Alun Davies: Diolch yn fawr.
Alun Davies: Pa effaith ariannol y mae'r argyfwng costau byw wedi'i chael ar bobl oedrannus?
Alun Davies: Prif Weinidog, ydych chi'n cytuno â mi ei bod hi'n cymryd tipyn o wyneb i Geidwadwr feirniadu'r gwasanaeth iechyd gwladol? Un o'r problemau yr ydym ni wedi'u gweld dros y degawd diwethaf yw sut mae cyni wedi rhwygo'r galon allan o'n gwasanaethau cyhoeddus. Fe rwygodd Brexit y galon allan o'n heconomi. Yr hyn sydd angen i ni ei wneud i ddathlu 75 mlynedd ers i Aneurin Bevan sefydlu'r...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad llawn y prynhawn yma. Rwy'n credu bod pob un ohonom ni, ar bob ochr i'r Siambr a beth bynnag fo ein gwahaniaethau gwleidyddol ni, yn ddiolchgar iawn i bawb sy'n gweithio yn yr amgylchiadau presennol ledled y gwasanaeth iechyd gwladol ac mewn llywodraeth leol wrth ddarparu gofal cymdeithasol hefyd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod y pwysau...
Alun Davies: Nid yw hynny'n ddim syndod, onid yw, Prif Weinidog, y bydd rhywbeth a grëwyd gan Lywodraeth y DU hon yn cael effaith niweidiol ar Gymru? Mae'r Albanwyr wedi dysgu'r wythnos hon am ddiystyriaeth Llywodraeth y DU o ddemocratiaeth. Yr hyn yr ydym ni wedi ei ddeall yw bod gennym ni drefn rheoli cymorthdaliadau anhrefnus a gyflwynwyd ar ôl Brexit, pan nid realiti cymryd rheolaeth yn ôl oedd...
Alun Davies: Gweinidog, byddwch chi'n ymwybodol i grwner de Cymru wneud dyfarniad ddydd Gwener bod dwy nyrs a fu farw o ganlyniad i ddal COVID yn y gwaith wedi marw o glefyd diwydiannol. Yn amlwg bydd hyn yn cael rhywfaint o effeithiau sylweddol ar ddull gweithredu Llywodraeth Cymru wrth ymdrin â'r materion hyn. Rwyf i wedi codi materion yn ymwneud â gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn fy etholaeth i fy...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, er rhaid i mi ddweud fy mod yn gweld ei ymddiriedaeth yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig braidd yn druenus, ac o bosib yn anaddas. Rydym wedi cael dadl yn gynharach heddiw adeg y cwestiynau ynghylch y ffordd y mae'r drefn gymhorthdal yn cael ei rheoli, ac mae wedi dyfynnu ei hun y brad a fu ynghylch...
Alun Davies: Gwyddom fod y problemau economaidd sy’n ein hwynebu yn deillio o Stryd Downing—[Torri ar draws.]—a bod y rheoli economaidd di-glem yn Llundain, ynghyd â Brexit, wedi arwain at un o’r argyfyngau costau byw mwyaf a welwyd erioed i lawer ohonom. Nawr, mae hyn yn gwneud i'r Blaid Geidwadol chwerthin, wrth gwrs, oherwydd pan fydd pobl yn llwglyd, pan fydd pobl yn oer, nid ydynt yn malio...
Alun Davies: Wrth gwrs, y ffordd orau o gyflawni hyn, fel y gwyddom i gyd ar bob ochr i'r Siambr, fyddai mynd yn ôl i'r hen wyth sir lle mae gennych lywodraeth leol gyda digon o gapasiti a grym i allu cyflawni'r cynlluniau hynny. Rydych chi'n gwybod hynny, maent hwy i gyd yn gwybod hynny, ond dyna ni. Nid wyf am fynd ar drywydd hynny y prynhawn yma, bydd pawb yn falch o glywed. Ond yr hyn yr...
Alun Davies: Rwy’n ddiolchgar i’r Llywydd am ganiatáu imi gyfrannu at y pwynt o drefn hwn. Yn sicr, roedd yr hyn a ddigwyddodd y bore yma yn anffodus, ac rydym yn derbyn hynny. Fodd bynnag, rhoddwyd y Dirprwy Weinidog ei hun mewn sefyllfa anodd, ac nid wyf yn beio'r Dirprwy Weinidog o gwbl am amgylchiadau’r hyn a ddigwyddodd y bore yma. Credaf mai’r gwersi sydd angen i ni eu dysgu o ran y Rheolau...
