yma, yn gwybod beth yr ydych chi wedi bod yn ei ddweud am eich profiadau, yn anffodus. Mae'n rhaid i ni wneud gymaint o newid, onid oes? Ond mewn gwirionedd, rwy'n credu mai un o'r pethau a ddywedais yn fy natganiad yw mai un o'n nodau yw cael y sgwrs genedlaethol hon, felly rydym...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif ( 1 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch, Sioned Williams, yn amlwg yn ymgyrchydd ar hyd eich oes o'r adeg honno pan oeddech yn fyfyrwraig ysgol bwerus iawn. Cawsoch y brotest honno yn eich ysgol a gwnaethoch wahaniaeth, gan ddangos eich bod yn barod i sefyll dros eich egwyddorion a dod â phobl at ei gilydd hefyd fel y gallen nhw deimlo eu bod wedi eu grymuso gan eich datganiad. Ac, wrth gwrs, rydym yn gwybod bod llawer o...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Urddas yn ystod mislif ( 1 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Rwyf yn cofio yn dda—rwy'n credu o bosib ein bod ni wedi ei gyd-lofnodi a'i drafod gyda'n gilydd—gan gyflwyno'r cynnig ychydig flynyddoedd yn ôl ar dlodi mislif ac urddas mislif, a dechreuodd hynny'r sgwrs yn y Siambr hon. Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar faterion yr effaith amgylcheddol o ran defnyddio cynhyrchion y gellir eu hailddefnyddio neu...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.