Alun Davies: Rwy'n derbyn y pwynt rydych chi'n ei wneud, er na fyddwn i'n mynd yr holl ffordd i lawr creulondeb y llwybr hwnnw. Ond ni fydd prisio pobl allan o gar ond yn gweithio lle mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael. Mewn llefydd fel y rhai rwy'n eu cynrychioli, nid yw'r drafnidiaeth gyhoeddus honno ar gael, felly yr hyn a wnewch yw taro'r bobl dlotaf a mwyaf bregus.
Alun Davies: Mae hon bron â bod yn sgwrs bellach, ond—
Alun Davies: —mae fy etholwyr yn defnyddio'r meysydd parcio hynny, ac mae eich etholwyr chi sy'n gweithio yng nghanol y ddinas yn dibynnu ar y ffaith bod fy etholwyr yn defnyddio Caerdydd fel dinas leol. Ni chawn gyfle i wneud unrhyw beth heblaw gyrru i mewn i Gaerdydd. Mae angen hynny arnom, a'r perygl felly yw eich bod yn creu rhaniad rhwng Caerdydd a'r Cymoedd.
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor ac i dîm clercio'r pwyllgor am gynhyrchu'r adroddiad hwn. Wrth gwrs, y prawf y byddaf yn ei sefydlu ar gyfer polisi'r Llywodraeth yw sut mae'n effeithio ar bobl Blaenau Gwent, oherwydd yr hyn a fwynheais leiaf—nid wyf yn gwybod a oedd hynny'n wir am unrhyw un arall—yn y ddadl gyda Jenny Rathbone yn gynharach oedd y gwahaniaeth ym mhrofiad pobl yng nghanol...
Alun Davies: Jenny, efallai y byddwch yn synnu, ond rwy'n dathlu fy mhen-blwydd yn bum deg naw y mis nesaf, felly mae fy meddyliau'n datblygu, gawn ni ddweud, ynglŷn â'r tocyn bws, ac efallai y dylwn ddatgan diddordeb ynddo. Ond edrychwch—
Alun Davies: Byddwn, fe fyddwn i'n barod i dalu £1. Ond rwyf hefyd yn credu efallai y dylem fod yn cynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim, neu gyfradd gyffredinol o £1 i bawb, i ble bynnag y byddant yn teithio, ar unrhyw adeg. Rwy'n credu bod angen inni feddwl am fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac gosod rhwystrau i drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, nid oes gennyf safbwyntiau di-ildio fel sydd gennym...
Alun Davies: —yn yr un ffordd ag y gwnawn ni mewn mannau eraill. Felly, rwy'n ddiolchgar am eich amynedd, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, wrth ateb y ddadl hon, rwyf am weld cydraddoldeb yn y ffordd y caiff pobl ar hyd a lled y wlad eu trin, ac rwyf am ichi basio prawf Blaenau Gwent. Rwyf am i chi ei basio'n rhagorol, ac rwyf am sicrhau ein bod yn cael buddsoddiad yn y bysiau, y rheilffordd, ac integreiddio...
Alun Davies: Rwyf bob amser yn ddiolchgar am onestrwydd y Gweinidog. Mae'n braf ei glywed, ac rydym i gyd yn ei werthfawrogi. Gadewch imi ddweud un peth, ac rwy'n edmygu eich dyfalbarhad gyda beic trydan. Pe baech yn byw yn Nhredegar y bore yma, ni fyddech wedi ei fwynhau. Ond ynglŷn â'r broblem yng Nghaerdydd, oherwydd mae'n fater pwysig, mae'n hynod annheg y byddai'n rhaid i fy etholwyr i ac etholwyr...
Alun Davies: Rwy'n croesawu datganiad y Prif Weinidog wrth ymateb i Llyr Gruffydd yn cefnogi datganoli Ystad y Goron. Rwy'n credu bod hwnnw'n gam pwysig iawn o ran darparu cyflenwadau ynni adnewyddadwy i Gymru, ac rwy'n edrych ymlaen at ddatganiad y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ddiweddarach y prynhawn yma ar y targedau hynny. Ond, Prif Weinidog, yn ogystal â sicrhau bod y gallu gennym ni i ddarparu'r...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad hi'r prynhawn yma, ac rwyf innau hefyd yn croesawu'r undod trawsbleidiol a welwn ni ar y pwnc hwn. Rwy'n falch ei bod hi wedi cyfeirio at raglen gan y BBC neithiwr, How the Holocaust Began, oherwydd rwy'n credu bod honno'n agwedd bwysig i ni ddeall—sut yr oedd pobl gyffredin yn ddioddefwyr ac yn gyflawnwyr yn yr Holocost. Ac rwy'n credu i'r...